Y Gwrthdrawydd Mawr Hadron yn creu cerddoriaeth mewn gŵyl

24/11/2017

Bydd darn newydd o gerddoriaeth a grëwyd gan ddefnyddio data’r gwrthdrawydd gronynnau mwyaf yn ei faint a’i bŵer yn cael ei berfformio mewn gŵyl yng Ngogledd Cymru.

Bydd y perfformwyr yng Ngŵyl Gerdd Bangor yn defnyddio gliniaduron i addasu seiniau’r gronynnau yn gwrthdaro a wnaed gan y Gwrthdrawydd Mawr Hadron (Large Hadron Collider) yn Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear, a elwir yn CERN yn Geneva.

Y meddwl cerddorol tu ôl i’r darn a elwir yn Dark Matter yw’r cyfansoddwr o Ganada, Scott Wilson sydd yn ddarlithydd cyfansoddi a cherddoriaeth electronig ym Mhrifysgol Birmingham.

Bydd y cyngerdd gan ei ensemble o bedwar person yng nghanolfan Pontio ar ddydd Sadwrn, Chwefror y 3ydd, yn un o uchafbwyntiau’r ŵyl, sydd yn dechrau y diwrnod blaenorol.

Thema’r ŵyl eleni yw’r Gofod ac yn ôl y sôn bydd yna gyfle i syllu ar y sêr gan ddefnyddio telesgopau pwerus o’r Gwersyll Rhufeinig.

Yn ôl y cyfarwyddwr artistig, Guto Pryderi Puw, Uwch-ddarlithydd cerdd a Phennaeth Cyfansoddi ym Mhrifysgol Bangor, bydd y digwyddiad deuddydd yn gyfle unigryw i archwilio’r gofod, planedau, sêr a’r galaethau drwy gyfrwng gwyddoniaeth a cherddoriaeth.

Dywedodd: “Rydym ni’n edrych i ysbrydoli teuluoedd cyfan gyda cherddoriaeth, ond y flwyddyn yma bydd elfen wyddonol gref i’r digwyddiadau hefyd. Rwyf yn edrych ymlaen yn benodol i’r digwyddiad seiniau electronig byw o dan arweiniad Scott Wilson ac a berfformir gan Ensemble Birmingham ar gyfer Ymchwil Electroacwstig o fewn y cyngerdd yn Theatr Bryn Terfel.

“Gyda cherddoriaeth ychwanegol gan Jo Thomas mae’n argoeli i fod yn gyngerdd anhygoel ac yn enghraifft berffaith o gyfuno elfennau gwyddonol a thechnoleg cerddoriaeth sy’n arwain at brofiad creadigol a ddychmygus i bawb. Bydd heb os yn un o uchafbwyntiau’r ŵyl.”

Dywedodd Scott Wilson, 48, wedi ei eni yn Vancouver, ac wedi astudio ym Mhrifysgol Simon Fraser yng Nghanada a Phrifysgol Westley yn Connecticut yn yr UDA cyn iddo gwblhau ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Toronto, y bydd ei ensemble yn gwneud cerddoriaeth electronig o ddata gwrthdrawiadau’r Gwrthdrawydd Mawr Hadron.

Dywedodd: “Mae’r LHC yn cynnwys cylchdro 27-kilomedr o fagnetau uwch-ddargludol gyda nifer o strwythurau cyflymu i wthio egni’r gronynnau ar ei hyd. Tu fewn i’r cyflymydd, mae dau belydr egni-uchel yn teithio yn agos at gyflymder golau cyn iddyn nhw gael eu gwrthdaro.

“Er enghraifft, efallai y gallwn gymryd mas gronyn a’i mapio ar gyfer traw sain, a’i gyflymder i gryfder y gerddoriaeth. Mewn modd tebyg rydym hefyd yn darlunio’r data ar daflunydd.”

“Mae rhai o’r darluniau yma yn agos i’r gwrthdrawiadau gan ddangos beth fydden nhw’n ‘edrych’, tra mae eraill yn fwy haniaethol.

