Great Equatorial: David Bedford

Trylediad sain o ddarn eiconig gan David Bedford, Great Equatorial, a gomisiynwyd ar gyfer ail agoriad o’r Observatory Brenhinol yn Greenwich yn 1992. Tryledir y darn hynod atmosfferig hwn drwy uchelseinyddion ym mannau cyhoeddus trawiadol Pontio.

Bywgraffiad

Ganwyd David Bedford yn Llundain yn 1937 ac aeth ymlaen i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol gyda Lennox Berkeley. Derbyniodd gomisiynau a pherfformiadau gan y Royal Philharmonic Orchestra, London Philharmonic Orchestra, Royal Liverpool Philharmonic Orchestra, English Sinfonia, English Chamber Orchestra a’r Scottish Chamber Orchestra, ynghyd â gwyliau megis y BBC Proms, Aldeburgh, Harrogate, Spitalfields a’r HCMF. Roedd Bedford hefyd yn arloeswr mewn addysg cerdd, gan gyfansoddi darnau bach ar gyfer disgyblion gydag ychydig iawn neu dim profiad cerddorol ynghyd â 7 opera ysgol. Ochr yn ochr â’i yrfa gyfansoddi caiff ei hadnabod am gydweithio â cherddorion o fyd roc a phop, gan gynnwys y band ‘The Whole World’ ac fel trefnydd Mike Oldfield, Roy Harper, Madness, Billy Bragg and Elvis Costello.

3 Chwefror 2018
12:00yp - 1:00yp
Lefel 2, Pontio
Am ddim