
Bydd Gŵyl Gerdd Bangor yn gyfle i archwilio gofod, planedau, sêr a galaethau drwy gyfrwng cerddoriaeth a gwyddoniaeth a fydd yn ysbrydoliaeth i’r teulu cyfan. Caiff Cerddoriaeth y Bydysawd seinio yng nghyngerdd y pianydd a’r cyfansoddwr amryddawn Zubin Kanga, sy’n cynnwys comisiynau newydd gan Maja Palser a Claire Victoria Roberts, ynghyd â darnau eiconig gan George Crumb a Patrick Nunn.
Yn Theatr Bryn Terfel a than arweiniad Scott Wilson bydd data gwyddonol o Wrthdrawydd Hadron yn sail i greu synau electronig byw o fewn cyngerdd Electroacwstig CYMRU ac Ymchwil Electroacwstig Ensemble Birmingham (BEER), ynghyd â cherddoriaeth acwsmatig gan Jo Thomas.
Drwy gydol y diwrnod cynhelir y digwydiadau eraill o fewn gwahanol leoliadau yn Pontio, gyda chyfle i brofi y Planedariwm, cerddoriaeth i’r ieuengaf ohonom gyda Marie-Claire Howorth a chreu synau electronig oddi ar wefan BEER. Cawn ein cyfareddu gan gyfansoddiadau myfyrwyr a berfformir gan Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor a chaiff offerynwyr lleol gyfle i fyr fyfyrio dan arweiniad Ensemble Fusion Prifysgol Bangor. Ceir digwyddiadau eraill megis dosbarth meistr piano a syllu ar y sêr ar y nos Wener.

2 Chwefror 4:00yp – 6:00yp Neuadd Mathias, Ysgol Cerddoriaeth
£15 (cyfranogwyr) £3 (gwylwyr)
Bydd y pianydd cyfoes blaenllaw Zubin Kanga yn rhoi dosbarth meistr a chyflwyniad i dechnegau estynedig piano. Cynhelir y dosbarth meistr hwn mewn cydweithrediad â Chanolfan Gerdd William Mathias, Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn a Phrifysgol Bangor.

2 Chwefror Sesiynau rhwng 6:30yp – 11:30yp Ymgynnull yng Nghyntedd Ysgol Cerddoriaeth
Am ddim (Rhaid archebu)
Diddordeb mewn seryddiaeth? Eisiau gwell golwg ar yr awyr ar noson glir? Beth am fynychu’r digwyddiad hwn lle ceir cyfle gwych i syllu ar y lleuad, planedau a’r sêr gyda telesgopau pwerus dan gyfarwyddyd yr arbenigwr Andrew Newsam (Prifysgol John Moores Lerpwl).

3 Chwefror 10:00yb – 11:00yb / 11:00yb – 12:00yp Lefel 0, Pontio
Am ddim (Rhaid archebu)
Bydd Marie-Claire Howorth yn cynnal gweithdy cerdd llawn hwyl i blant 4 – 7 oed, gan ddefnyddio caneuon a gemau er mwyn cyflwyno’r plant i elfennau craidd cerddoriaeth.
Yn addas i blant 4 – 7 oed gyda goruchwyliaeth rhiant/gwarcheidwad.

3 Chwefror 10:00yb – 11:45yb Gofod Cyd-weithio Cyhoeddus, Lefel 5, Pontio
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Tŷ Cerdd, ar agor i aelodau TC yn unig.

3 Chwefror 10:00yb – 12:00yp (Pob hanner awr) Darlithfa 2, Pontio
Am ddim (Rhaid archebu)
Addas i blant 10+ oed

3 Chwefror 12:00yp – 1:00yp Lefel 2, Pontio Am ddim
Trylediad sain o ddarn eiconig gan David Bedford, Great Equatorial wedi ei dryledu drwy uchelseinyddion ym mannau cyhoeddus trawiadol Pontio.

3 Chwefror 1:00yp Stiwdio, Pontio
£12, £10 (Henoed), £5 (Myfyrwyr a Phlant)
Bydd y pianydd cyfoes blaenllaw Zubin Kanga yn cyflwyno ystod eang o gerddoriaeth a ysbrydolwyd gan y gofod a seryddiaeth.

3 Chwefror 2:15yp – 3:00yp Llwyfan Bar Ffynnon, Pontio Am ddim
Fusion Ensemble – cerddoriaeth am ddim wedi ei fyr-fyfyrio wedi ei ysbrydoli gan y lleuad.

3 Chwefror3:00yp – 4:00yp / 4:00yp – 5:00yp Darlithfa 2, Pontio
Am ddim (Rhaid archebu)
Dan arweiniad Scott Wilson, bydd cyfranogwyr o wahanol oedrannau yn medru arbrofi gyda gwefan newydd BEER sy’n galluogi newid synau electronig ar lein.

3 Chwefror 3:00yp – 4:00yp / 4:00yp – 5:00yp Bar Ffynnon, Pontio Am ddim
Dewch i ymuno yn y byr-fyfyr gydag aelodau o Ensemble Fusion, Prifysgol Bangor. Addas ar gyfer unrhyw oedran a gallu offerynnol. Dewch a’ch offeryn gyda chi!

3 Chwefror 5:00yp – 6:00yp Lefel 2, Pontio Am ddim
Cyfansoddiadau newydd gan Fyfyrwyr Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor, wedi eu hysbrydoli gan galaethau pell, ac hefyd yn cynnwys darn gan Murphy.

3 Chwefror 6:00yp Darlithfa 2, Pontio Am ddim (Rhaid archebu)

3 Chwefror7:30yh Theatr Bryn Terfel, Pontio
£15, £12 (Henoed), £5 (Myfyrwyr a Phlant)
Mae’r perfformiad hwn gan Ensemble Birmingham ar gyfer Ymchwil Electroacwstig (BEER), a grëwyd mewn cydweithrediad â’r prosiect Art@CMS yn CERN yn y Swistir, yn ymwneud â chreu seiniau hefo ffrydiau data byw o’r Gwrthdrawydd Mawr Hadron.
[logo-carousel id=2018]
01248 382828
Pontio, Ffordd Deiniol, Bangor, LL57 2TQ
Cysylltwch yn uniongyrchol â’r ŵyl ynglŷn â'n digwyddiadau sy'n cael eu cynnal y tu allan i Pontio.