“Wrth wneud hyn rydym ni’n byrfyfyrio, gan ddefnyddio dull sy’n cael ei alw’n codio byw. Mae hyn yn ymwneud ag ysgrifennu rhaglenni cyfrifiadurol sy’n medru cael eu hail-ysgrifennu wrth redeg.

Ychwanegodd: “Wrth gymryd gronynnau isatomig gwahanol gallwn fapio eu cyflymder a radiws er mwyn penderfynu traw’r sain a’i gyflymder er mwyn penderfynu pa mor gryf fydd y gerddoriaeth. Fel cerddorion rydym ni’n gwneud penderfyniadau ynglŷn â beth i’w fapio.

“Ac mae defnyddio’r data yn ein galluogi ni i gael elfen o ddarganfyddiad. Mae’n ffordd gyffrous i’r ensemble, pedwar cerddor yn defnyddio gliniaduron, i wneud cerddoriaeth electronig gyffrous.”

Bydd yr ŵyl yn dechrau efo cyngerdd yn archwilio thema’r Gofod gan y pianydd o Awstralia, Zubin Kanga, a fu’n brysur iawn mewn nifer o wyliau rhyngwladol, gan gynnwys y BBC Proms ynghyd ac ymddangos fel unawdydd gyda cherddorfeydd megis y London Sinfonietta a Cherddorfa Symffoni Melbourne.

Zubin Kanga - Piano

Zubin Kanga

Dywedodd Guto: “Mae’r ŵyl wedi comisiynu dau ddarn newydd piano i Zubin Kanga i’w berfformio, yn nodedig gan y gyfansoddwraig o Gaerdydd Maja Palser, a gynrychiolodd Cymru yn ddiweddar yn Niwrnod Cerddoriaeth y Byd 2017 yng Nghanada, ynghyd â Claire Victoria Roberts, sydd yn astudio gradd doethuriaeth mewn cyfansoddi ym Mhrifysgol Bangor ac sy’n gyfansoddwraig dalentog dros ben.

Bydd yr ŵyl hefyd yn cynnwys darnau eiconig wedi eu hysbrydoli gan y planedau a’r sêr gan y cyfansoddwr Americanaidd a’r meistr o gerddoriaeth avant-garde George Crumb a’r cyfansoddwr Prydeinig Patrick Nunn.

“Drwy gydol y dydd Sadwrn bydd yna nifer o ddigwyddiadau am ddim yn cymryd lle ynghyd â’r prif gyngherddau o fewn Pontio, lle bydd sesiynau gwyddonol yn archwilio’r Planedariwm yn rhedeg ochr yn ochr â sesiynau cerdd i blant ifanc dan arweiniad Marie-Claire Howorth.

“Bydd cynulleidfaoedd yn cael eu hudo gan berfformiadau o gyfansoddiadau gan fyfyrwyr wedi eu perfformio gan Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor a bydd cerddorion lleol yn cael eu hannog i fyrfyfyrio gydag Ensemble Fusion Prifysgol Bangor. Dewch i ymuno â’r hwyl!”

Drwy gydol Ionawr bydd cyfres o weithdai addysgol yn cael eu cynnal mewn ysgolion cynradd ac eilradd mewn arweiniad tuag at y brifwyl.


 

Adeiladu ar lwyddiant Gŵyl Gerdd – gyda Lego

03/02/2017

Bydd un o brif wyliau cerddoriaeth Cymru yn adeiladu ar ei llwyddiant eleni ac yn gwahodd pobl i ddod i chwarae gyda Lego i gyfeiliant ensemble bach.

Mae’r fenter yn rhan o ŵyl undydd Gŵyl Gerdd Bangor a gynhelir yng Nghanolfan Pontio Bangor ar y 18fed o Chwefror, a roddwyd at ei gilydd gan gyfarwyddwr artistig yr ŵyl, Guto Pryderi Puw.

