Marie-Claire Howorth
Arweinydd Camau Cerdd
Mae Marie-Claire Howorth yn gerddor proffesiynol creadigol â phrofiad helaeth o weithio ar brosiectau â gwahanol sefydliadau a phartneriaid. Mae hi’n athrawes chwythbrennau profiadol ar gyfer Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn a chlarinét a phiano ar gyfer Canolfan Gerdd William Mathias. Ar hyn o bryd mae’n astudio Seicoleg Cerddoriaeth gyda ddiddordeb mewn datblygiad addysgol a rôl cerddoriaeth mewn lles drwy gydol bywyd.
Mae Marie-Claire yn ysgrifennu’r cynlluniau dosbarth a chaneuon ar gyfer Camau Cerdd, prosiect a sefydlwyd mewn cydweithrediad â Chanolfan Gerdd William Mathias ar gyfer plant rhwng 0 - 7 oed. Mae hi’n rhannu pob agwedd o’i dulliau arloesol gydag ymarferwyr Camau Cerdd newydd y hyfforddir ganddi.