CoDI ELECTRONICS: Swansea Laptop Orchestra

Swansea Laptop Orchestra gyda Jenn Kirby & Simon Kilshaw
Mewn cydweithrediad â Tŷ Cerdd

Rhaglen:

Swansea Laptop Orchestra: Gliche
Poumpak Charuprakorn: Stretches (PB)
Kirsten Evans: High (PB)
Swansea Laptop Orchestra: Knowing
Tanya Dower: Chiron’s Return (PB)
Daniel Soley: Jettisound (PB)
-- EGWYL --
Swansea Laptop Orchestra: Jawari
Richard McReynolds: Introspection (PB)
Alan Chamberlain: Pen Dinas In Voice (PB)
Swansea Laptop Orchestra: Short Way Up

Swansea Laptop Orchestra

Mae’r Swansea Laptop Orchestra yn defnyddio rheolwyr gemau wedi eu hacio, gliniaduron a synwyryddion i greu a pherfformio cerddoriaeth arbrofol, clasurol gyfoes, electroacwstig ac electronig. Defnyddir rheolwyr er mwyn olrhain ystumiau a symudiadau theatrig, gan ddod ac elfen o symudedd unigryw i gerddoriaeth electronig gan greu ar yr un pryd brofiad clywedol-weledol symbiotig. Anela Swansea Laptop Orchestra i wthio ffiniau perfformio cerddoriaeth electronig. Lansiwyd eu halbwm cyntaf, loadbang! ym Medi 2017.

Am yr Artistiaid a Chyfansoddwyr

 

Dr Jenn Kirby
Dr Jenn Kirby

Mae Dr Jenn Kirby yn gyfansoddwraig, perfformiwr, darlithydd ac yn dechnolegydd cerdd. Dysga dechnoleg cerddoriaeth a chyfansoddi ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae ei hallbwn yn cynnwys cyfansoddiad cyfoes offerynnol, cerddoriaeth electroacwstig, celf sain, cerddoriaeth sŵn, perfformiad cerddorfa gliniadur, theatr gerdd ac electroneg byw unawdol. Mae Jenn yn weithgar iawn mewn perfformio cerddoriaeth electronig fel perfformiwr a datblygwr meddalwedd. Adeilada feddalwedd ac ail-bwrpasu rheolwyr gemau fel rhyngwynebau cerddorol er mwyn creu a pherfformio cerddoriaeth theatrig ac electronig byw sy’n aml yn chwareus.

Simon Kilshaw
Simon Kilshaw

Mae Simon Kilshaw yn gyfansoddwr, perfformiwr, artist sonig, ysgrifennwr caneuon, cynhyrchydd, dylunydd meddalwedd, dyfeisiwr ac adeiladwr offerynnau, rhaglennwr systemau, Crëwr Digidiol drwy godio. Mae Simon yn dyfeisio offerynnau cerdd newydd drwy ddefnyddio amrywiaeth eang o dechnolegau digidol, o ddefnyddio synwyryddion a chaledwedd tracio i amgylchfydoedd codio pur, ac yn cyfansoddi repertoire newydd ar eu cyfer. Disgrifa Simon ei ymchwil fel “Lutherie Digidol”. Simon yw Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer Technoleg Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae ei waith wedi ei ysbrydoli gan beiriannau sŵn electronig arloeswyr yr 20fed ganrif gynnar, yn benodol y symudiad Dyfodolwyr yr Eidal.

Poumpak Charuprakorn
Poumpak Charuprakorn

Wedi ei gyflwyno i gyfansoddi am y tro cyntaf gan Dr Dhamabutra a Dr Premananda ym Mhrifysgol Chulalongkorn (Bangkok, Gwlad Thai), aeth Poumpak Charuprakorn ymlaen i gael ei radd Meistr mewn Cerddoriaeth gan ganolbwyntio ar gyfansoddi yn y Coleg Brenhinol Cerddoriaeth (Llundain).

Mae ei gyfansoddiadau wedi eu darllen a'u perfformio yng Ngwlad Thai, Slofacia, Awstria, yr Almaen, yr Eidal, Sbaen a'r Deyrnas Unedig ac mae wedi cael cyfleoedd i weithio gyda nifer o gerddorion ac ensembles proffesiynol, gan gynnwys Sara Minelli (ffliwt), Mieko Kanno (ffidil) , Aisha Orazbayeva (ffidil), Sarah Dacey (soprano), Sian Cameron (mezzo-soprano), Gwenllian Llyre (telyn), Ensemble Suono Giallo, Trio Anima, Pedwarawd Carducci, a Riot Ensemble.

Yn ddiweddar, cymerodd Poumpak ran yn Young Composers and Valencia International Performance Academy and Festival.

Mae Poumpak, a gefnogir gan Swyddfa Comisiwn Addysg Uwch Gwlad Thai, ar hyn o bryd yn dilyn PhD mewn Cyfansoddi ym Mhrifysgol Caerdydd dan oruchwyliaeth Dr Arlene Sierra.

