Gwener 6 Mawrth 2015

09.00-13.00 a 14.00-16.30, Ysgol Tryfan, Bangor
GWEITHDY: LAB CYFANSODDI
gydag aelodau o BBC NOW ar gyfer disgyblion TGAU/AS/Lefel A

13.00, Uned Fasnachol, Canolfan Siopa Deiniol, Bangor
DERBYN A DYCHWELYD
ENSEMBLE CERDDORIAETH NEWYDD BANGOR
Ymateb cerddorol i rai o faterion amgylcheddol mwyaf pwysig heddiw. Bydd myfyrwyr yn cael eu gwahodd i gyfansoddi darnau wedi eu hysbrydoli gan y gosodiad. Bydd y digwyddiad yn cynnwys comisiynau newydd yn arbennig ar gyfer yr Ŵyl gan Katherine Betteridge, Ellie Davies, Sioned Eleri Roberts, Dan Song a Hedd Thomas ynghyd â darn newyd gan ddisgyblion Ysgol Talysarn, Dyffryn Nantlle.

13.00-16.00, Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, Bangor
DOSBARTH MEISTR ARWAIN
gyda GARETH JONES & CAMERATA GOGLEDD CYMRU

14.30-16.00, School of Music, Bangor Universitybd-duo-bw[1]
GWEITHDY: BYRFYFYRIO GAN GYFANSODDI A PHERFFORMIO
gyda MATTHEW BOURNE, STEVE DAVIS a myfyrwyr y brifysgol

19.30, Tŷ Bwyta Blue Sky, Bangor
MATTHEW BOURNE (piano) a STEVE DAVIS (drums)

“Cerddoriaeth sy’n glyfar a chraff, â chalon ac enaid” – The Guardian

Mae Matthew Bourne a Steve Davis yn ran o’r triawd piano dyfeisgar, Bourne Davis Kane – wedi cydweithio ers i’r grwp ddechrau yn 2002 – ac maent wedi cynhyrchu nifer o albymau fel triawd (gan gynnwys dau â Paul Dunmall – gyda’r ail yn cael ei rhyddhau yn hwyrach yn y flwyddyn), gan gynnwys eu prosiectau unigol fel perfformwyr a chyfansoddwyr; yn ogystal a’r galw iddynt gydweithio ag eraill. Maent am rannu â ni eu talent cerddorol naturiol a’u profiadau helaeth fel byrfyfyrwyr gan roi’r cyfle prin iddynt gael gweithio â’u gilydd fel deuawd. Tra’n trafod eu record ‘The Money Notes’, dywedodd The Jazz Man “Mae’r doniolwch wedi ei gyplu â’r arbrofol; yr arddull unigryw â’u gallu cerddorol di-fai. Allai ddim dychmygu blino ar ei glywed”.