Rhaglen

Andrew Lewis: Earthline
Sam Davies: Ascending Descending
Tanya Dower: Chiron’s Return
Siwan Rhys: Dwylo
Alan Chamberlain: Pen Dinas in Voice

Nodiadau Rhaglen

Andrew Lewis: Earthline ar gyfer ffliwt fas ac electronig

Mae Earthline yn gymar i’m darn electroacwstig Skyline (2016). Datblyga ac ymestynna’r darn cynharach synau yr Adreyn Du a recordiwyd ar doriad gwawr yn fy ngardd un bore o haf. O fewn Earthline caiff tair brawddeg ar ddeg unigol o’r recordiadau hyn eu harafu lawr a’u darostwng mewn traw, gan arddangos byd diarth o’u manylion mewnol a’u cyflwyno i gwmpasran y ffliwt fas. Dyma yw deunydd craidd y ffliwtydd bas, sy’n ail-greu y siapiau lleisiol nodedig a’r lliwiad rhyfedd o gân yr Aderyn Du drwy ddefnyddio nifer o dechnegau lliwio tra fertwosig.

Comisiynwyd Earthline gan Ŵyl Gerdd Bangor ac fe’i cyfansoddwyd ar gyfer Richard Craig, lle mae ei chwarae anhygoel ar y ffliwt bas yn cael ei glywed yn y rhan electroneg yn ogystal.

Samuel Davies: Ascending Descending

Roeddwn wedi fy ysbrydoli gan y grisiau esgynnol a disgynnol a ddarlunnir gan M. C. Escher, sy’n rhith o fynd i rywle ond eto i unlle ar yr un pryd. Gweithredais hyn yn fy ngherddoriaeth mewn amrywiol ffyrdd. Yn gyntaf y cywair. Mae’r darn gan fwyaf yn defnyddio’r raddfa dôn gyflawn sy’n rhoi iddo synnwyr o ansicrwydd a dryswch. Yn ail y prif fotif, sy’n llinell ddisgynnol syml a chwaraeir gan y clarinét ym mar 1. Yna fe’i rhennir rhwng y ffliwt a’r obo gan ei ôl redeg ym mar 3 gan roddi iddo’r teimlad o esgyn a disgyn. Ceir cymalau tebyg drwy gydol y darn. I orffen, rwy’n defnyddio perpetuum mobile i greu syniad cyson ond eto statig i gynrychioli mynd i rywle ond eto i unlle, gan ei gyfuno gyda’r gyfres ddiderfyn i bwysleisio’r syniad o symudiad statig, ond eto yn ceisio mynd i rywle.

Tanya Dower: Chiron’s Return

Gweithia Tanya Dower gyda synau a cherddoriaeth fel arf therapiwtig ar gyfer iechyd a lles gan greu seinfydoedd sy’n aml iawn yn adlewyrchu yr amgylchedd a thirwedd o gwmpas cymoedd De Cymru. Drwy ddefnyddio synau naturiol ac electronig gan gynnwys y llais, fe gyfansoddodd ar gyfer theatr gynhwysol, amlgyfryngau rhyngwladol ac arddangosfeydd cymunedol lleol.

Ysbrydolwyd y cyfansoddiad hwn i CoDI ELECTRONIC gan fytholeg a seryddiaeth Roegaidd. Mae amleddau iachau ‘Chiron’s Return’ yn gwahodd y cyfranogwr i drefnu a chwarae ei daith iachau ei hun ar hyd cylchdro Dynfarch Blaned Ceiron. Yr unig amod yw y dylai unrhyw offeryn gael ei chwarae yn y cywair o F fwyaf.

Siwan Rhys: Dwylo

Mae’r darn yma ar gyfer dwylo.

Alan Chamberlain: Pen Dinas In Voice

Mae Pen Dinas In Voice yn dwyn ynghyd dechnoleg, recordiadau maes o’r safle, cyfweliadau, data archaeoleg a dealltwriaethau lleol fel ffordd o archwilio y posibiliadau sonig o’r fryngaer Gymreig Pen Dinas. Dros gyfnod o flynyddoedd bu Alan yn ymwneud gyda’r safle archaeolegol ac yn cyflawni gwaith i ddeall y salfe’n well a’r ffordd roedd pobl wedi defnyddio’r safle, yn y gorffennol a’r presennol ill dau ym mhentref Penparcau (ger Aberystwyth).

Mae’r cyfansoddiad yn cynnwys tair adran, sy’n cynrychioli esblygiad ac adeiladwaith y safle, pob un gyda’u rhinweddau sonig penodol. Fel y gwahanol ddehongliadau o bwysigrwydd y fryngaer a’r amryfal ystyron sydd ganddi i’r sawl sy’n gysylltiedig â hi, datblygir y darn i gael ei berfformio mewn amryw o ffyrdd, gan ddefnyddio gwahanol agweddau a dulliau o’i berfformio, ac eto yn cynnwys elfen gydnabyddadwy pob amser y’i perfformir. O fewn y darn ceir elfennau sy’n darparu’r ‘cefndir’, tra rhoddir cyfres o ‘dameidiau’ awdio i’r perfformwyr er mwyn iddynt eu dehngoli a’u defnyddio i berfformio’r darn.

Gwyliwch ar AM

SDG Productions

Golygwyd y perfformiad yma gan SDG Productions.

Mae SDG yn partneriaeth newydd sy’n arbenigo mewn llogi sain byw a chreu cynnwys amlgyfrwng. Hefo profiadau yn gweithio gydag ensemblau a chymdeithasau o’r brifysgol, recordio cerddorfeydd, ar gyfer artistiaid annibynnol a darparu sain byw i fandiau. Ein nod yw darparu sain a recordiadau i bawb. Ffotograffiaeth a fideo i ddigwyddiadau. Rydym yn arbenigo mewn perfformiadau cerddorol, chwaraeon a thirweddau naturiol.