JOHN METCALF

Ganwyd John yn Abertawe, Cymru, ym 1946. A chanddo ddinasyddiaeth ddeuol, yn ddinesydd y DU a Chanada, mae’n un o’r cyfansoddwyr mwyaf blaenllaw sy’n gweithio yng Nghymru heddiw. Mae ei yrfa gyfansoddi eisoes wedi cwmpasu amrywiaeth eang o waith gan gynnwys saith opera, dwy o’r rheini wedi’u comisiynu gan Opera Cenedlaethol Cymru. Cafodd ei bumed opera KAFKA’S CHIMP glod mawr pan berfformiwyd hi am y tro cyntaf yng Nghanada ym 1996; fe’i perfformiwyd yn Ewrop am y tro cyntaf yn Sweden ym 1999, ac am y tro cyntaf yn yr UD yn Pittsburgh yn 2004. Cafodd ei chweched opera, A CHAIR IN LOVE, ei premièrebyd yng Nghanolfan Gelf Taliesin, Abertawe, yn 2005 ac wedi hynny ei pherfformio am y tro cyntaf yng Ngogledd America yn Espace Go, Montreal. Cafodd ei seithfed opera, sy’n seiliedig ar UNDER MILK WOOD gan Dylan Thomas, ei pherfformio am y tro cyntaf gerbron cynulleidfa fawr, ac i ganmoliaeth uchel y beirniaid, yn 2014. Mae ei gerddoriaeth yn cael ei recordio’n eang. Mae disg cyfansoddwr sengl ar label Nimbus yn cynnwys ei waith mawreddog Cello Symphony, ar Signum Classics mae disg o weithiau cerddorfaol a berfformir gan Gerddorfa Genedlaethol Cymru’r BBC, a disg ddilynol o gerddoriaeth siambr –LLWYBRAU CÂN. Mae ei opera UNDER MILK WOOD ar label Tŷ Cerdd. Hefyd ar yr un label mae disg o gerddoriaeth siambr gan y grŵp o Ddenmarc, Ensemble MidtVest, dan y teitl SIX PALINDROMES. Arolwg yw hwn o’r gerddoriaeth siambr a gyfansoddodd rhwng 1995 a 2017. Mae’r gwaith piano poblogaidd ENDLESS SONG ar gael ar label Chandos.

Darllen mwy am John Metcalf yma.