10 Cyfansoddwr o Gymru, 10 Comisiwn

Uproar Cymru darn arweiniad  Michael Rafferty

Rhaglen:

John Metcalf: Air – An Aria
Steph Power: Semaphore
Gareth Moorcraft: Cycles
i. Strange orbit
ii. Cumulation canon
iii. Zooming in
iv. Mr Flutterby Dances
Andrew Lewis: Étude aux objets
Carlijn Metselaar: Night Parade of Monsters
Michael Parkin: Murmurations
Maja Palser: Aus dem Leeren
Sarah Lianne Lewis: mind the gap
Guto Pryderi Puw: Uwchsonig (Ultrasonic)
Lynne Plowman: UP

UPROAR Cymru

UPROAR yw yr ensemble cerddoriaeth newydd Cymru. O’i lansio yn 2018, bydd ei berfformwyr rhagorol o dan arweiniad Michael Rafferty yn cyflwyno cerddoriaeth glasurol ryngwladol orau a gyfansoddir heddiw i Gymru a’r DU. Gan gydweithio’n agos â chyfansoddwyr ac yn arbennig gomisiynu gwaith newydd, daw’r ensemble hyblyg hwn â phrofiad helaeth o berfformio gyda’i gilydd fel unawdwyr a cherddorion siambr. Bydd yr ensemble yn ailddyfeisio’r ffordd y cyflwynir cyngherddau i gynulleidfaoedd sy’n hoffi’r gweledol, gan berfformio’n aml mewn lleoliadau ysbrydoledig ac anarferol. Bydd ei gydweithrediadau amlgyfrwng â dawns, theatr, ffilm, celfyddydau gweledol, fideo ac electroneg byw yn gwthio ffiniau’r ffurfiau hyn, gan gynnig profiadau bythgofiadwy. Bydd UPROAR yn meithrin cenedlaethau newydd o gyfansoddwyr sy’n gweithio yng Nghymru, gan ddarparu cyfleoedd perfformio a datblygu i gyfansoddwyr yn ystod pob cam o’u gyrfaoedd.

Am y Cyfansoddwyr

John Metcalf
John Metcalf

Wedi’i eni yn Abertawe, un o gyfansoddwyr Cymreig blaenllaw ei genhedlaeth yw John Metcalf. Yn ddinesydd o’r DU a Chanada, mae ei yrfa gyfansoddi’n cwmpasu amrywiaeth eang o waith gan gynnwys saith opera – dwy wedi’u comisiynu gan Opera Cenedlaethol Cymru. Cynhyrchwyd ei opera ddiweddaraf, Under Milk Wood, gan gonsortiwm rhyngwladol dan arweiniad Canolfan Gelfyddydau Taliesin ar gyfer Gŵyl Canmlwyddiant Dylan Thomas yn 2014. Derbyniodd ganmoliaeth fawr gan y beirniaid ac mae wedi’i recordio ar Recordiau Tŷ Cerdd.

Mae ganddo hefyd gatalog helaeth o weithiau i offerynnau unawd a cherddorfa, gan gynnwys Paradise Haunts, Mapping Wales a Symffoni i’r Soddgrwth ac wedi cyfansoddi cryn dipyn o gerddoriaeth siambr. Mae ei waith i biano unawd Endless Song wedi cael ei berfformio a’i ddarlledu’n eang. Mae ei gerddoriaeth yn cael ei chynrychioli’n helaeth mewn catalog cynyddol o recordiadau.

John Metcalf yw Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl arobryn Bro Morgannwg ers ei chychwyn ym 1969. Mae wedi arwain prosiectau cerdd creadigol mewn dros 150 o ysgolion ar draws Cymru, gan adlewyrchu ei gred mewn rôl weithredol gyfranogol i’r cyfansoddwr yn y gymdeithas.

Ym 1999, chwaraewyd ei gerddoriaeth wrth i’w Mawrhydi y Frenhines lofnodi’r Ddeddf a roes fodolaeth i Gynulliad etholedig cyntaf Cymru ers 500 mlynedd ac yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2012 dyfarnwyd iddo MBE am wasanaethau i gerddoriaeth.

Steph Power
Steph Power

Cyfansoddwraig, awdur a beirniad yw Steph Power sy’n byw yng nghanolbarth Cymru. Ar ôl graddio o Brifysgol Caerefrog ym 1987, bu’n gweithio’n llawrydd fel perfformwraig am sawl blwyddyn gan arbenigo mewn cerddoriaeth gyfoes ac o’r 20fed ganrif (gitarau / offerynnau taro / llefaru). Yn un o aelodau sefydlu Icebreaker a Minstrels Jane Manning, bu hefyd yn perfformio gyda Gemini a Lontano, Innererklang, Northern Music Theatre a rhagor.

