{"id":272,"date":"2015-09-10T13:13:34","date_gmt":"2015-09-10T13:13:34","guid":{"rendered":"http:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/cy\/?page_id=272"},"modified":"2018-03-16T15:37:36","modified_gmt":"2018-03-16T15:37:36","slug":"rhaglen-2012","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/cy\/rhaglen-2012\/","title":{"rendered":"2012"},"content":{"rendered":"<p>Dathlodd yr \u0174yl yn 2012 ddau ben blwydd, sef geni&#8217;r cyfansoddwr Americanaidd John Cage, a suddo llong y Titanic.<\/p>\n<h3>Dydd Sadwrn 10 Mawrth 2012<\/h3>\n<p><strong><img fetchpriority=\"high\" decoding=\"async\" class=\"alignleft wp-image-1557\" src=\"http:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/wp-content\/uploads\/2015\/09\/8692157889_8197cda582_z.jpg\" alt=\"8692157889_8197cda582_z\" width=\"210\" height=\"316\" srcset=\"https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/wp-content\/uploads\/2015\/09\/8692157889_8197cda582_z.jpg 426w, https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/wp-content\/uploads\/2015\/09\/8692157889_8197cda582_z-199x300.jpg 199w\" sizes=\"(max-width: 210px) 100vw, 210px\" \/><\/strong><strong>Gosodiad Sain: Pwy all glywed y M\u00f4r?<br \/>\n<\/strong>Cynhaliwyd gosodiad sain electoacwstig yn Eglwys Sant Cybi, Caergybi rhwng 11:00yb a 5:00yh. Roedd y gerddoriaeth wedi ei ysbrydoli gan y m\u00f4r a&#8217;i ddyfeisio gan Ed Wright, gyda pherfformiadau ychwanegol o gyfansoddiadau gan ddisgyblion Ysgol Llaingoch ac Ysgol y Parchedig Thomas Ellis.<\/p>\n<p><em><span style=\"text-decoration: underline;\">Nodyn gan y cyfansoddwr:<\/span><br \/>\n<\/em>&#8220;In developing this piece I tried to record the sound of the sea, free from outside influences such as: wind, road noise and sea gulls, but gradually became aware of a number of issues that arise.<\/p>\n<p>Beside the practical issues of trying to find a silent beach on a windless day, with big waves, water by itself makes little or no noise; it is the matter and energy around it, in it, acting on it and contained in it that makes it sonorous. In addition to this there is the dynamic but structured nature of the sea, it is constantly changing, in an incredibly complex, yet ordered way.<\/p>\n<p>Who Can Hear The Sea? uses recordings of sea waves as its basis and then uses computer processing and techniques such as subtractive synthesis to shape confine and restrict these sounds to create a number of sonic objects or \u2018musical\u2019 statements.&#8221;<\/p>\n<h3>Dydd Llun 12 Mawrth 2012<\/h3>\n<p><strong>WNO Max: Gair ar Gnawnd<br \/>\n<\/strong>Y perfformiad cyntaf yn y byd o oratorio yn y Gymraeg gan y cyfansoddwr Pwyll ap Si\u00f4n a\u2019r bardd Menna Elfyn. Perfformiwyd y gwaith yn Galeri Caernarfon gan g\u00f4r cymunedol a ffurfiwyd yn arbennig, gydag unawdwyr o Gorws penigamp Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru.<\/p>\n<h3>Dydd Mawrth 13 Mawrth 2012<\/h3>\n<p><strong>ElectroacwsticCYMRU: Portread o Denis Smalley<br \/>\n<\/strong>Roedd y cyngerdd hwn gan ElectroacwsticCYMRU (dan gyfarwyddiad Andrew Lewis) a gynhaliwyd yn Neuadd Powis yn cynnwys cerddoriaeth elecroacwstig gan un o gyfansoddwyr mwyaf dylanwadol y wlad, Denis Smalley, ynghyd \u00e2 pherfformiadau o gyfansoddiadau gan ddisgyblion o Ysgol Llaingoch ac Ysgol y Parchedig Thomas Ellis.