Dydd Iau 3 Mawrth 2016

Dosbarth Meistr Elin Manahan Thomas
16:00 – Neuadd Powis, Prifysgol BangorElin Manahan Thomas
Dosbarth Meistr lleisiol gyda Elin Manahan Thomas i gerddorion leol mewn cydweithrediad gyda Chanolfan Gerdd William Mathias a Gwasanaeth Ysgolion William Mathias.

Cyngerdd Elin Manahan Thomas
19:30 – Neuadd Powis, Prifysgol Bangor.
Perfformiodd y soprano adnabyddus gasgliad o ganeuon cyfoes dan y thema ‘Gerddi’ gan gynnwys dau o weithiau a berfformiwyd am y tro cyntaf, gan gynnwys comisiwn Gŵyl Gerdd Bangor gan enillydd Tlws y Cerddor yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2011 – Meirion Wynn Jones, a gwaith newydd gan Rodrick Williams, ynghyd â darnau gan Dilys Elwyn Edwards, John Metcalf, a Judith Weir.