Music of the Spheres: Zubin Kanga (Piano)

Zubin Kanga - Piano

Patrick Nunn: The Music of the Spheres
Maja Palser: R o t a t i o n s (comisiwn GGB a phremiere byd)
School Pupils: new work (premiere byd)
Claire Victoria Roberts: Infinity Freeze: A Set of 3 Dances (comisiwn GGB a phremiere byd)
Zubin Kanga: The Nine Billion Names of God for piano and live electronics (WP) (premiere byd)
George Crumb: Makrokosmos (detholiad)

Fel un o brif hyrwyddwyr cerddoriaeth gyfoes, cyflwyna’r pianydd sy’n enedigol o Awstralia, Zubin Kanga, rychwant eang o gerddoriaeth a ysbrydolwyd gan y gofod a seryddiaeth. Dechreua’r cyngerdd gyda Music of the Spheres hynod awgrymog gan Patrick Nunn, lle mae pob un o’r chwe symudiad wedi ei ysbrydoli gan wrthrych yn y gofod, o blanedau megis Neifion, Sadwrn a’r ddaear i leuadau a lloerennau naturiol. Gorffenna’r cyngerdd gyda detholiad o’r darn eiconig Makrokosmos ar gyfer piano a system sain gan George Crumb, lle caiff nifer o arwyddion y sêr eu cynrychioli mewn archwiliad cyffrous o liwiau a gweadau ar y piano. Caiff gweddill y rhaglen gynnwys darnau wedi eu creu yn ddiweddar iawn, dau ddarn gan Palser a Roberts wedi eu comisiynu gan yr Ŵyl, darn newydd gan Zubin Kanga ei hun a chyfansoddiad grŵp gan ddisgyblion ysgolion lleol.

Zubin Kanga - Piano

Zubin Kanga

Piano

Cydweithiodd y pianydd Zubin Kanga â nifer o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw y byd yn cynnwys Thomas Adès, Michael Finnissy, a Beat Furrer, ac wedi rhoi perfformiadau cyntaf dros 90 o weithiau newydd, gan ffocysu yn diweddar ar y berthynas rhwng cerddorion byw a thechnolegau newydd. Perfformiodd mewn nifer o wyliau rhyngwladol gan gynnwys y BBC Proms, Huddersfield Contemporary Music Festival (DU), Gŵyl Melbourne, (Awstralia), Gŵyl Manifeste (Ffrainc) a Gŵyl Borealis (Norwy). Mae’n aelod o Ensemble Offspring, ac wedi perfformio concerti cyfoes gyda Cherddorfa Symffoni Melbourne a’r London Sinfonietta. Mae’n Gymrawd Ymchwil yn y Royal Holloway, Prifysgol Llundain, gan archwilio’r perthnasau newydd cerddorion-technoleg.

Zubin Kanga - Piano
Zubin Kanga

Piano

Cydweithiodd y pianydd Zubin Kanga â nifer o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw y byd yn cynnwys Thomas Adès, Michael Finnissy, a Beat Furrer, ac wedi rhoi perfformiadau cyntaf dros 90 o weithiau newydd, gan ffocysu yn diweddar ar y berthynas rhwng cerddorion byw a thechnolegau newydd. Perfformiodd mewn nifer o wyliau rhyngwladol gan gynnwys y BBC Proms, Huddersfield Contemporary Music Festival (DU), Gŵyl Melbourne, (Awstralia), Gŵyl Manifeste (Ffrainc) a Gŵyl Borealis (Norwy). Mae’n aelod o Ensemble Offspring, ac wedi perfformio concerti cyfoes gyda Cherddorfa Symffoni Melbourne a’r London Sinfonietta. Mae’n Gymrawd Ymchwil yn y Royal Holloway, Prifysgol Llundain, gan archwilio’r perthnasau newydd cerddorion-technoleg.

