13:00
Stiwdio, Pontio
Ensemble CGWM
(mewn cyd-weithrediad â Canolfan Gerdd William Mathias)
i gynnwys comisiynau gŵyl gan Niamh O’Donnell (Gratitude) a Tayla-Leigh Payne a cherddoriaeth gan Gwydion Rhys a Hillary Tann gyda dau ddarn wedi’u dewis o alwad am sgorau Gwobr Gyfansoddi William Mathias.
19:30
Theatr Bryn Terfel
Son of Chamber Symphony
UPROAR
Cerddoriaeth gan gyfansoddwyr rhyngwladol adnabyddus, Olga Neuwirth (‘Symphonie Diagonale’) a John Adams (Son of Chamber Symphony) ochr yn ochr â thri chyfansoddiad beiddgar newydd, wedi’u hysbrydoli gan, ac yn ymateb i fywyd cyfoes yng Nghymru gan Richard Baker, Nathan James Dearden a Lynne Plowman.
