14 - 15 Chwefror 2026

Croeso

Croeso cynnes i Ŵyl Gerdd Bangor 2026, ac i wledd o amrywiol gyngherddau, gweithdai, sgyrsiau a digwyddiadau cymunedol a gynhelir dros gyfnod o ddeuddydd.

Y thema sy’n rhedeg trwy’r rhan fwyaf o’r digwyddiadau hyn yw ‘perthnasau’, lle yng nghyd-destun y broses greadigol, gellid cyfeirio at y cydweithio rhwng cyfansoddwr a pherfformiwr, neu’r berthynas rhwng gwahanol rannau’r ensemble i’w gilydd, neu hyd yn oed y cyswllt rhwng amrywiol gyweiriau neu elfennau cerddorol eraill a’i gilydd: mae’r posibiliadau yn ddi ddiwedd…

Fe groesawn yn ôl y cyfareddol Ensemble CGWM, lle cawn berfformiadau cyntaf o ddau gomisiwn yr Ŵyl gan Lowri Mair Jones a Nicholas Olsen. Adnabyddir Llŷr Williams yn fyd eang fel un o’r pianyddion unawdol mwyaf blaengar a chawn brofi cerddoriaeth gan ddau gawr a ffrindiau o’r 20fed ganrif yn Britten a Shostakovich, ynghyd ac ail berfformiad (holl bwysig) o ddarnau diweddar gan gyfansoddwyr cyfoes Cymreig. Yn glo ar y cyfan, cawn ein swyno gan y cydweithio creadigol a wnaeth y ffliwtydd amryddawn Richard Craig (ynghyd ac Electroacwstig Cymru) gyda nifer o gyfansoddwyr mewn cyfnodau diweddar a thros y blynyddoedd, gyda phremiere o gomisiynau’r Ŵyl gan Alice Priggen, Bethan Morgan-Williams a Tristan Rhys Williams yn enghreifftiau diweddar.

Diolch yn fawr i’n holl noddwyr hael, i Brifysgol Bangor, i staff gweithgar Pontio, ein gwirfoddolwyr brwdfrydig ac i’r holl berfformwyr ac artistiaid sy’n cymryd rhan. Mwynhewch y gerddoriaeth!

Mae tocynnau ar gael o Swyddfa Docynnau Pontio (01248 382 828)

> > Prynu Tocynnau < <

Cadwch mewn cyswllt

Tanysgrifio i’n Rhestr Ebostio

Gallwch gadw mewn cysylltiad a derbyn y wybodaeth diweddaraf am Gŵyl Gerdd Bangor drwy ymuno â’n rhestr ebostio.

Tanysgrifio

Cyfryngau Cymdeithasol

Gallwch hefyd gadw golwg ar ein cyfryngau cymdeithasol am y wybodaeth diweddaraf.