THOMAS WHITCOMBE

Mae Thomas Whitcombe yn gyfansoddwr o Gymru sydd rŵan yn gweithio o Gaerdydd ar ôl astudio ym Mhrifysgol Bangor ar gyfer ei raddau Israddedig a Meistr. Yn ddiweddar dyfarnwyd ‘Cyfansoddiad neu Drefniant Orau gan Myfyrwyr’ i Thomas yn UniBrass 2020 am ei ddarn ‘Y Mór yn y Nos’, ochr yn ochr â chael ei ddewis i gymryd rhan yn Composition: Wales 2020 gyda Cherddorfa Genedlaethol Cymru’r BBC. Penllanw hyn oedd perfformiad o’i ddarn ‘yr hyn sydd yn y niwl’ yn Neuadd Hoddinott, Caerdydd. Mae Thomas hefyd wedi cael nifer o weithiau am y tro cyntaf yng Ngŵyl Gerdd Bangor, yn ogystal ag ensembles y brifysgol a chymunedol.