Bydd ymdrech adeiladwyr Lego o bob oed yn cael ei ddehongli gan Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor wrth iddynt ddefnyddio miloedd o frics plastig lliwgar i greu adeiladau bychain amrywiol.

Newidia’r gerddoriaeth mewn ymateb i liw a siâp y bric a ddefnyddir.

Bydd y digwyddiad Lego am ddim ac yn rhan o’r ŵyl sydd eleni yn rhoi llwyfan i ddim llai na phum premiere byd, gan gynnwys gweithiau gan Gareth Olubumni Hughes, Sarah Lianne Lewis a Roger Marsh.

Dywedodd y cyfarwyddwr artistig Guto Pryderi Puw: “Thema’r ŵyl eleni yw Pensaernïaeth a Thirwedd Trefol a’r syniad y tu ôl i’r digwyddiad Lego yw galluogi pobl o bob oedran i ymweld â’r ŵyl a phrofi cerddoriaeth mewn cyd-destun gwbl newydd na fuasent wedi ei ddychmygu o’r blaen.

“Rwy’n siŵr fod llawer ohonom ni wedi rhoi cerddoriaeth ymlaen yn y cefndir wrth i ni adeiladu rhywbeth gyda Lego ond prin iawn, os o gwbl, y byddem ni’n cael y cyfle i gael ensemble byw yn cyfeilio’r hyn rydym ni’n ei wneud ac yn ymateb yn gerddorol i’r hyn a adeiladwn.”

Ychwanegodd: “Fe wahoddais un o’n myfyrwyr cyfansoddi yn y drydedd flwyddyn, James Jarvis, i gyfansoddi darn sydd wedi ei ysbrydoli gan Lego ac mae wedi creu darn cyffrous a gwreiddiol o gerddoriaeth sy’n gwahodd nifer fawr o bosibiliadau wrth ei berfformio. O’r hyn rwyf wedi ei weld hyd yma o’r sgôr ac o wrando ar yr ymarferion, mae’r darn yn ymateb yn gynnil i’r hyn mae’r adeiladwr Lego yn ei wneud, gyda rhai o’r syniadau cerddorol penodol yn cyfateb i siâp neu liw penodol y briciau, gyda’r bwriad o fwyhau’r emosiynau a grëir wrth adeiladu gydag Lego.”

“Ddiddorol hefyd fydd gweld i ba raddau y mae’r cyhoedd yn cael eu hysbrydoli gan y gerddoriaeth sy’n cael ei chwarae gan yr ensemble, efallai y byddwn yn gweld yr adeiladwyr Lego yn ymateb i’r hyn y mae’r gerddoriaeth yn ei wneud.”

“Mae hefyd yn gyfle gwych i fyfyrwyr cerdd y Brifysgol sy’n perfformio yn yr Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor. Yn wir mae’n gyfle i chwarae rhywbeth eithaf anarferol a fydd gobeithio yn lot o hwyl ac yn ysbrydoli’r cerddorion, y cyfranogwyr a’r gwrandawyr. Plîs dewch draw i’w brofi.”

Roedd y myfyriwr trydedd flwyddyn James Jarvis, sy’n hanu o Bromsgrove yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, wrth ei fodd o gael gwahoddiad i gyfansoddi ar gyfer digwyddiad Lego yr ŵyl.

Dywedodd: “Y cysyniad oedd ysgrifennu cerddoriaeth a fydd yn ymateb i’r hyn sy’n cael ei adeiladu gan yr adeiladwyr Lego, beth bynnag eu hoedran neu ryw.

“Wedi i mi gytuno i gymryd rhan tyfodd y syniad yn fy meddwl na ddylai’r gerddoriaeth dim ond ymateb i’r hyn sy’n cael ei adeiladu ond y dylai gludo’r adeiladwr Lego i atgofion o’u plentyndod.