Mae ei cherddoriaeth wedi’i pherfformio gan Xenia Pestova, Yfat Soul Zisso, Explorations in Sound, Llŷr Williams, Deuawd Bridge ac Ensemble PM ymhlith eraill. Yn 2017 perfformiwyd comisiwn gan Ŵyl Bro Morgannwg am y tro cyntaf yn y byd o and / ante gan Driawd Marsyas.

Mae Steph hefyd yn ysgrifennu’n helaeth am gerddoriaeth: nodiadau cloriau i Recordiau NMC; erthyglau, adolygiadau a barddoniaeth mewn amryw o gylchgronau o Opera Magazine a TEMPO i Poetry Wales ac fel golygydd cyfrannol i Wales Arts Review. Mae’n feirniad i’r Independent a The Stage, BBC Music Magazine ac Opera Now. Ym mis Hydref 2017, cyhoeddwyd The Music of Simon Holt (Boydell & Brewer), astudiaeth fawr y cyfrannodd ddwy bennod iddi.

Gareth Moorcraft
Gareth Moorcraft

Cyfansoddwr o’r Bont-faen ym Mro Morgannwg yw Gareth Moorcraft a ddarllenodd gerddoriaeth yng Ngholeg Caerwrangon, Rhydychen, lle astudiodd gyfansoddi gyda Robert Saxton. Yn ddiweddarach derbyniodd ysgoloriaeth gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau i astudio gyda Gary Carpenter yn yr Academi Gerdd Frenhinol. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar ei ddoethuriaeth gyda David Sawer a Simon Bainbridge.

Perfformiwyd ei gerddoriaeth yn eang yn y DU ac Ewrop gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, ensemble CHROMA, Endymion a’r Gerddorfa Ffilharmonig. Yn 2012, enillodd ei waith Rondo i driawd chwyth Wobr Cyfansoddwr Prydeinig. Ers hynny, derbyniodd Wobr Gyfansoddi Tŷ Cerdd (2013), Gwobr Theodore Holland (2016) a Gwobr Gyfansoddi fawreddog y RPS (2016). Y llynedd, rhyddhawyd ei Reflections (ar ôl Gibbons) ar recordiau NMC.

Andrew Lewis
Andrew Lewis

Astudiodd Andrew Lewis gyfansoddi gyda Jonty Harrison ym Mhrifysgol Birmingham lle bu’n un o sefydlwyr BEAST. Ar hyn o bryd, ef yw’r Athro Cerdd ym Mhrifysgol Bangor lle mae’n dysgu cyfansoddi ac yn cyfarwyddo’r Stiwdios Cerddoriaeth Electroacwstig. Mae ei gerddoriaeth yn ymwneud â ffenomenon sain fel deunydd cyfansoddol ac yn aml bydd yn defnyddio technoleg wrth ei chynhyrchu a’i pherfformio.

Ymhlith gwobrau, dyfarniadau a chyfeiriadau nodedig ato mae ‘Euphonie d’Or’ Bourges (Ffrainc), Gwobr PRS, Celfyddydau Electronig Stockholm, Prix Ars Electronica, Noroit (Ffrainc), y Radio Hwngaraidd, ARTS XXI (Sbaen), CIMESP (Brasil), KLANG (Ffrainc), Destellos (Ariannin). Mae prosiectau diweddar yn cynnwys ‘Lebenslieder’, gwaith mawr i gerddorfa ac electroneg gyda lleisiau pobl sydd â dementia a’u partneriaid sy’n gofalu amdanynt. Fe’i cyfansoddwyd fel rhan o Gymrodoriaeth Ymchwil Leverhulme ac yn 2018 perfformiwyd fersiwn siambr am y tro cyntaf gan aelodau o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Carlijn Metselaar
Carlijn Metselaar

Cyfansoddwraig o’r Iseldiroedd yw Carlijn Metselaar sy’n byw yng Nghaerdydd. Yn ddiweddar enillodd Wobr Talent Ifanc gan y Prins Bernhard Cultuurfonds i ddechrau doethuriaeth mewn Cyfansoddi ym Mhrifysgol Caerdydd. Astudiodd Carlijn gyfansoddi, cerddoleg ac arwain corawl yn Utrecht yn yr Iseldiroedd. Yn 2017, cwblhaodd radd ôl-raddedig mewn cyfansoddi gyda rhagoriaeth yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Yn 2016, derbyniodd Carlijn grant cyfansoddi ar gyfer ei hopera ‘Martine&Martinus’, a berfformiwyd yng Nghadeirlan Utrecht. Perfformiwyd ei miniatur cerddorfaol ‘Leap’ gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC fel rhan o Cyfansoddi Cymru. Yn ddiweddar comisiynodd Classical Movements ‘Well, Actually’, cân gabaret am ‘ddynsbonio’ (mansplaining) i Ensemble Lleisiol Olga.

