Astudiodd Tristan Rhys Williams gyda Robin Holloway ym Mhrifysgol Caergrawnt cyn cwblhau PhD mewn cyfansoddi ym Mhrifysgol Brunel (ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau), gan astudio gyda John Croft (yn ogystal â Richard Barrett a Christopher Fox). Dyfarnwyd iddo Wobr Cyfansoddwr Ifanc Gŵyl Gerddoriaeth Cyfoes Huddersfield (2005) ynghyd â Gwobr Cymdeithas Ffilharmonig Frenhinol (2007). Perfformiwyd ei weithiau gan y Ffilharmonia, Cerddorfa Cyfoes Llundain, Cerddorfa Siambr Llundain, trio Atem yng nghynhadledd y Gymdeithas Gerddorol Frenhinol (2011), Pedwarawd Arditti yn Sefydliad Ymchwil Cerddorol (2012) a Sinfonietta Llundain fel rhan o’r New Music Show yng Nghanolfan Southbank.