Rhaglen

Caryl Hughes (soprano), Paul Carey Jones (bariton) & Wyn Davies (piano)

John Metcalf : Auden Songs (1973) – Caneuon y Gerddi (1999) – In Time of Daffodils (2006) – Mi gerddaf gyda thi (2017) – Under Milk Wood (2014).

Nodiadau Rhaglen

Auden Songs (1973)

Cyfansoddwyd fy Auden Songs yn 1974 i gomisiwn gan Ŵyl Caerdydd. Llifodd y cyfansoddiadau yn rhwydd ac o  ganlyniad y rhain yw’r cylch cynharaf o ganeuon yr wyf yn fodlon gyda hwy. Wrth eu cyfansoddi yn fodlon nid oeddwn yn ymwybodol o nifer o osodiadau gan gyfansoddwyr eraill, yn enwedig rhai Britten.  

Mae tri pennill digyfeiliant o ‘Warm are the still and lucky miles’, heblaw am yr ail bennill gyda nodyn pedal, yn datgan, atalnodi a diweddu’r gyfres o osodiadau, sydd a ganlyn yn y datganiad hwn: 

  1. Warm are the still and lucky miles
    5. Driver, drive faster (Calypso)
    6. Silence invades the breathing wood (ail bennill o ‘Warm are the still and lucky miles’)
    8. Make this night loveable, Moon (Nocturne)
    9. Restored! Returned! The lost are borne (trydydd pennill o ‘Warm are the still and lucky miles’)

Caneuon Gerddi (1999)

Yn fuan yn 1999 fe’m comisiynwyd i ysgrifennu gwaith corawl ar gyfer agor y gerddi adnewyddedig yn Aberglasney ger Llandeilo, de orllewin Cymru. Derbyniais gymorth gan John Trefor, cynhyrchydd gyda BBC Wales, i ymchwilio barddoniaeth am erddi gan feirdd cynnar Cymreig. Roedd canlyniadau’r ymchwil hwn mor gyfoethog fel nad oedd modd defnyddio nifer fawr o’r farddoniaeth bleserus ar gyfer y comisiwn unigol.

Ar yr un pryd roedddwn yn gweithio ar gylch byr o ganeuon, a gomisiynwyd gan Jeremy Huw Williams. Roeddwn wedi’m denu at symylrwydd, ceinder a natur ddigyfnewid y farddoniaeth ‘gerddi’ a phenderfynais osod pedair fel grŵp ar gyfer y comisiwn dan sylw. Nid hwn oedd y comisiwn cyntaf i mi gael fy ysbrydoli gan erddi, ysgrifenwyd fy narn ‘Paradise Haunts…’ i feiolin a phiano yn 1995 mewn ymateb i ardd eithriadol y gwneuthurwr ffilm, Derek Jarman.   

Mae’r caneuon yn ‘Caneuon y Gerddi’ yn ffurfiau bychain ac yn argraffiadau byrhoedlog ar fyd digynnwrf a hynod ddatblygedig y tai aristocrataidd yng Nghymru’n yr unfed ganrif ar bymtheg. Mae pob un wedi ei seilio ar syniad cerddorol minimalistaidd syml.     

Comisiynwyd ‘Caneuon y Gerddi’ gan Jeremy Huw Williams gyda chyfraniad ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, gyda’r perfformiad cyntaf yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ar 18fed o Fai 1999.

Mi Gerddaf Gyda Thi (2016)

Gosodwyd geiriau prydferth y gerdd hon gan fardd anhysbys gan y cyfansoddwr fel rhodd anhysbys i’w wraig Dolly Yang yn Ebrill 2016. Perfformiwyd y gân gan Elinor Bennett yn ystod gwasanaeth y briodas.  

Mi gerddaf gyda thi dros lwybrau maith,

A blodau, cân a breuddwyd ar ein taith;

I`th lygaid syllaf i a dal dy law:

Mi gerddaf gyda thi, beth bynnag ddaw. 


Mi gerddaf gyda thi pan fydd y lloer
Fel llusern yn y nen ar noson oer.
A ddawaf i ti’n ghalon i yn llwyr:
Mi gerddaf gyda thi drwy oriau’r hwyr.