Ymhlith cyfansoddiadau newydd ceir y pumawd pres ‘Roof’ i Academi Pres Siambr Stockholm a chomisiwn i UPROAR, ensemble cerddoriaeth gyfoes newydd Cymru. Mae Carlijn yn cymryd rhan yng Nghynllun Cyfansoddwyr Ifainc yr LPO 2018-2019 dan arweiniad James MacMillan.

Michael Parkin
Michael Parkin

Mae cerddoriaeth Michael Parkin wedi cael ei darlledu a’i pherfformio yng ngwledydd Prydain, Ewrop a’r Unol Daleithiau. Astudiodd gyda William Mathias ac mae wedi ennill gwobrau lu gan gynnwys Cystadleuaeth Cyfansoddwyr Ifainc Celfyddydau Swydd Efrog, gwobr MidNAG a Gwobr Match TM.

Detholwyd ei farwnad i’r ffliwt unawd ar gyfer wythnos Cerddoriaeth Ryngwladol Gaudeamus yn yr Iseldiroedd ac ym 1994 ef oedd un o’r cyfansoddwyr a welwyd yng Ngŵyl Bro Morgannwg. Yn 2006, derbyniodd un o wobrau mawr ei bri Cymru Greadigol i’w alluogi i gyfansoddi cerddoriaeth gerddorfaol ac mae gweithiau diweddar fel Still Life a Srebrenica wedi cael eu perfformio am y tro cyntaf gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae recordiadau CD ar gael ar labeli Prima Facie (ASC), Meridian, Metier a Chyfansoddwyr Cymru.

Mae Michael yn byw yn Sir Benfro a bu’n un o sefydlwyr ac yn gadeirydd (bellach wedi ymddeol) Cyfansoddwyr Ifainc Dyfed, y prif gynllun blynyddol ar gyfer cyfansoddwyr ifainc ym Mhrydain.

Maja Palser
Maja Palser

Yn cael ei sbarduno gan ddiddordeb ysol yng ngallu cerddoriaeth i newid ein canfyddiadau o ran amser a gofod, prif nod gwaith Maja fel cyfansoddwraig yw edrych ar yr agweddau corfforol, ffisiolegol ac ysbrydol o gerddoriaeth. Cyflwynodd traethawd ei gradd Meistr (Bryste 2013) dystiolaeth bod cerddoriaeth, o gael ei ddefnyddio fel dull o groesholi, yn gyfystyr ag arteithio, oherwydd ei allu i effeithio ar y corff yn ogystal â’r meddwl.

Derbyniodd gomisiynau gan Ganolfan Gerdd William Mathias ar gyfer Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru 2016, gan y Progressive Art Agency ar gyfer Gŵyl Clywed Celfyddyd, Gweld Sain yn Yerevan, Armenia a chan Ŵyl Gerdd Bangor. Yn ystod hydref 2017, bu’n cynrychioli Cymru yn Niwrnodau Cerddoriaeth y Byd ISCM yn Vancouver, Canada. Derbyniodd Ysgoloriaeth Syr Jack Lyons Adran Gerdd Prifysgol Caerefrog i gefnogi doethuriaeth mewn cyfansoddi gan ddechrau yn hydref 2017. Mae ei gweithiau wedi cael eu perfformio yn Armenia, Israel, Canada a’r DU.

Sarah Lianne Lewis
Sarah Lianne Lewis

Mae cerddoriaeth Sarah Lianne Lewis yn cael ei ddylanwadu gan dirweddau Cymru, barddoniaeth Siapaneaidd a phensaernïaeth gofodau perfformio ac fe’i disgrifiwyd fel ‘tawel a chain’ (Matthias Roth, Rhein Neckar Zeitung, 2016) ac yn ‘llawn seinlawnder dychmygus’ (Steph Power, Wales Arts Review, 2016). Astudiodd ym Mhrifysgol Caerdydd gan dderbyn BA 2:1 (Anrhydedd) mewn Cerddoriaeth a Hanes ac MMus mewn Cyfansoddi. Ers graddio, derbyniodd sawl comisiwn a chyfle i berfformio gan wyliau yn y DU ac Ewrop.

