CARYL HUGHES

Mae Caryl wedi hen arfer perfformio ar lwyfannau Prydeinig a byd-eang. Wedi ei magu yn Aberdaron, cafodd ei disgrifio fel tour de force gan y cylchgrawn Opera ac mae wedi derbyn canmoliaeth uchel am eigwaith fel cantores/actores operatig, yn enwedig yn opera Y Twr gan Theatr Genedlaethol Cymru.

Derbyniodd Caryl hyfforddiant yn yr Academi Frenhinol yn Llundain ar y Cwrs Llais ac Opera ol-radd. Aeth ymlaen i astudio yn yr Academi Llais Ryngwladol yng Nghaerdydd. Mae wedi enill Gwobr W. Towyn Roberts yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ogystal a gwobr llais Rhyngwladol Stuart Burrows. Perfformiodd yn rownd derfynol Cystadleuaeth Canwr y Byd yn 2006 ac yng Nghystadleuaeth Canu Rhyngwladol Les Azuriales yn 2010.

Mae ei rhannau operatig yn cynnwys Cenerentola a Varvara (Katya Kabanova) i Opera yr Alban , Teti (Le nozze di Teti a di Peleo) gyda Carlo Rizzi ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru, Tiny (Paul Bunyan) , Papagena a Rita Rat (Fantastic Mr fox) ar gyfer English Touring Opera, First Nymph (Rusalka) ar gyfer Opera Grange Park, Cherubino a Dorabella ar gifer Diva Opera, Mercedes (Carmen) ar gyfer Gwyl Rhyngwladol Llangollen a Flora (The Enchanted Pig) i Theatr Young Vic / The Opera Group. Yn ogystal, mae hi wedi perfformio rhan Maria (West Side Story) a Cosette (Les Miserables) i Opera Pimlico.

Mae gyrfa Caryl fel cantores opera yn rhedeg yn gyfochrog a’i gyrfa fel therapydd, lle bu’n gweithio gyda myfyrwyr cerdd yn y Coleg Cerdd Brenhinol. Cafodd ei mab Macsen ei eni yn Ionawr 2019; ers hynny, mae Caryl wedi perfformio gyda Cwmni Opera Longborough. Cafodd adolygiadau ardderchog.