“Roeddwn eisiau helpu’r adeiladwr Lego i fod yn fwy creadigol. Dwi’n meddwl fod meddyliau plant a phobl ifanc yn llawer haws i’w dylanwadu; mae nhw’n fwy parod i fod yn fwy dychmygus.

“Efallai bod pobl hŷn gyda rhwystr meddyliol mwy i’w oresgyn. Y syniad ydy eu bod nhw’n eistedd i lawr gyda’r Lego a bydd y gerddoriaeth yn eu rhyddhau nhw gan fynd a nhw’n ôl i’w plentyndod, neu o leiaf yn eu dylanwadu i fod yn fwy creadigol.

“Ceir gerddoriaeth wahanol gan ddibynnu ar liw a siâp y brics Lego sy’n cael eu defnyddio. Gan fwyaf y drwm sy’n adweithio yn gyntaf. Mae’r brics coch yn arwain at un rhythm, y brics glas, melyn a gwyn yn arwain at rhythmau gwahanol.

“Bydd yr offerynnau eraill, y fiola, ffliwt a chlarinét yn adweithio i’r hyn mae’r drwm a’r adeiladwr Lego yn ei wneud. Roeddwn eisiau dehongli seiniau’r safle adeiladu yn gerddorol.”

Dywedodd y drymiwr Thomas Whitcombe, o Rymni, Caerffili, sydd ym mlwyddyn gyntaf ei radd gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor: “Mae’n ddiddorol iawn ac nid wyf erioed wedi gwneud rhywbeth fel hyn o’r blaen.”

Ymysg uchafbwyntiau eraill yn yr ŵyl bydd cerddoriaeth sy’n cael ei ddylanwadu gan ddelweddau a fideos pontydd, gyda’r ffilmiau yn cael eu dangos yn sinema Pontio, wedi ei gyfeilio gan gerddoriaeth sydd wedi ei gyfansoddi gan fyfyrwyr cyfansoddi Prifysgol Bangor a’i berfformio gan bedwarawd sacsoffon Cerddorfa Sesiwn Bangor.

Tua amser te, caiff yr adeilad ei lenwi â cherddoriaeth gan Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor mewn digwyddiad a fydd hefyd yn gweld perfformiadau cyntaf o ddarnau gan Claire Victoria Roberts a Jonathan Roberts, ymysg myfyrwyr cyfansoddi eraill.

Bydd cyngerdd olaf yr ŵyl yn serennu’r Fidelio Trio byd enwog, a fydd yn perfformio detholiad o gyfansoddiadau sydd wedi eu hysbrydoli gan adeiladau a phensaernïaeth. Bydd y cyngerdd hefyd yn cynnwys perfformiadau cyntaf o gyfansoddiadau newydd gan Sarah Lianne Lewis a Roger Marsh, y ddau wedi eu comisiynu gan yr ŵyl.

Yn ôl Guto Pryderi Puw, bydd y cyngerdd nos, ‘The Towers of Silence’, yn cynnwys cyfansoddiadau sydd wedi eu seilio ar adeiladau eiconig.

Ychwanegodd: “Bydd gwaith gan y cyfansoddwr Gavin Higgins, dan y teitl ‘Ruins of Detroit’, yn archwilio pensaernïaeth sydd wedi syrthio i mewn i gyflwr adfail yn y ddinas Americanaidd tra bod y prif ddarn, ‘Towers of Silence’ gan Rolf Hind, yn edrych ar angladdle yn y Dwyrain Pell.

“Bydd amryw o brosiectau hefyd yn cael eu cynnal mewn ysgolion, ac rydym ni’n awyddus iawn i barhau i ysbrydoli plant ysgol.

“Yn ystod Ionawr a Chwefror, mewn arweiniad tuag at yr ŵyl, bydd amryw o gyfansoddwyr ag artistiaid yn cynnal cyfres o weithdai addysgol mewn ysgolion cynradd ac eilradd.

“Rwy’n gyffrous iawn am yr ŵyl sydd ar y gweill ac wrth fy modd y byddwn yn defnyddio Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio fel prif leoliad yr ŵyl am y tro cyntaf.

