Dosbarth Meistr Piano Zubin Kanga

Bydd y pianydd cyfoes blaenllaw Zubin Kanga yn rhoi dosbarth meistr a chyflwyniad i dechnegau estynedig piano. Cynhelir y dosbarth meistr hwn mewn cydweithrediad â Chanolfan Gerdd William Mathias, Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn a Phrifysgol Bangor.

Bywgraffiad

Zubin Kanga - Piano

Zubin Kanga

Piano

Cydweithiodd y pianydd Zubin Kanga â nifer o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw y byd yn cynnwys Thomas Adès, Michael Finnissy, a Beat Furrer, ac wedi rhoi perfformiadau cyntaf dros 90 o weithiau newydd, gan ffocysu yn diweddar ar y berthynas rhwng cerddorion byw a thechnolegau newydd. Perfformiodd mewn nifer o wyliau rhyngwladol gan gynnwys y BBC Proms, Huddersfield Contemporary Music Festival (DU), Gŵyl Melbourne, (Awstralia), Gŵyl Manifeste (Ffrainc) a Gŵyl Borealis (Norwy). Mae’n aelod o Ensemble Offspring, ac wedi perfformio concerti cyfoes gyda Cherddorfa Symffoni Melbourne a’r London Sinfonietta. Mae’n Gymrawd Ymchwil yn y Royal Holloway, Prifysgol Llundain, gan archwilio’r perthnasau newydd cerddorion-technoleg.

2 Chwefror
4:00yp - 6:00yp
Neuadd Mathias, Ysgol Cerddoriaeth £15 (cyfranogwyr) £3 (gwylwyr)
Gofynni’r i’r rhai sy’n dymuno cymryd rhan yn y dosbarth meistr i lenwi a dychwelyd Ffurflen Gais Dosbarth Meistr drwy ebost neu’r post.

Ffurflen Gais

Bydd tocynnau i'r rhai sy'n dymuno gwylio'r dosbarth meistr ar gael ger y drws.