Kirsten Evans
Kirsten Evans

Mae Kirsten yn gyfansoddwraig sydd ar hyn o bryd yn cwblhau ei hastudiaethau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Rhanna ei hymdrechion i gyfansoddi â’i gwaith fel cantores, gan berfformio gweithiau cyfoes ledled y DU, ynghyd â gweithio fel cantores sesiwn. Yn ddiweddar mae Kirsten wedi creu sgorau ar gyfer ffilmiau byr gan gwmnïau fel Cloth Cat Animation sydd â’u gwaith yn ymddangos ar sianelau yn cynnwys Netflix a Disney. Mae ei gweithiau eraill hefyd wedi ymddangos ar sianelau yn cynnwys BBC2 Cymru. Mae Kirsten ar hyn o bryd yn adeiladu gosodiad amlsynhwyraidd i blant gyda nawdd Help Musicians UK drwy eu Cronfa Fusion. Bydd y gosodiad yn agor yn y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ym mis Mai.

Tanya Dower
Tanya Dower

Mae Tanya Dower yn gweithio gyda sain a cherddoriaeth ar gyfer dibenion therapiwtig ar gyfer iechyd a lles ac yn creu seinluniau electronig a naturiol sydd yn aml iawn yn adlewyrchu’r amgylchedd a thirwedd gyfagos cymoedd De Cymru. Gan ddefnyddio seiniau naturiol ag electronig gan gynnwys y llais, mae hi wedi cyfansoddi ar gyfer theatr gynhwysol, amlgyfryngau rhyngwladol ac arddangosfeydd cymunedol lleol.

Daniel Soley
Daniel Soley

Cyflwyna Daniel Soley waith newydd sy’n cyfuno sain gyda chelf berfformio ar gyfer y Swansea Laptop Orchestra. Mae’r naratif unawdol hwn yn cynrychioli archwiliadau cyntaf yr artist gyda’r rheolydd ‘Tennyn’ Gametrak, sy’n trin data gofodol mewn rhaglennu hunan-godio a gweithredu coreograffi dehongliadol i greu cyfrwng newydd ar gyfer perfformiadau sonig. Gyda’i gilydd galluoga ystumiau a symudiadau, yn ôl dewis y perfformiwr, i greu, amlygu a manipiwleiddio seinfyd a ysbrydolwyd gan bensynniad, fel y tystia’r gynulleidfa i ymdrech alltud dryslyd yn erbyn ffawd mewn desgl anobeithiol.

Richard McReynolds
Richard McReynolds

Mae Richard McReynolds yn gyfansoddwr ac artist sain sydd wedi ei seilio yng Nghaerdydd. Wedi'i eni yn Belfast, fe aeth ati i astudio cerddoriaeth yn Liverpool Hope yn 2008, ac ar ôl cwblhau ei radd Meistr yno, symudodd i Gaerdydd i astudio ar gyfer ei PhD mewn cyfansoddi wedi ei oruchwylio gan Arlene Sierra. Mae wedi derbyn hyfforddiant dan arweiniad Ian Percy, Martin Bresnick, Johannes Kreidler, Marc Andre a Zygmunt Krauze.

Yn gyfansoddwr o weithiau electroacwstig ac acwstig, mae ei allbwn creadigol yn archwilio rhyngweithio mewn cerddoriaeth electro-acwsteg gyda’i astudiaethau diweddar yn IRCAM yn dylanwadu ar ei waith. Mae Richard wedi cael ei waith wedi ei gynnwys mewn gweithdai gydag amrywiaeth o ensembles yn cynnwys The Sixteen, Perfformwyr Ffilmharmonig Lerpwl, Pedwarawd Carducci, Ensemble Rarescale ac Lontano ynghyd â pherfformiadau o'i gerddoriaeth gan Psappha ac ensemble E-Mex. Mae hefyd yn frwd dros hyrwyddo'r cydweithio rhwng gwahanol arferion artistig, trefnu cyngherddau a digwyddiadau cydweithredol rhwng cyfansoddwyr ac artistiaid o gyfryngau eraill.

Alan Chamberlain
Alan Chamberlain

Yn dilyn saib, mae gweithgareddau diweddar Alan Chamberlain yn cynnwys perfformiad o The Gift yn Oxford House, Llundain fel rhan o Audio Mostly, a gyfansoddwyd gan ddefnyddio meddalwedd a gynhyrchwyd gan Dave De Roure, Prifysgol Rhydychen. Mae’r perfformiad hwn wedi ei ddefnyddio mewn cyflwyniadau yn y Sefydliad Turning, Rhwydwaith Ymchwil Cerddoriaeth Ddigidol (Llundain) a Phrifysgol Lausanne, y Swistir. Cyfansoddodd a recordiodd Alan y gerddoriaeth ar gyfer y ffilm Into the Looking Glass, a enillodd gwobr Cyngor Ffilm a Fideo Prifysgolion Prydain (BUFVC) yn Sefydliad Ffilmiau Prydeinig 2018. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar draciau sain ar gyfer y Gynhadledd Celf a’r Dychymyg Archaeolegol, Aberystwyth 2019.

Dyddiad: 8 Chwefror 2019
Amser: 7:30pm
Lleoliad: Stiwdio, Pontio


Tocynnau: £15 / £12 (Henoed) / £5 (Myfyriwr/Plentyn)
Archebu Ar-lein
(Swyddfa Docynnau: 01248 382 828)