{"id":3472,"date":"2019-01-08T23:33:06","date_gmt":"2019-01-08T23:33:06","guid":{"rendered":"http:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/?p=3472"},"modified":"2019-01-08T23:33:27","modified_gmt":"2019-01-08T23:33:27","slug":"gwyl-arbennig-i-gynnwys-boomwhakers-a-21-premiere-byd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/cy\/2019\/01\/08\/gwyl-arbennig-i-gynnwys-boomwhakers-a-21-premiere-byd\/","title":{"rendered":"G\u0175yl Arbennig i gynnwys boomwhakers a 21 premiere byd"},"content":{"rendered":"<p>Bydd 21 premiere byd rhyfeddol yn cael eu cynnwys fel rhan o \u0175yl gerdd ragorol yng Ngogledd Cymru.<\/p>\n<p>Bydd y gweithiau newydd ymhlith uchafbwyntiau G\u0175yl Gerdd Bangor sy\u2019n dechrau yng nghanolfan Pontio yn ninas Bangor ar ddydd Gwener, Chwefror yr 8fed.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l cyfarwyddwr artistig yr \u0175yl, Dr Guto Pryderi Puw, uwch-ddarlithydd mewn cerddoriaeth a Phennaeth Cyfansoddi ym Mhrifysgol Bangor, bydd y digwyddiad deuddydd yn gyfle unigryw i archwilio cerddoriaeth newydd ac ysgogol.<\/p>\n<p>Bydd nifer o\u2019r sgorau newydd sydd wedi eu cyfansoddi gan fyfyrwyr cerdd y brifysgol yn cael eu perfformio gyda boomwhakers \u2013 tiwbiau ysgafn plastig sydd wedi eu tiwnio i draw gwahanol yn \u00f4l eu hyd.<\/p>\n<p>Dywedodd Dr Puw: \u201cThema\u2019r \u0175yl eleni yw acwsteg ac mi fydd yna rywbeth i bawb\u201d a hoffai weld teuluoedd yn dod i fwynhau\u2019r digwyddiad yn Pontio.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r \u0175yl yn sefydliad elusennol sydd ag ymrwymiad i gyflwyno cerddoriaeth gyfoes newydd a chyffrous a berfformir gan artistiaid o\u2019r radd flaenaf. Mae gennym hefyd ymrwymiad i gyflwyno ac addysgu\u2019r cyhoedd i\u2019r datblygiadau diweddaraf mewn cerddoriaeth trwy gyfrwng gweithdai a chyngherddau.<\/p>\n<p>\u201cEleni, rydym ni\u2019n gweithio gyda\u2019r cerddor proffesiynol Marie-Claire Howorth sydd \u00e2 chryn dipyn o brofiad mewn gweithio gydag ysgolion a phlant ar brosiectau cerddorol.<\/p>\n<p>\u201cBydd Marie-Claire yn gweithio yn Pontio ar y dydd Sadwrn gan gynnal prosiect Camau Cerdd dan y thema <em>Atsain<\/em> sydd wedi ei rannu i mewn i wahanol grwpiau oedran, ar gyfer plant 15 mis i dair oed ac o bedair i saith mlwydd. Bydd croeso i bawb i ymuno \u00e2\u2019r hwyl, beth bynnag yw eich gallu cerddorol!<\/p>\n<p>\u201cRydym ni hefyd yn cynnal prosiect addysg gydag Ysgol Bro Lleu ym Mhenygroes, a fydd yn gweld disgyblion yn gweithio gyda\u2019r gyfansoddwraig Sarah Lianne Lewis i greu cyfansoddiad newydd, a fydd yn cael ei berfformio yn ystod y cyngerdd ar y noson olaf yn Theatr Bryn Terfel Pontio.<\/p>\n<p>\u201cAc mi fydd Jenn Kirby a Simon Kilshaw yn gweithio \u00e2 chyfansoddwyr addawol a disgyblion o Ysgol y Graig, Llangefni.\u201d<\/p>\n<p>Yn ogystal mae Dr Puw yn edrych ymlaen at weld a chlywed yr hyn y mae boomwhackers y brifysgol yn ei wneud.<\/p>\n<p>Dywedodd: \u201cMae\u2019r ensemble boomwhackers, sydd wedi\u2019i ffurfio yn bennaf o fyfyrwyr o Ysgol Cerddoriaeth a Chyfryngau Prifysgol Bangor, yn rhoi perfformiad cyntaf hyd at chwe chyfansoddiad newydd wedi eu hysgrifennu\u2019n arbennig ar gyfer yr \u0175yl.<\/p>\n<p>\u201cI fod yn onest, gallwn ddweud nad yw\u2019r boomwhacker yn rhyw offeryn soffistigedig iawn, rydych ond yn medru ei daro yn erbyn rhywbeth i greu sain neu draw, ond wrth gael ei chwarae gyda\u2019i gilydd mae\u2019n bosibl creu cyfuniadau arbennig o ran traw a seiniau ac mae ganddynt bresenoldeb gweledol cryf ag atyniadol. Dyma gerddoriaeth newydd, cyffrous a llawn egni.