Dydd Mercher 2 Mawrth 2016

Gig y Gwanwyn
18:00, Galeri Caernarfon. 
Pen llanw prosiect addysg pop/indie/roc GGB sy’n rhoddi cyfle i fandiau ifanc lleol berfformio set o ganeuon newydd, yng nghwmni Sŵnami.
(mewn cydweithrediad â Sbarc. Noddwyd gan Ceir Cymru)
Cyngerdd Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor a’r Fusion Ensemble
19.30, Neuadd Powis, Prifysgol Bangor.
Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor a’r Fusion Ensemble mewn noson o gerddoriaeth a theatr arbrofol wedi ei selio ar y llais fel na glywyd erioed o’r blaen. Yn cynnwys comisiynau gan fyfyrwyr gradd meistr.