Mi gerddaf gyda thi drwy weddill f’oes,
Pan fydd yr haul ar fryn neu’r dyddiau’n groes;
A phan ddaw’r alwad draw, pwy wyr pa awr,
Mi gerddaf gyda thi i’r freuddwyd fawr.

In Time of Daffodils (2006)

Datblygodd In Time of Daffodils o fewn ei ffordd unigryw ei hun. Y man dechrau pedd comisiwn gan Jeremy Huw Williams i ysgrifennu cylch byr o ganeuon ar gyfer llais a phiano. Ysbydolwyd llawer o feirdd gan flodau ac yn benodol mae nifer o gerddi prydferth am genin pedr. Roedd y syniad hwn yn symbyliad digon cryf i ddilyn y trywydd ond roedd hefyd o gymorth i gael thema mor glir a chyson, gyda’r cysylltiadau amlwg gyda’r Gwanwyn (lle bwriadwyd cynnal y perfformiad cyntaf) a chyda Cymru yn ysgogiad pellach. O ddewis ‘To Daffodils’ gan Herrick, ‘To an Early Daffodil’ gan Lowell a’r gerd enwog gan Wordsworth, roeddwn yn barod i weithio arnynt. 

Yn y cyfamser, cyrhaeddodd comisiwn gan BBC Radio 3 am waith cerddorfaol i nodi fy mlwydd yn drigainoed . Yn fuan daeth yn amlwg bod cylch caneuon fwy cynhwysfawr yn bosibl ac fe ychwanegwyd tair cerdd arall – ‘The Lent Lily’ gan Housman, y prolog enwog i ‘Endymion’ gan Keats ac ail gerdd gan Amy Lowell – ‘White and Green’.   

Yn ystod y datganiad hwn, y dair cerdd cyntaf a ddewisir ac maent, ar y cyfan, yn gyfarwydd iawn, yn enwedig y Wordsworth – sydd o bosibl yn un o’r mwyaf adnabyddus o holl gerddi Saesneg. Awgryma Housman ddarlun grymus o fyd gwledig coll tra bod cerdd Amy Lowell yn cynnwys delweddau synhwyrus ac egni soniarus disglair sy’n atgofus o’r blodyn ac yr amser o’r flwyddyn. 

Caiff teitl y darn ei ddwyn o linell gyntaf o gerdd gan ee cummings (na chafwyd ei gosod).

Under Milk Wood: an opera (2014)

Yn 1954 creodd Dylan Thomas gynnwrf llenyddol gyda’i ddrama ar gyfer lleisiau, Dan y Wenallt (Under Milk Wood). Trigain mlynedd yn ddiweddarach, torrodd John Metcalf dir newydd wrth greu opera a oedd yn ailgreu byd Llareggub Thomas – y dref a aeth yn wallgof. Under Milk Wood: an opera – a restrwyd ar gyfer yr International Opera Awards 2015 – yw seithfed opera John.  

Mae Under Milk Wood: an opera yn gweu ieithwedd anarferol ddigrif a barddonol, cerddoriaeth offerynnol hynafol a chyfoes, ynghyd â synau byw ac wedi eu recordio. Mae’r byd seinyddol cymhleth a chywrain yn cael ei wireddu gan gwmni o 13 cantor ac aml-offerynwyr. 

Partner blaen y premiere byd oed Canolfan Gelfyddydau Taliesin (Cymru). Le Chien Qui Chante (Quebec) a Companion Star (Efrog Newydd) oedd y cyd-gynhyrchwyr a datblygwyd y cynhyrchiad mewn cydweithrediad gydag Opera Cenedlaethol Cymru. Perfformiwyd y premiere byd yn Nghanolfan Gelfyddydau Taliesin yn Abertawe ar 3 Ebrill 2014. Cyfarwyddwyd y cynhyrchiad gan Keith Turnbull a’r cyfarwyddwr cerdd oedd Wyn Davies, sydd hefyd yn cyfeilio yn y datganiad hwn.  

Pwyswch isod i wylio