Profiad Serydda Bangor

 

Mae’r weithgaredd hwn bellach yn llawn, ond os hoffech i ni eich hysbysu os daw lle ar gael (e.e. os bydd un o’r cyfranogwyr yn canslo), plis cysylltwch â ni.

Diddordeb mewn seryddiaeth? Eisiau gwell golwg ar yr awyr ar noson glir? Beth am fynychu’r digwyddiad hwn lle ceir cyfle gwych i syllu ar y lleuad, planedau a’r sêr gyda telesgopau pwerus dan gyfarwyddyd yr arbenigwr Andrew Newsam (Prifysgol John Moores Lerpwl).

Mae’r sesiynau hyn yn addas ar gyfer dechreuwyr a seryddwyr amatur brwdfrydig o bob oedran ac yn cynnwys arweiniad ar y defnydd o gyfarpar, pa wrthrychau i edrych arnynt a ffeithiau diddorol am ein system solar.

Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys taith gerdded byr i’r Gwersyll Rhufeinig. Dewch a dillad cynnes, esgidiau addas a fflach-lamp efo chi.
Ceir trefniadau amgen os nad yw’r tywydd yn addas.

Mae cyfyngiad ar lefydd a dylid cofrestru.
Dylai plant fynychu gyda rhiant/gwarcheidwad.
Darperir diod poeth ar ddiwedd y digwyddiad yn yr Ysgol Cerddoriaeth. 

2 Chwefror

Sesiynnau
Sesiwn A: 6:30yh – 8:00yh YN LLAWN
Sesiwn B: 8:00yh – 9:30yh YN LLAWN
Sesiwn C: 9:30yh – 11:00yh YN LLAWN

Ymgynnull yn Nghyntedd Ysgol Cerddoriaeth

Am ddim (Rhaid archebu)

I Gofrestru:

Er mwyn cofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn ebostiwch neu ffoniwch Gwydion Davies, gweinyddwr yr ŵyl.

post@gwylgerddbangor.org.uk
07552 789 289

Cofiwch gynnwys eich enw, nifer o gyfranogwyr, rhif cyswllt a pha sesiwn hoffech fynychu.