Mae’r ŵyl wedi ymrwymo i feithrin talent newydd, sef perfformwyr a chyfansoddwyr y dyfodol. Yn sgil yr amrediad eang o weithgareddau addysgiadol a gynigir, bydd disgyblion, myfyrwyr a thrigolion lleol yn cael cyfle i archwilio pob math o gerddoriaeth newydd, nid yn unig cerddoriaeth clasurol-gyfoes ond hefyd cerddoriaeth amlgyfrwng, acwsmatig ac arbrofol.
Mae elfen addysgiadol ynghlwm â phob un o’r cyngherddau, boed hynny’n brosiectau cyfansoddi, yn ddosbarthiadau meistr offerynnol neu’n ddigwyddiadau cymunedol, y cyfan wedi’u cynllunio i ysbrydoli ein cynulleidfa.

Thema: Amgylchedd a chynaladwyedd
Arweinydd Cyfansoddi: Ed Wright
Arweinydd Perfformio: Heather Roche (Clarinetau)
Disgyblion: Blwyddyn 6 o Ysgol y Graig & blwyddyn 7 o Ysgol Llangefni: 9-11 mlwydd oed
Nifer o Sesiynau: 4
Brîff: Bydd Ed Wright a Heather Roche yn ymweld â’r ddwy ysgol i gydweithio ar brosiect cyfansoddi sydd yn ddilyniant o’r prosiect o’r flwyddyn ddiwethaf. Bydd y weithgaredd yn cyfuno disgyblion blwyddyn 6 o Ysgol y Graig a blwyddyn 7 o Ysgol Llangefni a chwaraeodd ran yn y prosiect yn 2014. Pwrpas y prosiect yw i sicrhau bod y broses o bontio addysg cerddorol plant o gyfnod allweddol 2 i 3 mor llyfn a sy’n bosib. Bydd rhai o’r gweithgareddau yn cynnwys recordio deunydd y gellir eu hailgylchu (e.e. tiniau, poteli gwydr) a’u trin â pheiriannau i greu darn o gerddoriaeth acwsmatig. Bydd y disgyblion yn parhau a’u cyfleon o 2014 gan gyfuno’r gerddoriaeth acwsmatig â pherfformiwr byw.
Thema: Cynaladwyedd
Arweinydd Cyfansoddi: Katherine Betteridge
Arweinydd Perfformio: Eleanor Lighton
Disgyblion: Blwyddyn 6 o Ysgol Talysarn, Dyffryn Nantlle: 9-10 mlwydd oed
Nifer o Sesiynau: 4
Brîff: Bydd arweinwyr y gweithdy yn ymweld â’r ysgol gynradd i gynnal cyfres o weithdai cyfansoddi a pherfformio gyda’r nôd o greu darn o gerddoriaeth wedi ei ysbrydoli gan hinsawdd amgylcheddol bregus y byd (rhew yn toddi, stormydd annisgwyl, dinistrio coedwigoedd ayyb). Byddwn yn cydweithio ymhellach â’r Ganolfan Dechnoleg Amgen ym Machynlleth. Perfformir y darn hwn gan Ensemble Gerddoriaeth Newydd Bangor yn ystod y gwaith gosod ‘Receive and Return’.
Thema: Cyfansoddi Cerddoriaeth Roc Flaengar
Arweinydd y Gweithdy: Osian Williams (Candelas)
Disgyblion: 3 o fandiau ifanc lleol o Gwynedd a Sir Fôn: 12-18 mlwydd oed
Nifer o Sesiynau: 4
Brîff: Cyfres o weithdai mewn ysgolion a anelir at hyrwyddo creu cerddoriaeth offernyol roc/pop, gan ganolbwyntio ar yr elfennau a ddefnyddir mewn dulliau cerddoriaeth roc flaengar. Bydd bob band yn cyfansoddi o leiaf dwy ‘gan’ newydd (gyda neu heb lais) i’w perfformio yn ystod y gweithdy yn yr Ŵyl, â pherfformiad ychwanegol yr wythnos ganlynol yn Galeri, Caernarfon.
Cydlynwyr: GGB
Beirniaid: Pierre Alexandre Tremblay, Heather Roche, Carla Reex, Xenia Pestova a Guto Pryderi Puw
Arweinydd y Gweithdy: Pierre Alexandre Tremblay
Nifer o Sesiynau: 1
Brîff: Cais i gyfansoddwyr ifanc o Brydain, sy’n cychwyn ar eu gyrfaoedd, i ysgrifennu sgôr ar gyfer y ffliwt, y clarinet, a’r piano, gan gynnwys elfen electroneg (yn fyw neu wedi’i recordio) neu beidio. Dewisir pedwar cyfansoddiad i’w perfformio a’u trafod mewn gweithdy yn ystod yr ŵyl, a arweinir gan y cyfansoddwr rhyngwladol adnabyddus, P. A. Tremblay. Perfformir y darn buddugol yn y cyngerdd gyda’r nos. Bydd cyfle i’r enillwyr ddatblygu eu crefft ymhellach drwy a) dderbyn comisiwn o bwys ar gyfer gŵyl 2016, b) cael cyfle i weithio’n agos â’r berfformwraig Elin Manahan Thomas, ac c) cael eu mentora gan Gyfarwyddwr Artistig yr ŵyl yn ystod y broses greu.

Thema: Perfformio’r Sacsoffon
Arweinydd y Gweithdy: Rob Buckland
Nifer o Sesiynau: 1
Briff: Dosbarth meistr perfformio gyda Rob Buckland o’r Apollo Saxophone Quartet ar gyfer myfyrwyr y Brifysgol a disgyblion ysgolion lleol. Bydd yn gyfle i’r perfformwyr i ddangos eu talent, boed o’n unigol neu mewn ensemble. Mae am fod yn ddosbarth meistr diddorol ac arbennig gyda un o sacsoffonwyr gorau Prydain.
Thema: Byrfyfyrio
Arweinydd y Gweithdy: Deuawd BD
Nifer o Sesiynau: 1
Brîff: Gweithdy perfformio a chyfansoddi âg aelodau o Ddeuawd Bourne Davis a myfyrwyr yr Ysgol Gerdd, Prifysgol Bangor. Bydd y Triawd yn arwain y prosect gan weithio â’r myfyrwyr ar nifer o brosiectau, gan berfformio a recordio’r gwaith yn ystod gweithdai’r Ŵyl.
Arweinydd Cyfansoddi: Fraser Trainer
Arweinydd Perfformio: Aelodau o BBC NOW
Disgyblion: Disgyblion TGAU a Lefel A o Gwynedd a Sir Fôn: 14-18 mlwydd oed
Nifer o Sesiynau: 1
Brîff: Mae’r gweithdy yma’n rhan o strategaeth ddatblygu’r Proms sydd wedi ei hanelu at ysbrydoli pobl ifanc i gyfansoddi. Bydd y cyfansoddwr addysgiadol profiadol, Fraser Trainer, yn rhoi cyflwyniad ar sylfeini cyfansoddi, gyda’r nod o ysgogi’r disgyblion i ysgrifennu darn byr allai fod yn sylfaen i gyfansoddiad mwy. Byddai modd, wedyn, cyflwyno’r gwaith hwn fel ymateb i gais y Proms am sgorau cerddorol. Bydd pob cyfansoddiad yn cael ei berfformio a’i recordio yn ystod y diwrnod gan aelodau o Gerddorfa Genedlaethol Cymru’r BBC.