Bu Wyn Davies yn Gyfarwyddwr Cerdd Opera Seland Newydd rhwng 2005 a 2019. Mae ei arwain wedi mynd ag ef o Inverness i Incercargill. Ar ôl astudion yn Ysgol Gowerton yn Ne Cymru a Christchurch, Rhydychen gwasanaethodd ei brentisiaeth fel repetireur a meistr corws yn Opera Cenedlaethol Cymru. Aeth ymlaen i arwain yn Opera Cenedlaethol Lloegr, Opera’r Alban, Opera Gogledd, Opera Teithiol Lloegr, Opera Gogledd Iwerddon ac Opera Carl Rosa. Bu am ddwy flynedd yn arweinydd cynorthwyol yn Metropolitan Opera, Efrog Newydd a bu hefyd am ddwy flynedd yng Nghanolfan y Celfyddydau Perfformio Banff yng Nghanada.
Mewn man arall, mae ei waith arwain wedi mynd ag ef i Dde Affrica, Awstralia, Japan, Croatia, Sbaen, Gwlad Belg, Ffrainc a’r Eidal.
Mae wedi arwain sawl cyngerdd gyda cherddorfeydd y BBC, Halle, cerddorfa Siambr yr Alban, Auckland Philharmonia, Cerddorfa Symffoni Seland Newydd, Royale Orchestra de Wallonie ac eraill.
Yn 2012 derbyniodd Wyn wobr Urdd Cerdd Cymru am Gyfraniad Eithriadol i Gerddoriaeth Gymreig. Bu hefyd yn gyfarwyddwr cerdd ar gyfer nifer o operâu John Metcalf gan gynnwys Under Milk Wood 2014.