Yn ei 13eg flwyddyn bu Gŵyl Gerdd Newydd Bangor 2013 (9 – 14 Mawrth) unwaith eto yn bywiogi a swyno cynulleidfaoedd gyda dathliad o gerddoriaeth werin gyfoes ynghyd a gweithiau a ysbrydolwyd gan gemau o’n plentyndod.

Gweithdy 1: Catrin Finch ac Owain Llwyd
Gweithdai Gwerin a Jazz ar gyfer myfyrwyr lefelau UG ac Uwch, gyda Catrin Finch ac Owain Llwyd.
Gweithdy 2: Cestyll Cymru
Cyfres o weithdai ar gyfer offerynnau taro. Dewi Ellis Jones a Bardd Cymru, Eurig Salisbury yn darparu ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 6.
Gweithdy 3: Electroacwstig Cymru
Gweithdai electroacwstig gyda’r cyfansoddwr Edward Wright ar gyfer dysgwyr oed cynradd.
Gweithdy 4: Cerddoriaeth Traddodiadol gyda Psappha
Teyrnged i weithdai Folk Music gyda’r cyfansoddwr, Katherine Betteridge ac ensemble cyfoes, ‘Psappha’ ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 6.
Catrin Finch a’r Band (jazz)
Catrin Finch (telyn)
Richard Metherell (allweddellau)
Iestyn Jones (bas)
Daniel Pressley (drymiau)
Gan fynd â chynulleidfaoedd i dir ieuenctid tragwyddol a gwledda diddiwedd, bydd y delynores enwog o Gymru, Catrin Finch, yn serennu yn y gyngerdd hon. Fel y mae’r enw’n awgrymu, mae albwm Finch o 2011, Annwn, yn cael ysbrydoliaeth o chwedloniaeth hynafol Cymru i greu delweddau o’r ‘Byd Arall’.
Dosbarth Meistr a Chyngerdd gyda Catrin Finch a disgyblion Canolfan Gerdd William Mathias
Mae Canolfan Gerdd William Mathias yn darparu hyfforddiant offerynnol a lleisiol yng Nghaernarfon ac yn ddiweddar wedi agor ail ganolfan gerdd yn Ninbych gan ehangu’r ddarpariaeth o addysg cerddorol yng Ngogledd Cymru.
Cynhaliwyd dosbarth meistr ar gyfer disgyblion CGWM am 2:00yp wedi ei ddilyn gan gyngerdd am 7:00yh. Roedd y cyngerdd yn cynnwys amrywiaeth o ddarnau gan y myfyrwyr, y rhan helaeth o’r repertoire o’r 20fed ganrif ynghyd a darnau eraill o repertoire bresennol y myfyrwyr. Ymhlith y darnau a berfformiwyd gan Catrin Finch roedd cyd-gomisiwn gan Owain Llwyd.
Gwenno Morgan (piano)
Morgana Warren-Jones (llais)
Pippa Scourse (trwmped)
Luke Iwan Price (piano)
Pedwarawd Llinynnol CGWM
Cestyll, Barddoniaeth a Cherddoriaeth
Dewi Ellis Jones (offerynnau taro) & Eurig Salisbury (bardd)
7:30yh yng Nghapel Penrallt Bangor.
Wedi’i hysbrydoli gan gestyll ac alawon gwerin, rhoddodd y cyngerdd le amlwg i gyfansoddiadau a barddoniaeth gan ddisgyblion o Lanberis a Chaernarfon. Ymunodd Bardd Plant Cymru, Eurig Salisbury gyda’r offerynnwr taro Dewi Ellis Jones mewn perfformiad ddramatig o greadigaethau artistig gan bobl ifanc.
Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor: Gwyddbwyll
Yn dilyn perfformiad ar y Stryd Fawr ym Mangor, fe gymerodd Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor ran mewn cyngerdd yn Neuadd Powis. Wedi ei ysbrydoli gan y plentyn sydd ynom ni gyd, gwelodd y cyngerdd myfyrwyr o Ysgol Gerdd Prifysgol Bangor yn creu seinluniau drwy gyfwng sgorau graffig. Gan gyfuno’r gerddoriaeth gyda gemau a naws ddigri fe grëwyd seinluniau sy’n mynd a ni’n ôl i ddyddiau’n ieuenctid.
Electroacwstig CYMRU
Peiman Khosravi: Convergences
Roy Woods: “……………..how time passes……….” (premiere)
Kimon Emmanouil Grigoriadis: Pandora (premiere)
Peiman Khosravi: video piece
— Egwyl —
Disgyblion Ysgol y Graig, Llangefni: gwaith newydd (premiere)
Steven Tunnicliffe: gwaith newydd (premiere)
Richard Nelmes: Hiraeth (premiere)
Peiman Khosravi: Vertex
Fe groesawodd Electroacwstig Cymru Peiman Khosravi a myfyrwyr ôl-raddedig gan arddangos rai o weithiau gorau celfyddyd sonig a grëwyd yn stiwdios Prifysgol Bangor. Mae cerddoriaeth Khosravi yn creu bydoedd sain â mynegiant pwerus amneidiol sy’n rhoi ystyriaeth arbennig i fanylder mewnol gwrthrychau a gweadau sain.
Teyrnged i Berio – Psappha
Katherine Betteridge: Belovodia (premiere a chomisiwn GGNB)
Patricia Alessandrini: Black is the colour…(Omaggio à Berio) (premiere DU)
Andrew Lewis: Il re lunaire (premiere a chomisiwn GGNB)
Luciano Berio: O King
— Egwyl —
Darn buddugol Gwobr Gyfansoddi William Mathias (premiere)
Disgyblion Ysgol Brynaerau a Thalysarn: gwaith newydd (premiere)
Luciano Berio: Folk Songs [23’]
Cynhaliwyd y cyngerdd hon yn Neuadd Penrhyn, Bangor, a fe roddodd le blaenllaw i gyfansoddwyr o Brifysgol Bangor a phlant o ysgolion leol gan dalu teyrnged i’r cyfansoddwr Eidalaidd, Luciano Berio.