{"id":3475,"date":"2019-01-09T17:26:44","date_gmt":"2019-01-09T17:26:44","guid":{"rendered":"http:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/?p=3475"},"modified":"2019-01-09T17:26:44","modified_gmt":"2019-01-09T17:26:44","slug":"cynulleidfaoedd-i-fwynhau-cerddoriaeth-gan-gerddorfa-xbox","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/cy\/2019\/01\/09\/cynulleidfaoedd-i-fwynhau-cerddoriaeth-gan-gerddorfa-xbox\/","title":{"rendered":"Cynulleidfaoedd i fwynhau cerddoriaeth gan gerddorfa Xbox"},"content":{"rendered":"<p><img fetchpriority=\"high\" decoding=\"async\" class=\"img-responsive img-information alignnone wp-image-3293 size-large\" src=\"http:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/slo_sync-1024x683.jpg\" alt=\"\" width=\"1024\" height=\"683\" srcset=\"https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/slo_sync-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/slo_sync-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/slo_sync-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/slo_sync-310x206.jpg 310w, https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/slo_sync.jpg 2048w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/p>\n<p>Bydd cerddorfa arbrofol sy\u2019n defnyddio cyfrifiaduron a rheolwyr gemau Xbox i wneud cerddoriaeth yn cymryd lle mewn g\u0175yl gerdd adnabyddus.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Swansea Laptop Orchestra yn gaddo noson \u201cgyffrous ac ysgogol\u201d yn ystod G\u0175yl Gerdd Bangor a fydd yn cychwyn yng nghanolfan Pontio Bangor ar ddydd Gwener, Chwefror yr 8fed.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l cyfarwyddwr artistig yr \u0175yl, Dr Guto Pryderi Puw, Uwch Ddarlithydd a Phennaeth Cyfansoddi ym Mhrifysgol Bangor, bydd y digwyddiad deuddydd yn rhoi llwyfan i 21 premiere nodedig.<\/p>\n<p>Yn eu plith bydd gweithiau newydd gan chwe artist sain Cymreig a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer y cyngerdd agoriadol sy\u2019n cynnwys y Swansea Laptop Orchestra.<\/p>\n<p>Roedd Dr Jenn Kirby, darlithydd mewn cyfansoddi a thechnoleg cerdd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn un o\u2019r aelodau a sylfaenodd y gerddorfa ac sy\u2019n perfformio gyda\u2019i chyd-weithiwr Simon Kilshaw mewn lleoliadau a gwyliau ledled Cymru.<\/p>\n<p>Dywedodd bod y gerddoriaeth y maen nhw\u2019n ei gynhyrchu a\u2019i berfformio yn arbrofol, yn glasurol, electroacwstig ac yn electronig.<\/p>\n<p>Meddai Jenn, sy\u2019n Wyddeles: \u201cMae\u2019r hyn a wnawn yn wahanol &#8211; gan ein bod ni\u2019n gwneud offeryn cerdd yn electronig ac yna yn dysgu sut i\u2019w chwarae a sut i berfformio drwy ei ddefnyddio.<\/p>\n<p>\u201cRydym ni\u2019n benthyg gan offerynnau clasurol ac yn addasu\u2019r sain. Er enghraifft, rydym ni\u2019n gwybod pa sain a gawn os ydym ni\u2019n plycio tant ffidil neu git\u00e2r. Rydym ni\u2019n deall y cysyniad hwn ond gallwn fapio ac addasu seiniau hyn gan ddefnyddio gliniaduron a chreu synau newydd a gwahanol iawn.<\/p>\n<p>\u201cRydym ni\u2019n gwneud defnydd helaeth o\u2019r llais hefyd, ond wrth addasu a newid y sain rydym ni\u2019n ei greu mae\u2019r llais yn cael ei drawsnewid i fod yn offeryn gwahanol iawn, yn enwedig pan fydd yn cael ei fapio a\u2019i gymysgu drwy ddefnyddio rhaglen gyfrifiadurol.<\/p>\n<p>\u201cYna gallwn ddefnyddio rheolwyr g\u00eam neu offer arall i wneud synau ac i berfformio\u2019r gerddoriaeth. Drwy roi offeryn newydd sydd wedi ei wneud allan o hen g\u00eam golff Xbox i\u2019r cyfansoddwyr y buom yn gweithio \u00e2 hwy mae modd i ni greu gwahanol synau gan ddefnyddio\u2019r ffordd y mae\u2019r meddalwedd yn mesur swing y clwb golff.\u201d<\/p>\n<p>Ychwanegodd: \u201cMae\u2019n swnio\u2019n fwy cymhleth nad ydy o mewn gwirionedd ond mae\u2019n ffordd newydd a chyffrous o wneud cerddoriaeth arbrofol.<\/p>\n<p>\u201cMae yna gymuned o bobl yn creu cerddoriaeth electroacwstig ac electronig erbyn hyn. Pobl o bob lefel \u2013 rhai dim ond yn dysgu ac eraill yn arbrofi ac yn archwilio synau electronig.\u201d<\/p>\n<p>Ychwanegodd bod hi a Simon Kilshaw wrth eu boddau o gael y cyfle i weithio gyda chwech o gyfansoddwyr newydd i greu darnau newydd a gaiff eu perfformio am y tro cyntaf yn yr \u0175yl.