Cyfansoddwyr

Maja Palser - Bangor Music Festival

Maja Palser

Cyfansoddwraig
Maja Palser - Bangor Music Festival
Maja Palser

Cyfansoddwraig

Mae Maja Palser yn gyfansoddwraig sy’n anelu i archwilio profiadau ffisegol, seicolegol, ysbrydol a chymunedol cerddoriaeth. Mae ganddi ddiddordeb penodol mewn gallu cerddoriaeth i ddylanwadu ar ein synnwyr o amser a gofod. Cyflwynodd ei thraethawd Meistr (Bryste, 2013) dystiolaeth fod cerddoriaeth, a ddefnyddir fel dull o holi, yn ffurf o arteithio, yn ganlyniad i’w allu i effeithio'r corff ynghyd â’r meddwl. Mae hi’n dwyn ysbrydoliaeth o ystod o ffynonellau gan gynnwys testunau crefyddol, mytholegol ag ysbrydol, yn benodol beirdd y Sufi. Yn 2017 fe gynrychiolodd Cymru yn Niwrnod Cerdd y Byd yr ISCM yn Vancouver, Canada.

Patrick Nunn

Cyfansoddwr
Patrick Nunn

Cyfansoddwr

Astudiodd Patrick Nunn yn yr Academi Gerdd Frenhinol gyda  Simon Bainbridge a Jonathan Harvey. Mae ei gerddoriaeth, sy’n aml yn defnyddio synwyryddion ac electroneg, wedi ei berfformio yn eang ledled y DU a’r cyfandir (yn ddiweddar yn IRCAM, Paris). Mae ei wobrau yn cynnwys Gwobr BBC Radio 3 am Gyfansoddi ar gyfer Plant ar gyfer Songs of our Generation (1995), Gwobr Cyfansoddwr Prydeinig am Mercurial Sparks, Volatile Shadows (2006), Gwobr Alan Bush am Transilient Fragments (2008), a gwobr Birmingham New Millennium Composition ar gyfer Sentiment of an Invisible Omniscience (2010). Caiff ei gerddoriaeth ei gyhoeddi gan Cadenza Music a’r ABRSM, ac mae ei CD diweddaraf, Morphosis, yn cynnwys gweithiau ar raddfa fach ac electroneg.

Claire Victoria Roberts

Cyfansoddwraig
Claire Victoria Roberts

Cyfansoddwraig

Yn wreiddiol o Dde-Orllewin Cymru, astudiodd Claire gerddoriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen wedi ei chefnogi gan Ysgoloriaeth Gorawl. Gan ddiolch i gyllid hael gan Ymddiriedolaeth Thomas ac Elizabeth Williams, fe aeth ymlaen i gwblhau MMus mewn Perfformiad Ffidil gyda Steven Wilkie yn y Royal Northern College of Music lle parhaodd â’i diddordeb mewn cyfansoddi a cherddoriaeth gyfoes. Wedi iddi dderbyn Ysgoloriaeth Parry Williams, dechreuodd Claire ar Ddoethuriaeth cyfansoddi ym Mhrifysgol Bangor. Mae diddordebau ymchwil yn cynnwys technegau dadansoddol y llais, tonyddiaeth yr 21ain ganrif a hygyrchedd cerddoriaeth gyfoes.

George Crumb

Cyfansoddwr
George Crumb

Cyfansoddwr

Caiff gweithiau George Crumb (g.1929) eu perfformio yn aml ym myd cerdd heddiw. Mae Crumb yn enillydd Gwobrau Grammy a Pulitzer, ac yn parhau i gyfansoddi sgorau newydd sy’n cyfoethogi bywyd y bobl sy’n dod i gysylltiad â’r gelfyddyd ddyniaethol. Mae cerddoriaeth Crumb yn aml yn cyplysu arddulliau cerddorol cyferbyniol, yn graddio o gerddoriaeth y traddodiad gorllewinol, i emynau a cherddoriaeth werin, i gerddoriaeth di-Orllewinol. Mae llawer o weithiau Crumb yn cynnwys elfennau rhaglenedig, symbolaidd, cyfriniol a theatrig, sy’n cael eu hadlewyrchu yn aml yn ei sgorau hyfryd a manwl.

3 Chwefror 2018
1:00yp
Stiwdio, Pontio
£12, £10 (Henoed), £5 (Myfyrwyr a Phlant)

Tocynnau

Mae'r tocynnau ar gyfer y cyngerdd hwn ar gael o Swyddfa Docynnau Pontio.

01248 382828
Pontio, Ffordd Deiniol, Bangor, LL57 2TQ

Archebu Ar-lein