<\/p>\n<h3>Dydd Mercher 14 Mawrth 2012<\/h3>\n<p><strong>Yuri Goloubev Trio: Titanic for a Bike<\/strong><\/p>\n<p>Claudio Filippini (piano)<br \/>\nYuri Goloubev (bas dwbl)<br \/>\nAsaf Sirkis (drymiau)<\/p>\n<p>Clywsom \u2018dechneg chwarae ddi-fai a theimlad jazz perffaith\u2019 Triawd talentog Yuri Goloubev mewn cyngerdd a oedd yn rhan o daith o gwmpas y DU, yn lansio eu cryno-ddisg &#8216;Titanic for a Bike&#8217;. Roedd y cyngerdd hefyd yn cynnwys perfformiadau o gyfansoddiadau gan ddisgyblion o Ysgol Dyffryn Ogwen a pherfformiad gan Fand Mawr Ysgol Tryfan.<\/p>\n<p><strong><img decoding=\"async\" class=\"wp-image-418 alignleft\" src=\"http:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/wp-content\/uploads\/bnmf\/bnmf2012wed2-300x200.jpg\" alt=\"bnmf2012wed2\" width=\"368\" height=\"245\" srcset=\"https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/wp-content\/uploads\/bnmf\/bnmf2012wed2-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/wp-content\/uploads\/bnmf\/bnmf2012wed2-310x206.jpg 310w, https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/wp-content\/uploads\/bnmf\/bnmf2012wed2.jpg 640w\" sizes=\"(max-width: 368px) 100vw, 368px\" \/><\/strong><\/p>\n<p><iframe src=\"https:\/\/w.soundcloud.com\/player\/?url=https%3A\/\/api.soundcloud.com\/tracks\/90066211&amp;auto_play=false&amp;hide_related=false&amp;show_comments=true&amp;show_user=true&amp;show_reposts=false&amp;visual=true\" width=\"500\" height=\"250\" frameborder=\"no\" scrolling=\"no\"><\/iframe><\/p>\n<h3>Dydd Iau 15 Mawrth 2012<\/h3>\n<p><strong><em>John Cage \u2013 Digwyddiad Fluxus: <\/em>Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor gyda Xenia Pestova (piano)<\/strong><\/p>\n<p>John Cage: <em>Dream<\/em>; <em>Living Room Music<\/em>;<em> Suite for Toy Piano<\/em><br \/>\nGeorge Brecht: <em>Cerddoriaeth Crib<\/em>; <em>Cerddoriaeth Diferu<\/em>; <em>Cerddoriaeth Achlysurol \u2013 5 Darn Piano<\/em>; <em>Octet ar gyfer Chwyth<\/em>; <em>Ces Dillad<\/em>; <em>Tri Digwyddiad Lamp<\/em><br \/>\nLuce Fiernes: <em>Digwyddiad Bal\u0175n<\/em><br \/>\nGuto Pryderi Puw: <em>Cylch Gwag<\/em> (dyfyniad); <em>Naid Sgio<\/em> (premiere); <em>Digwyddiad Sugno Llwch<\/em> (premiere)<br \/>\nNia Davies Williams: <em>Sound Weave duet<\/em> (premiere)<br \/>\nLa Monte Young: Composition #7 (1960); <em>Piano Piece for Terry Riley #1<\/em> (1960);<em>Poem for Chairs, Tables, Benches, etc.<\/em><\/p>\n<p>I ddathlu canmlwyddiant genedigaeth John Cage, roedd y digwyddiad amgen hwn yn cyfuno detholiad o\u2019i ddarnau cynharach \u00e2 chyfansoddiadau arbrofol a ysbrydolwyd gan fudiad Fluxus.<\/p>\n<p>Roedd John Cage (1912-92) yn un o arweinyddion mudiad yr avant-garde yn America a ddaeth i amlygrwydd tua chanol yr 20fed ganrif. Ac yntau\u2019n hanu\u2019n wreiddiol o Los Angeles, arferid cysylltu Cage ag amryw o gyfansoddwyr, yn cynnwys Henry Cowell, Morton Feldman, Messiaen, Boulez ac, yn fwyaf nodedig, Schoenberg. Efallai mai 4&#8217;33\u2033 yw ei gyfansoddiad mwyaf drwg-enwog o hyd \u2013 darn distaw mewn tri symudiad, i&#8217;w &#8216;chwarae&#8217; ar unrhyw offeryn. Mewn gwirionedd, mae Cage yn cyfarwyddo\u2019r perfformiwr i beidio \u00e2 chwarae\u2019r offeryn tra pery\u2019r darn, fel y bydd y gynulleidfa, yn hytrach, yn gwrando a seiniau\u2019r amgylchedd y perfformir y darn ynddo.