
Mae tocynnau ar gael o Swyddfa Docynnau Pontio (01248 382 828)
Pa well ffordd i ddathlu penblwydd Gŵyl Gerdd Bangor yn ugain oed na chynnwys cyngherddau sy’n cloriannu ei phrif egwyddorion, sef y newydd, arloesedd a’r arbrofol a’u gweu’n naturiol o amgylch y thema amserol Iechyd a Lles? O ganlyniad, gwahoddir yr ensemblau arloesol UPROAR ac Electroacwstig CYMRU, y pianydd talentog ifanc Siwan Rhys, cyn cloi gyda chynhyrchiad arbrofol Exploration in Sound mewn perfformiadau cyffrous a gafaelgar o fewn adeilad mawreddog Pontio.
Dethlir cerddoriaeth newydd ymhellach gyda chomisiynau gan Juan Pablo Barrios a Tom Sissons, darnau newydd gan Jordan Hirst, Ashley John Long, Niamh O’Donnell, David Roche, Joss Smith a Jerry Zhuo fel rhan o’r prosiect CoDI SAIN, cerddoriaeth wedi ei gyfansoddi’n arbennig ar gyfer yr organ stryd Astrid, ynghyd â llawer o ddarnau newydd gan fyfyrwyr cyfansoddi Ysgol Gerdd a’r Cyfryngau, Prifysgol Bangor.
Mae cerddoriaeth ar gael i bawb yn y gymdeithas a phleser medru cydweithio gyda sefydliadau o’r un anian i ddarparu Camau Cerdd i’r aelodau ieuengaf, sesiynau Yoga ar gyfer pob oedran a chyfle i glywed perfformiadau Canfod y Gân.
18:00 – 19:15
Swgrs cyn-gyngerdd gyds Deorah Keyser (Tŷ Cerdd) gyda cyfansoddwyr y gyngerdd CoDI SAIN. Derbyniad diodydd i ddilyn.
19:30-21:00, Bocs Gwyn, Pontio
(mewn cydweithrediad gyda Tŷ Cerdd ac Ysgol Cerdd a’r Cyfrnyngau, Prifysgol Bangor)
UPROAR a Michael Rafferty gydag Elecroacwstig CYMRU ac Andrew Lewis
Cyngerdd uchafbwynt y prosiect CoDI SOUNDS gyda Tŷ Cerdd lle cafwyd cydweithio rhwng UPROAR ac Electroacwstig CYMRU i greu gweithiau newydd gan gyfansoddwyr ifanc ac addawol, Jordan Hirst, Ashley John Long, Niamh O’Donnell, David Roche a Jerry Zhuo.
Pris: £16.00, £15.00 (consesiwn), £5.00 (myfyrwyr/plant)
10-00-11:00, 11:00-12:00, 12:00-13:00, Lefel 0, Pontio
Ar y thema ‘Pobl yn ein Bywydau’ gyda Marie-Claire Howarth yn cyflwyno cerddoriaeth i blant 6 min – 3 mlwydd oed a 4-7 mlwydd oed (mewn cydweithrediad gyda Canolfan Gerdd William Mathias).
Pris: £5.00 (y plentyn)
Mae archebu lle yn hanfodol a bydd angen i rieni/warchodwyr aros gyda’r plentyn yn ystod y gweithdy.
10:30-12:00, PL2, Pontio
Y Cyfansoddwr Gwydn: methiant, adboeth a dewRder
Dan arweiniad Richard Whitelaw (hyfforddwr a chwnselydd)
Mae’n amlwg bod dechrau fel cyfansoddwr proffesiynol yn anodd iawn: er y gallech ei wneud yn anoddach nag y mae angen iddo fod. Yn y sesiwn hon byddwn yn archwilio sut y gall eich safbwyntiau ar eich gorffennol, eich ymddygiad yn y presennol a’ch dull gweithredu i’r dyfodol o bosibl weithio yn eich erbyn. Efallai eich bod yn rhwystro eich hunan ac yn difrodi’ch hun heb fod yn ymwybodol. Byddwch yn gadael gyda rhai strategaethau newydd ac efallai persbectif newydd ar eich stori gyfan.
12:00-12:45, PL2, Pontio
Bydd Cyfarwyddwr Artistig yr ŵyl, Dr Guto Pryderi Puw yn edrych ymlaen at gyngerdd y prynhawn gyda’r cyfansoddwyr comisiwn Tom Sissons a Juan Pablo Barrios, enillwyr Gwobr Cyfansoddi William Mathias y llynedd.