\u201d<\/p>\n<p>Un o uchafbwyntiau\u2019r \u0175yl fydd gweld cyhoeddi enw\u2019r sawl sydd wedi ennill Gwobr Gyfansoddi William Mathias, sy\u2019n agored i gyfansoddwyr ledled y wlad sy\u2019n addawol neu sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd.<\/p>\n<div id=\"attachment_3319\" style=\"width: 202px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img fetchpriority=\"high\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-3319\" class=\"img-responsive img-information wp-image-3319 size-medium\" src=\"http:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/Richard-Craig-Credit-Alex-Craig-192x300.jpg\" alt=\"\" width=\"192\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/Richard-Craig-Credit-Alex-Craig-192x300.jpg 192w, https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/Richard-Craig-Credit-Alex-Craig-768x1203.jpg 768w, https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/Richard-Craig-Credit-Alex-Craig-654x1024.jpg 654w, https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/Richard-Craig-Credit-Alex-Craig.jpg 949w\" sizes=\"(max-width: 192px) 100vw, 192px\" \/><p id=\"caption-attachment-3319\" class=\"wp-caption-text\">Richard Craig<\/p><\/div>\n<p>Eleni bydd y gweithdy yn cael ei arwain gan y ffliwtydd rhyngwladol enwog a Phennaeth Perfformiad yn Ysgol Cerddoriaeth a\u2019r Cyfryngau, Richard Craig a bydd y wobr o \u00a3500 yn mynd i\u2019r gwaith gorau ar gyfer ffliwt, ffliwt alto neu ffliwt fas gydag electroneg.<\/p>\n<p>Bydd y cyfansoddwr buddugol yn clywed ei waith yn cael ei berfformio am y tro cyntaf yn ystod cyngerdd prynhawn Sadwrn yr \u0175yl gan Richard Craig ac Electroacwstig Cymru, sydd wedi ei leoli ym Mhrifysgol Bangor.<\/p>\n<p>Ychwanegodd Dr Puw: \u201cBydd y rhaglen yn cynnwys darnau newydd tan Tristan Rhys Williams o Borthaethwy a gan Richard Craig ei hun, sydd bellach yn byw ym Miwmares.<\/p>\n<p>\u201cBydd comisiynau newydd sy\u2019n archwilio caneuon adar gan Andrew Lewis a darn sydd eisoes yn bodoli gan Shen Lin yn cael ei berfformio ynghyd \u00e2 premiere darn buddugol Gwobr Gyfansoddi William Mathias.<\/p>\n<p>\u201cMae Andrew Lewis yn athro cyfansoddi yma ym Mhrifysgol Bangor ac yn arbenigwr mewn cyfansoddi a pherfformio cerddoriaeth acwsmatig. Yn ei hanfod, mae\u2019n recordio seiniau sydd wedi yn cael eu manipiwleiddio gyda rhaglen gyfrifiadurol ac yn cael eu gosod gyda\u2019i gilydd i greu <em>collage<\/em> o seiniau a chwaraeir drwy uchelseinyddion yn y cyngerdd.<\/p>\n<p>\u201cBydd ei gyfansoddiad yn cyfuno seiniau\u2019r ffliwt gyda chaneuon adar sydd wedi ei recordio.<\/p>\n<p>\u201cBydd Richard Craig hefyd yn perfformio gwaith newydd ei hun sy\u2019n cynnwys nifer o seinyddion bach USB sydd yn ei amgylchynu yn ystod ei berfformiad. Mi fydd yn rhyngweithio gyda\u2019r synau y mae\u2019n ei glywed o\u2019r seinyddion.<\/p>\n<p>\u201cBydd y cyngerdd olaf, a fydd yn cloi\u2019r \u0175yl, yn cynnwys ail berfformiad ddarnau gan 10 o gyfansoddwyr Cymreig. Mae gennym ni gerddoriaeth gan Andrew Lewis, Sarah Lianne Lewis, John Metcalf, Gareth Moorcroft, Carlijn Metselaar, Maja Palser, Michael Parkin, Lynne Plowman, Steph Power, ynghyd \u00e2 darn gennyf fi dan y teitl <em>Uwchsonig.