<\/p>\n<h3>Dydd Gwener 16 Mawrth 2012<\/h3>\n<p><strong>Ensemble Cymru gyda Sioned Eleri Roberts (clarin\u00e9t): Suddo&#8217;r Titaninc<\/strong><\/p>\n<p>Gavin Bryars: <em>The Sinking of the Titanic<\/em><br \/>\nGareth Peredur Churchill: <em>Ad Profunda<\/em> (premiere)<br \/>\nGareth Glyn: <em>Morluniau M\u00f4n<\/em><br \/>\nEmmanouil Kimon Grigoriadis: <em>Ice<\/em> (premiere)<br \/>\nJames MacMillan: <em>Tuireadh<\/em><\/p>\n<p>Cyngerdd i nodi canmlwyddiant y fordaith gyntaf drychinebus hon, gyda pherfformiad o\u2019r darn eiconig gan Gavin Bryars, ochr yn ochr \u00e2 galarnad gan James MacMillan i drychineb y Piper Alpha a darnau comisiwn newydd gan Gareth Churchill a Kimon Emmanouil Grigoriadis. Cafwyd hefyd ddarn newydd gan ddisgyblion o Ysgol y Traeth, Abermaw.<\/p>\n<p>Ganwyd Gavin Bryars ym 1943 yn Swydd Efrog. Fel pianydd jazz y daeth yn adnabyddus yn wreiddiol, ac enillodd fri fel cyfansoddwr ar \u00f4l gweithio am gyfnod yn America gyda John Cage. Cychwynnodd The Sinking of the Titanic fel braslun ar gyfer arddangosfa gelf yn Portsmouth, ond ehangwyd arno wedyn, a chreu fersiwn ar gyfer perfformiad byw. Mae&#8217;r offeryniaeth yn amhenodol, a gall dehongliadau posibl gynnwys ensemble llinynnol, offerynnau taro, pres isel, clarin\u00e9t bas, tapiau o leferydd, allweddell a bocs canu. Yn \u00f4l Bryars: &#8220;mae&#8217;r holl ddeunyddiau a ddefnyddiais yn y darn yn deillio o ymchwil a damcaniaethau yngl\u0177n \u00e2&#8217;r modd y suddodd y llong foethus &#8216;ansuddadwy&#8217;.&#8221;<\/p>\n<p><iframe src=\"https:\/\/w.soundcloud.com\/player\/?visual=true&amp;url=http%3A%2F%2Fapi.soundcloud.com%2Ftracks%2F91576155&amp;show_artwork=true&amp;maxwidth=500&amp;maxheight=750\" width=\"500\" height=\"220\" frameborder=\"no\" scrolling=\"no\"><\/iframe><\/p>\n<h3>Dydd Sadwrn 17 Mawrth 2012<\/h3>\n<p><strong>Dosbarthiadau Meistr gyda Ensemble Cymru<\/strong><\/p>\n<p>Cyfle i glarinetwyr a feiolinwyr lleol gael hyfforddiant unigol gan aelodau o brif ensemble siambr Cymru.<\/p>\n<p>Cyflwynwyd y dosbarthiadau meistr hyn mewn cydweithrediad gyda Ysgol Gerdd Prifysgol Bangor, Canolfan Gerdd William Mathias a Gwasanaeth Ysgolion William Mathias.<\/p>\n<h2>Rhaglen<\/h2>\n<p><iframe style=\"width:400px; height:281px;\" src=\"\/\/e.issuu.com\/embed.html#25838673\/59307271\" frameborder=\"0\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dathlodd yr \u0174yl yn 2012 ddau ben blwydd, sef geni&#8217;r cyfansoddwr Americanaidd John Cage, a suddo llong y Titanic. Dydd Sadwrn 10 Mawrth 2012 Gosodiad Sain: Pwy all glywed y M\u00f4r? Cynhaliwyd gosodiad sain electoacwstig yn Eglwys Sant Cybi, Caergybi rhwng 11:00yb a 5:00yh. Roedd y gerddoriaeth wedi ei ysbrydoli gan y m\u00f4r a&#8217;i ddyfeisio [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":7,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-272","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/272","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=272"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/272\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3014,"href":"https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/272\/revisions\/3014"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.bangormusicfestival.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=272"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}