Orbit: Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor

Sado Kim: Cheon-Zi (premiere byd)
Harry Perry: 1977-084A (premiere byd)
Thomas Whitcombe: qu’ logh’e’/Space is Fierce (premiere byd)
Ellie Brooke: Trek (premiere byd)
Blake Robinson: Enter the Vortex (premiere byd)
Anastasia Zaponidou: 1,25 Light Seconds (premiere byd)
Kelly-Marie Murphy:
Dark Energy (premiere DU)
Brooke Martin: Totality (premiere byd)

Cyfansoddiadau newydd gan Fyfyrwyr Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor, wedi eu hysbrydoli gan galaethau pell, ac hefyd yn cynnwys darn gan Murphy.

Artistiaid a Chyfansoddwyr

Kelly-Marie Murphy

Cyfansoddwraig
Kelly-Marie Murphy

Cyfansoddwraig

Ganed Kelly-Marie Murphy mewn canolfan NATO yn Sardegna, yr Eidal, a’i magu ar wersylloedd y Lluoedd Arfog ledled Canada. Dechreuodd ei hastudiaethau mewn cyfansoddi ym Mhrifysgol Calgary gyda William Jordan ac Allan Bell, ac yn ddiweddarach derbyniodd radd PhD mewn cyfansoddi gan Brifysgol Leeds, Lloegr, lle astudiodd gyda Philip Wilby. Ar ôl byw a gweithio am sawl blwyddyn yn ardal Washington D.C. lle cafodd ei dynodi yn "an alien of extraordinary ability" gan Wasanaeth Mewnfudo a Dinasyddiad yr UDA, mae hi nawr wedi ei lleoli yn Ottawa.

Sado Kim

Sado Kim

Wedi ei eni yn Ne Korea, astudiodd Sa-Do Kim gerddoriaeth eglwysig, canolbwyntiodd ar arwain ym Mhrifysgol Kwangshin gan gael ei ddysgu gan yr Arthro Samuel Wook Byun. Wedi iddo ddychwelyd ar ôl astudio gradd Meistr yn y DU, bu’n arwain sawl cerddorfa ac ensemble siambr yn Rwsia, Bwlgaria, Wcrain, yr Eidal, Iwerddon a De Korea. Yn 2014, derbyniodd wobr gan Weinidog Addysg Korea yn gydnabyddiaeth am ei waith mewn addysgu plant anabl ac o dan anfantais. Yn 2017, cwblhaodd M.Phil mewn cyfansoddi o Goleg y Drindod, Dulyn ac ar hyn o bryd mae’n astudio tuag at radd PhD mewn cyfansoddi ac arwain ym Mhrifysgol Bangor.

Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor

Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor

Sefydlwyd Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor yn 2011 gyda’r bwriad o hyrwyddo cerddoriaeth cyfansoddwr byw ac o’r 20fed Ganrif, gan gydweithio’n glos gyda Gŵyl Gerdd Bangor. Fel cyd-chwaraewyr hyblyg, mae’n cynnwys offeryniaeth amrywiol gan gael ei redeg ar y cyd gan staff a myfyrwyr yr Ysgol Cerddoriaeth. Cafwyd perfformiadau llwyddiannus o gyfansoddiadau myfyrwyr dan y thema Pensaerniaeth yn ystod Gŵyl 2017.

Ellie Brooke

Cyfansoddwraig
Ellie Brooke

Cyfansoddwraig

Rwy’n enedigol o’r UDA, o dref bychan o’r enw Lancaster yn Pennsylvania. Deuthum i Ogledd Cymru yn 2015 wedi ymweliadau â PA a NYC gan sylweddoli bod angen rhagor o gyfeiriad ac antur yn fy mywyd. Yma roedd yn bosibl i mi fynydda, nofio’r môr, cyfarfod artistiaid eraill a gorffen fy ngradd. Cwblheais fy ngradd BMus yn 2017 ac nawr rwy’n astudio at MMus mewn cyfansoddi ffilm gan fy mod yn hoff o greu celfyddyd cydweithiol.

Brooke Martin

Cyfansoddwraig
Brooke Martin

Cyfansoddwraig

Tardda Brooke Martin (g.1993) o Georgia, UDA ac mae ganddi Radd mewn Theori Cerddoriaeth a Pherfformio Cerddoriaeth (Corn). Ar hyn o bryd astudia ar gyfer ei Meistr mewn Cerddoreg ym Mhrifysgol Bangor. Yn aml archwilia ei chyfansoddiadau y cydadwaith rhwng natur a mathemateg.