<\/em><\/p>\n<div id=\"attachment_3169\" style=\"width: 310px\" class=\"wp-caption alignleft\"><img decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-3169\" class=\"size-medium wp-image-3169 img-responsive img-information\" src=\"http:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/39145577_979313665574437_5353163704915460096_o-300x300.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/39145577_979313665574437_5353163704915460096_o-300x300.jpg 300w, https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/39145577_979313665574437_5353163704915460096_o-150x150.jpg 150w, https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/39145577_979313665574437_5353163704915460096_o-768x768.jpg 768w, https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/39145577_979313665574437_5353163704915460096_o-1024x1024.jpg 1024w, https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/39145577_979313665574437_5353163704915460096_o-600x600.jpg 600w, https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/39145577_979313665574437_5353163704915460096_o.jpg 1307w\" sizes=\"(max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><p id=\"caption-attachment-3169\" class=\"wp-caption-text\">Uproar Cymru<\/p><\/div>\n<p>\u201cY cyngerdd hwn, gan ensemble newydd Uproar Cymru; fydd eu hail berfformiad cyhoeddus. Cafwyd derbyniad da i\u2019r perfformiad cyntaf a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ym mis Hydref.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n falch iawn o\u2019r \u0175yl gerdd ac yr hyn rydym ni wedi\u2019i gyflawni tros y blynyddoedd. Mae\u2019n mynd yn fwyfwy anodd ei chynnal, yn enwedig yn ystod y cyfnod economaidd ansefydlog presennol. Fodd bynnag, os yw\u2019n werth ei berfformio, ymddengys bod unigolion medrus yn canfod ffordd i wneud i bethau ddigwydd ac rwy\u2019n falch iawn o wydnwch y celfyddydau.<\/p>\n<p>\u201cRydym ni\u2019n hefyd yn ddiolchgar dros ben i\u2019n holl noddwyr a chefnogwyr am edrych ymhellach na\u2019r dyfodol agos a gweld manteision hirdymor cerddoriaeth a\u2019r celfyddydau perfformio i\u2019n cymunedau.<\/p>\n<p>\u201cRydym ni\u2019n mwynhau cwmni rhai o\u2019n cefnogwyr ffyddlon iawn yn ystod yr \u0175yl ond mae yna rywbeth i bawb yn yr \u0175yl eleni a byddwn i\u2019n annog unrhyw un sy\u2019n hoffi clywed cerddoriaeth newydd, cyffrous, arbrofol a chyfoes i gael tocyn ac ymuno gyda ni ar gyfer yr hyn sy\u2019n argoeli i fod yn \u0175yl gofiadwy.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bydd 21 premiere byd rhyfeddol yn cael eu cynnwys fel rhan o \u0175yl gerdd ragorol yng Ngogledd Cymru. Bydd y gweithiau newydd ymhlith uchafbwyntiau G\u0175yl Gerdd Bangor sy\u2019n dechrau yng nghanolfan Pontio yn ninas Bangor ar ddydd Gwener, Chwefror yr 8fed. Yn \u00f4l cyfarwyddwr artistig yr \u0175yl, Dr Guto Pryderi Puw, uwch-ddarlithydd mewn cerddoriaeth a [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[110,18],"tags":[],"class_list":["post-3472","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-2019-2","category-datganiadau-ir-wasg"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3472","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3472"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3472\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3473,"href":"https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3472\/revisions\/3473"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3472"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3472"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3472"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}