Yn ddiweddar cydweithiodd Sarah gyda Quatuor Bozzini drwy breswyliad Embedded/Composers’ Kitchen Sound and Music. a gyda Orchestre Philharmonique de Radio France (ManiFeste Academie 2017). Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar gomisiynau ar gyfer ensemble UPROAR a Sonata i’r Feiolín i Mary Hofman a Richard Ormrod.

Guto Pryderi Puw
Guto Pryderi Puw

Astudiodd Guto Pryderi Puw Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor o dan y cyfansoddwyr John Pickard, Pwyll ap Siôn ac Andrew Lewis gan dderbyn ei ddoethuriaeth mewn Cyfansoddi yn 2002. Fe’i penodwyd yn ddarlithydd yn 2006 gan ganolbwyntio’n bennaf ar Gyfansoddi a Cherddoriaeth Gyfoes ac yn 2015 fe’i penodwyd yn Bennaeth Cyfansoddi.

Daeth Puw i amlygrwydd gyntaf ar ôl ennill Medal y Cyfansoddwr yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1995 ac am yr eildro ym 1997. Mae ei gerddoriaeth wedi’i chynnwys mewn llawer o wyliau ledled y DU a’i darlledu’n rheolaidd ar y radio a’r teledu. Ym mis Chwefror 2006, ef oedd y cyntaf i ddod yn gyfansoddwr preswyl gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, gyda’i Goncerto i Obo yn ennill categori Gwobr y Gwrandawyr yng Ngwobrau Cyfansoddwr Prydain yn 2007 ac ‘… onyt agoraf y drws…’ yn cael ei berfformio am y tro cyntaf yn y Proms yn ystod yr un flwyddyn a’i ddewis yn nes ymlaen fel yr ail waith cerddorfaol gorau gan gyfansoddwr o Gymru yng nghylchgrawn y Gramaphone yn 2015.

Yn 2013, derbyniodd Wobr Syr Geraint Evans gan Urdd Cerddoriaeth Cymru am ei gyfraniad sylweddol i gerddoriaeth Gymreig. Aeth Theatr Gerdd Cymru â’i gomisiwn opera cyntaf, Y Tŵr, yn seiliedig ar y ddrama gan Gwenlyn Parry a chyda libreto gan Gwyneth Glyn, ar daith lwyddiannus gan dderbyn clod mawr gan y beirniaid drwy’r DU benbaladr yn 2017.

Am flynyddoedd lawer mae Puw wedi bod yn weithgar wrth hyrwyddo cerddoriaeth newydd yng ngogledd Cymru drwy ei ymwneud â Gŵyl Gerdd Bangor, ac yntau’n un o’i haelodau sefydlu a’i Chyfarwyddwr Artistig er 2000.

Lynne Plowman
Lynne Plowman

Mae Lynne Plowman yn cyfansoddi cerddoriaeth sy’n amrywio o unawdau offerynnol cain i weithiau lleisiol, theatraidd a cherddorfaol mawr a dramatig.

Ymhlith ei chomisiynwyr a chydweithredwyr mae Opera Cenedlaethol Cymru, Glyndebourne, Cwmni Brenhinol Shakespeare, Chwaraewyr Mozart Llundain, Gŵyl Llanandras, Piano Circus, Okeanos, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Chantorion y BBC.

Mae gwobrau’n cynnwys Gwobr Cyfansoddwr Prydeinig (2003) am Gwyneth and the Green Knight, a ddisgrifiwyd yn y Times fel ‘un o’r operâu newydd mwyaf rhyfeddol o fedrus yr wyf wedi’i chlywed ers llawer dydd.’ Yn 2012, galluogwyd Lynne gan Wobr Cymru Greadigol i ddatblygu ei hysgrifennu cerddorfaol – cafodd Catching Shadows ei berfformio am y tro cyntaf gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. “Y canlyniad yw cyhyrogrwydd gwefreiddiol a sicrwydd o ran cynllun.” (Wales Arts Review, 2016)

Tiwtor cyfansoddi yw Lynne Plowman yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a chyfansoddwr preswyl ar gyfer cynllun Cyfansoddwyr Ifainc Dyfed. Yn 2017/2018, mae Cronfa Gyfansoddwyr PRSF/Esmée Fairbairn yn cefnogi hyrwyddo gwaith Lynne yn rhyngwladol a datblygu prosiectau yn y dyfodol.

Dyddiad: 9 Chwefror 2019
Amser: 7:30pm
Lleolad: Theatr Bryn Terfel, Pontio
Tickets: £15 / £12 (Seinior) / £5 (Student/Child)
Book Online
(Box Office: 01248 382 828)