13:00-14:00, Stiwdio, Pontio
Siwan Rhys (piano)
Gan gymryd Transit gan y cyfansoddwr Iseldireg Michael van der Aa fel man dechrau bydd y cyngerdd hwn yn archwilio unigrwydd fel ei ysbrydoliaeth artistig, lle bydd y cyfansoddwyr Juan Pablo Barrios a Tom Sissons yn ychwanegu eu hargraff eu hunain ymhellach ar y thema gyda’u comisiynau newydd gan yr ŵyl (fel rhan o Wobr Cyfansoddi William Mathias). Yn ogystal, ymdeimlad o hiraeth ac atgofion fydd y ffocws yn y darn diweddar gan Joanna Baille, Roll Call.
Pris: £13.00, £12.00 (consesiwn), £5.00 (myfyrwyr/plant)
14:15-14:45, 14:45-15:15, 15:15-16:0, Bocs Gwyn, Pontio
Tawelu’r meddwl gyda dosbarth Ioga. Dwy sesiwn flasu ar gyfer plant a sesiwn ar gyfer oedolion.
Pris: £5.00 (oedolion), £3.00 (plant)
14:15-15:00, Lefel 2, Pontio
(mewn cydweithrediad gyda Chanolfan Gerdd William Mathias)
‘Mae gan bawb gân i’w chanu ac mae pawb yn haeddu’r cyfle i ddarganfod a rhannu eu cân’
Bwriad ein prosiect yw defnyddio cerddoriaeth fel arf i gynnal a gwella iechyd meddwl a lles. Drwy gynnal sesiynau cerddorol cyson, cynnig cyfleoedd i berfformio a chyfresi o gyngherddau mae ein grwpiau yng Nghaernarfon, Pwllheli a Harlech yn cael cyfleoedd i gysylltu âi gilydd a’r gymuned, a rhoi llwyfan i’w syniadau, eu sgiliau a’u doniau – gan ‘ddarganfod a rhannu eu cân’.
Daw ein grwpiau cerddoriaeth cynhwysol ynghyd lle bydd oedolion gydag anableddau dysgu ac oedolion heb anableddau dysgu, yn cymryd rhan yn gyfartal drwy berfformio, byrfyfyrio, creu a chymdeithasu.
Dewch draw i fwynhau gyda grŵp Caernarfon fydd yn eich tywys ar eu siwrne cerddorol fydd yn cyflwyno caneuon sy’n bwysig iddynt, caneuon a rapiau gwreiddiol yn ogystal â gwaith byrfyfyr fydd yn eich hysbrydoli.
15:00-16:00, Lefel 2-4, Pontio
Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor
Cyfansoddiadau newydd wedi’u hybrydoli gan ddeialog gerddorol gan fyfyrwyr cyfansoddi yn yr Ysgol Cerdd a’r Cyfryngau, Prifysgol Bangor.
12:00-13:00, Cloc Bangor, Stryd Fawr
16:00-17:00, Lefel 2, Pontio
(mewn cydweithrediadu gyda Gŵyl Bro Morgannwg)
Francis Stapleton a David Roche
Perfformiadau o ddarnau gan ddeg o gyfansoddwyr.
18:00 & 18:45
Cyflwyniadau byr ar Astudiaethau Achos diweddar gan fyfyrwyr ôl-raddedig Alistair O’Mahoney a Rachel Priamo gyda thrafodaeth da arweiniad Dr Gwawr Ifan. Derbyniad diodydd am 18:45.
19:30-20:30, Theatr Bryn Terfel, Pontio
Dychwelyd
Exploration in Sound
Katherine Betteridge (ffidil)
Sioned Eleri Roberts (clarinetau)
Duncan Chapman (celf sonig)
Côr Siambr Prifysgol Bangor
Pedwarawd Llinynnol Prifysgol Bangor
Bydd y cyfansoddwyr a’r perfformwyr Katherine Betteridge (ffidil), Sioned Eleri Roberts (clarinetau) a Duncan Chapman (celf sonig) yn archwilio ein perthynas â natur wrth ein tywys ar daith trwy fytholeg y môr Celtaidd.
Camwch i fyd chwedlonol o selkies a chreaduriaid y môr, a chaniatau i’ch synhwyrau cael eu tywys ar daith ddyfrllyd yn ôl i’r môr, yn ôl i’r hunan. Mae Dychwelyd yn gynhyrchiad amlddisgyblaethol, gan defnyddio cerddoriaeth, golau a symudiad i archwilio chwedl hynafol sy’n seiliedig ar ddŵr. Paratowch i arnofio i oes arall, amser maith yn ôl, ac ymcwhilio i’r secoleg ddynol.
Pris: £16.00, £15.00 (consesiwn), £5.00 (myfyrwyr/plant)
Mae tocynnau ar gael o Swyddfa Docynnau Pontio (01248 382 828)