Harry Perry

Cyfansoddwr
Harry Perry

Cyfansoddwr

Mae Harry Perry yn gyfansoddwr Prydeinig eclectig sy’n gweithio â phob cyfrwng clywadwy. Mae ei gyfansoddiadau ensemble acwstig wedi ei ddewis ar gyfer gweithdai gan y BBC NOW, Ensemble Cymru a Phedwarawd Llinynnol Allegri; ei weithiau electroacwstig wedi ei dryledu gan ElectroacwstigCYMRU a derbyniodd ei waith poblogaidd (yn unawdol fel rryrry ac mewn cydweithrediad) gefnogaeth barhaol a’i ddarlledu’n gyson gan Tom Robinson ar BBC 6 Music. Canolbwyntia gwaith Harry gan fwyaf ar ein gallu i ryngweithredu ag ymarferion diwylliannol gan geisio ail-ddiffinio cysyniadau traddodiadol o genre, diwylliant a phwrpas artistig. Ar hyn o bryd mae’n astudio ar gyfer gradd doethuriaeth mewn Cyfansoddi ym Mhrifysgol Bangor.

Blake Robinson

Cyfansoddwr
Blake Robinson

Cyfansoddwr

Ganwyd Blake yn Duston, Northampton cyn dechrau ar ei astudiaeth ym Mangor ym Medi. Fel chwaraewr Tiwba, canwr a phianydd, perfformiodd mewn amrwy o ensemblau ieuenctid yn Ymddiriedolaeth Gelfyddydau Perfformio Sir Northhampton (NMPAT). Ymddiddorodd mewn cyfansoddi yn ifanc iawn, gan gyflwyno gweithiau corawl a cherddorfaol ar gyfer cystadleuthau. Fe’i mentorwyd gan rai o brif gyfansoddwyr sir Norhampton, megis Kaye Tompkins, Benjamin Till a Alga Mau, mae wrth ei fodd yn medru perfformio ac arwain ei ddarn am y tro cyntaf yn ystod Gŵyl Gerdd Bangor 2018.

Thomas Whitcombe

Cyfansoddwr
Thomas Whitcombe

Cyfansoddwr

Mae Thomas Whitcombe yn gyfansoddwr, canwr ac offerynnwr taro o Gymoedd De Cymru. Mae yn ei ail flwyddyn yn astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, ac yn arwain Côr Clarinét Gogledd Cymru yn ei amser hamdden. Mae wedi canu mewn amryw o gorau, ac wedi chwarae’r cit drymiau mewn bandiau ers iddo fod yn dair-ar-ddeg oed. Mae dylanwadau cyfansoddi Thomas yn amrywio yn eang iawn, o gerddoriaeth gorawl, alwon werin, i roc a metel trwm.

Mae gweithiau Thomas wedi derbyn dau premiere ers symud i Fangor; The Elven Overture (gan Gerddorfa Cymdeithas Cerddoriaeth Prifysgol Bangor), a Snowscape (gan Gymdeithas Clarinét Gogledd Cymru).

Anastasia Zaponidou

Cyfansoddwraig
Anastasia Zaponidou

Cyfansoddwraig

Derbyniodd Anastasia Zaponidou wersi cyfansoddi gyda’r cyfansoddwr Groegaidd Lina Tonia a Guto Pryderi Puw, cyfansoddwr Cymreig a darlithydd cyfansoddi ym Mhrifysgol Bangor, tra ar hyn o bryd mae’n astudio cyfansoddi gyda’r cyfansoddwr Cymreig Pwyll ap Sion. Mae Anastasia ar hyn o bryd yn ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor, yn astudio cyfansoddi a pherfformio. Cymerodd ran mewn seminar cyfansoddwyr BBC NOW yn 2017, ac fe’i gwobrwywyd â phumed lle yng ‘Nghystadleuaeth Gyfansoddi Corawl Coleg y Gogledd o Thessaloniki’ yn 2016, yng Ngroeg. Ymysg prosiectau eraill cafodd ei chomisiynu i gyfansoddi gwaith ar gyfer Côr Clarinét Gogledd Cymru, sydd wedi eu selio ar Ynys Môn.

3 Chwefror 2018
5:00yp - 6:00yp
Lefel 2, Pontio
Am ddim