<\/p>\n<p>Dywedodd Jenn: \u201cMae\u2019r gwaith yn rhagorol ac rydym ni wedi bod yn sgorio\u2019r symudedd &#8211; felly rydym ni\u2019n coreograffu ynghyd \u00e2 chynhyrchu sg\u00f4r gerddorol. Rydym ni\u2019n awyddus i ddod ag elfen gorfforol i\u2019r gerddoriaeth ac mae gennym ni fersiwn 3D sy\u2019n defnyddio ein dwylo a symudiadau.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n mynd i fod yn gyngerdd anhygoel ac rydyn ni\u2019n edrych ymlaen yn fawr ato. Mae\u2019r rhain yn gyfansoddwyr newydd, yn offerynnau electronig newydd ac yn synau newydd.\u201d<\/p>\n<p>Yn \u00f4l Guto Pryderi Puw, bydd cyngerdd y Swansea Laptop Orchestra yn un o uchafbwyntiau\u2019r \u0175yl eleni.<\/p>\n<p>Dywedodd: \u201cDan y prosiect Codi Electronics, fe gyflwynodd T\u0177 Cerdd alwad am sgorau ledled Cymru gyda\u2019r bwriad y byddai\u2019r chwe chyfansoddwr yn gweithio\u2019n agos dros gyfnod o amser gyda Dr Jenn Kirby a Simon Kilshaw o\u2019r Swansea Laptop Orchestra i wireddu eu syniadau.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r hyn maent wedi\u2019i gynhyrchu yn newydd ac yn ysgogol. Rwy\u2019n edrych ymlaen at glywed yr hyn maent wedi\u2019i greu ac i weld pa wahanol ddulliau ac arddulliau mae pob cyfansoddwr wedi ei ddefnyddio. Mae\u2019n mynd i fod yn ddigwyddiad anhygoel a fydd yn nodi cychwyn gwych i\u2019r \u0175yl.\u201d<\/p>\n<p>Ychwanegodd: \u201cMae\u2019n argoeli i fod yn \u0175yl arbennig gyda chymaint o gerddoriaeth yn mynd ymlaen fel y gallu y teulu cyfan ei fwynhau. Yn anhygoel mae gennym ni ddim llai na 21 premiere eleni i\u2019w cynnwys o fewn y ddau ddiwrnod yng nghanolfan celfyddydau Pontio ym Mangor.<\/p>\n<p>\u201cMae gennym ni weithdy Camau Nesaf Cerdd ar thema atsain. Mae\u2019r gweithgaredd yma wedi ei anelu at blant o 15 mis i dair mlwydd oed ac o bedair i saith mlwydd oed.<\/p>\n<p>\u201cYn ogystal bydd y ffliwtydd adnabyddus rhyngwladol a Phennaeth Perfformio yn Ysgol Cerddoriaeth a\u2019r Cyfryngau Prifysgol Bangor, Richard Craig, yn perfformio ochr yn ochr ac Electroacwstig Cymru, sydd wedi ei leoli yn y Brifysgol, ar gyfer cyngerdd prynhawn a fydd yn cynnwys gweithiau gan y cyfansoddwyr lleol Andrew Lewis, y cyfansoddwr o Borthaethwy Tristan Rhys Williams a Richard Craig sy\u2019n byw ym Miwmares.<\/p>\n<p>Bydd y cyngerdd olaf yn cynnwys ail berfformiad o gerddoriaeth gan 10 o gyfansoddwyr Cymreig, gan gynnwys un o\u2019m darnau, Uwchsain. Bydd y cyngerdd yn cynnwys ensemble Uproar Cymru ar gyfer yr hyn fydd yn dynodi eu hail berfformiad cyhoeddus erioed o\u2019r gweithiau yma.<\/p>\n<p>\u201cDerbyniodd y cyngerdd cyntaf dderbyniad brwdfrydig dros ben yng Nghaerdydd fis Hydref diwethaf. Mae\u2019n mynd i fod yn \u0175yl anhygoel a byddwn yn annog unrhyw un sy\u2019n hoff o gerddoriaeth, yn enwedig y rhai sy\u2019n mwynhau cerddoriaeth arbrofol a\u2019r anarferol, i fynychu.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bydd cerddorfa arbrofol sy\u2019n defnyddio cyfrifiaduron a rheolwyr gemau Xbox i wneud cerddoriaeth yn cymryd lle mewn g\u0175yl gerdd adnabyddus. Mae\u2019r Swansea Laptop Orchestra yn gaddo noson \u201cgyffrous ac ysgogol\u201d yn ystod G\u0175yl Gerdd Bangor a fydd yn cychwyn yng nghanolfan Pontio Bangor ar ddydd Gwener, Chwefror yr 8fed. Yn \u00f4l cyfarwyddwr artistig yr \u0175yl, [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[110,18],"tags":[],"class_list":["post-3475","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-2019-2","category-datganiadau-ir-wasg"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3475","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3475"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3475\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3476,"href":"https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3475\/revisions\/3476"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3475"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3475"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3475"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}