Gweinyddir Gwobr Gyfansoddi William Mathias gan Ŵyl Gerdd Bangor, sy’n ymrwymedig i annog cyfansoddwyr ac i berfformio cerddoriaeth newydd.
DYDDIAD CAU: Dydd Gwener 12 Ionawr 2024 am 12:00pm.
Manylion y Cyfansoddiad:
Mae’r wobr yn cael ei chynnig am ddarn i ffliwt (dim dwblu), feiola, telyn ac offerynnau taro (marimba, feibraffôn, drwm bas, drwm cortynnau, ac ambell i offeryn taro a ddelir yn y llaw).
Dylai'r darn fod wedi cael ei gyfansoddi ar neu ar ôl 2014 a fod oddeutu 4 i 10 munud o hyd; nid oes cyfyngiadau ar arddull.
Caiff y darnau a ddewisir eu perfformio gan Ensemble CGWM yn ystod y prif gyngerdd am 1.00pm ddydd Sadwrn, 17eg o Chwefror 2024 yn y Stiwdio, Pontio, Prifysgol Bangor. Mae'n ofynnol i’r cyfansoddwyr dethol fod yn bresennol yn ystod yr Ŵyl ar gyfer yr ymarfer yn y bore a'r cyngerdd yn ystod y prynhawn. Fe delir am gostau teithio a llety rhesymol.
Mae'r wobr yn cynnwys y canlynol:
- taliad o £250
- perfformiad proffesiynol o'r darn yn ystod Gŵyl Gerdd Bangor 2024
- recordiad o'r gwaith (at ddefnydd personol yn unig)
- Comisiwn newydd gan Ŵyl Gerdd Bangor ar gyfer perfformiad yn ystod gŵyl 2025 (gwerth hyd at £750 ac yn amodol ar gyllid llwyddiannus ac ymarferoldeb perfformio).
Manylion a gweithdrefnau cyflwyno:
Dylid gwneud pob cais yn electronig trwy'r ffurflen gais ar-lein a geir isod.
Dim ond teitl y darn (ac nid enw'r cyfansoddwr) ddylai ymddangos ar y sgôr. Bydd unrhyw gofnodion sydd ag enw ar y sgôr neu'r ffeiliau sain yn cael eu gwahardd. Dylid cyflwyno'r sgôr fel dogfen PDF ynghŷd â recordiad mp3 neu realeiddiad awdio.
Os oes angen unrhyw gymorth arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â gweinyddwraig yr ŵyl, Miss Seren Haf Jones: admin@bangormusicfestival.org.uk
DYDDIAD CAU: Dydd Gwener 12 Ionawr 2024 am 12:00pm.
Panel beirniaid:
Mared Emlyn (Telynores a Chyfansoddwraig), Dewi Ellis Jones (Offerynnwr Taro a Chyfansoddwr), Guto Pryderi Puw (Cyfansoddwr a Chyfarwyddwr Artistig GGB)
RHEOLAU AC AMODAU CYFFREDINOL:
1 Mae’r gystadleuaeth ar agor i ddinesyddion o’r Deyrnas Unedig neu fyfyrwyr o unrhyw wlad sydd wedi neu ar hyn o bryd yn astudio mewn sefydliad Addysg Uwch o fewn y Deyrnas Unedig.
2 Dylai’r cyfansoddiad fod yn waith gwreiddiol y cystadleuydd, ac ni ddylid fod wedi ei wobrwyo o’r blaen.
3 Hysbysir yr ymgeiswyr llwyddiannus o fewn bythefnos i’r dyddiad cau.
4 Cytuna’r ymgeiswyr i fod yn bresennol yn y gweithdy a’r gyngerdd fel nodir uchod. Telir costau teithio a llety rhesymol yr ymgeiswyr llwyddiannus a dylid cadw unrhyw dderbynebau perthnasol.
5 Nid yw enillwyr blaenorol yn gymwys i gystadlu.
6 Fe gynhwysir y gwaith buddugol yng nghyngerdd yr Ŵyl dim ond os yw hynny’n ymarferol bosibl.
7 Cytuna’r enillydd i nodi “Cyfansoddiad buddugol Gwobr Gyfansoddi William Mathias 2019” ar unrhyw gyhoeddiad, perfformiad a recordiad o’r gwaith buddugol, a cytuna’r enillydd i gydnabod y wobr yn ei lenyddiaeth hyrwyddo (e.e. ei wefan), fel bo’n briodol.
8 Cytuna’r enillydd i Ŵyl Gerdd Bangor recordio’r gwaith buddugol ac iddo gael ei gynnwys ar wefan yr Ŵyl neu unrhyw brosiectau recordio perthnasol i’r dyfodol.
9 Os nad oes teilyngdod yna rhoddir caniatâd i’r beirniaid atal y wobr.
10 Dylai’r ceisiadau cael eu hanfon erbyn y dyddiad cau a nodir uchod.
