Amdanom Ni

Mae GGB yn gorff elusennol sydd â’i fryd ar gyflwyno cerddoriaeth gyfoes a berfformir gan artistiaid o’r safon uchaf, ac mae gennym ymrwymiad cryf i gyfoethogi ac addysgu’r gymuned yng Ngogledd Cymru trwy weithdai a chyngherddau. Rydym yn gweld cerddoriaeth fel ffurf fyw a ffyniannus ar gelfyddyd, ac mae ein gŵyl yn adlewyrchiad ar ein brwdfrydedd dros gerddoriaeth newydd.
Mae’r Ŵyl yn rhoi ysbrydoliaeth, hwb ac yn fwy na dim, cefnogaeth i gerddorion cyfoes o bob oedran ar draws y Deyrnas Unedig. Trwy gefnogaeth hael a pharhaus y gymuned, rydym wedi llwyddo i gynnal gwyliau er 2000.
Amcanion yr ŵyl yw:
• rhoddi cyfle i’r cyhoedd brofi a dysgu am gerddoriaeth gyfoes
• comisiynu a/neu berfformio cerddoriaeth gan gyfansoddwyr o wahanol wledydd
• annog disgyblion, myfyrwyr a’r cyhoedd i gyfansoddi a pherfformio cerddoriaeth newydd
• Bob blwyddyn ymdrecha’r ŵyl i gyflwyno’r datblygiadau a’r tueddiadau diweddaraf o fewn cerddoriaeth gyfoes, gan roddi lle blaenllaw i gerddoriaeth siambr, digwyddiadau aml-gyfrwng, cerddoriaeth electroacwstig ynghyd â cherddoriaeth arbrofol. Fel canolbwynt i’r digwyddiadau fe berfformir darnau gan gyfansoddwyr o fri rhyngwladol, sy’n aml yn bresennol yn y cyngherddau.

STAFF YR ŴYL

GUTO PRYDERI PUW (CYFARWYDDWR ARTISTIG)

Bûm yn Gyfarwyddwr Artistig yr ŵyl ers ei sefydlu yn 2000, ond mae’r mwynhad a’r cyffro o drefnu y gerddoriaeth ddiweddaraf ym Mangor a’r ardal gyfagos yr un mor bleserus ag erioed! Mae hi mor werthfawrogol pan fydd y gynulleidfa’n gadael y digwyddiad wedi eu hysbrydoli a’u cyfareddu gan y gerddoriaeth. Mae’n dangos fod yr holl waith caled yn dwyn ffrwyth! Darlithydd Cerddoriaeth yn yr Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor yw fy swydd o ddydd i ddydd, ond fy (mhrif) angerdd yw cyfansoddi. Ar hyn o bryd rwy’n cyfansoddi darn ar gyfer organ stryd Iseldireg i’w berfformio yn ystod Gŵyl Bro Morgannwg ym mis Mai 2019. (Fy ‘edrychiad academaidd’ yw’r llun gyferbyn!)

SEREN HÂF JONES (CYNHYRCHYDD YR ŴYL)

Mae Seren yn delynores a ddaw o Goedpoeth, tu allan i Wrecsam. Graddiodd yng Ngorffennaf 2018 gyda gradd BMus mewn cerddoriaeth ac yn 2022 gyda gradd Meistr mewn Cerddoreg o Brifysgol Bangor. Tu allan i Ŵyl Gerdd Bangor mae Seren yn rheoli prosiect Canfod y Gân yng Nghanolfan Gerdd William Mathias ac yn gweithio'n llawrydd.

2016

2017

2018

2019

2020

2021