“Yr adeilad anghredadwy a hardd yma sbardunodd y syniad i gael ‘pensaernïaeth’ a ‘thirwedd trefol’ fel prif thema’r ŵyl yn y lle cyntaf.”


 

Triawd piano nodedig yn serennu mewn gŵyl gerdd

03/02/2017

Bydd triawd piano byd-enwog yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi ei ysbrydoli gan ystâd ddiwydiannol adfail yn yr Almaen pan fydden nhw’n ymweld â Gogledd Cymru i berfformio yn Ngŵyl Gerdd Bangor, yng Nghanolfan Pontio yn ninas Bangor.

Bydd y Fidelio Trio yn serennu yng nghyngerdd olaf Gŵyl Gerdd Bangor am 7:30yh, dydd Sadwrn, Chwefror 18 yn Theatr Bryn Terfel, Pontio.

Bydd y perfformwyr dawnus, a fu ar restr fer Gwobrau’r Royal Philharmonic Society Music Awards, yn cynnwys y feiolinydd Darragh Morgan, y pianydd Mary Dullea a’r sielydd Adi Tal.

Thema’r ŵyl eleni yw Pensaernïaeth/Tirwedd Trefol sydd wedi ei ysbrydoli gan yr adeilad eiconig lle gynhelir yr Ŵyl, sy’n prysur sefydlu ei hun fel canolfan o bwys mawr i fywyd diwylliannol Cymru.

Yr hyn sy’n gwneud yr ŵyl yn wahanol eleni yw y cynhelir yr holl gyngherddau a’r gweithdai ar un diwrnod yn hytrach na’u cynnal dros gyfnod o wythnos fel a gafwyd yn y gwyliau blaenorol.

Bydd y digwyddiad hefyd yn rhoi llwyfan i lu o berfformiadau cyntaf, gan gynnwys gwaith newydd gan un o gyfansoddwyr ifanc pennaf Ewrop, Gareth Olubumni Hughes, a aned yng Nghaerdydd.

Ymhlith uchafbwyntiau eraill bydd cerddoriaeth a ysbrydolwyd gan luniau a fideos o bontydd, gyda’r ffilmiau’n cael eu dangos yn sinema Pontio, i gyfeilio cerddoriaeth a gyfansoddwyd gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor ac a berfformir gan Gerddorfa Sesiwn Bangor.

Tuag amser te, llenwir yr adeilad â cherddoriaeth gan Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor mewn digwyddiad cynnwys premiere o ddarnau gan Claire Victoria Roberts a Jonathan Roberts, ymhlith myfyrwyr cyfansoddi eraill.

Bydd y cyngerdd gyda’r Fidelio Trio yn cynnwys premiere byd o weithiau newydd gan Sarah Lianne Lewis a Roger Marsh, gyda’r ddau wedi cael eu comisiynu gan yr ŵyl.

Yn ôl Darragh, sy’n hanu o Belfast ac sydd hefyd yn athro ffidil yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama yng Nghaerdydd, mae rhaglen Gŵyl Gerdd Bangor a roddwyd ynghyd gan y cyfarwyddwr artistig Guto Pryderi Puw, yn “glyfar iawn” gyda phrif thema o adeiladau a phensaernïaeth.

Dywed Darragh, sy’n briod â Mary Dullea: “Fel triawd piano rydym ni’n mwynhau perfformio gweithiau newydd gymaint ag ydym ni’n mwynhau perfformio cerddoriaeth hŷn.

“Mae’r rhaglen ar gyfer Bangor yn gyffrous ac yn ysbrydoledig ac wedi rhoi’r cyfle i ni berfformio gweithiau gan rhai o’n hoff gyfansoddwyr.

“Er enghraifft, rydw i’n mynd i fod yn chwarae gwaith gan y cyfansoddwr ifanc o Hastings, Morgan Hayes dan y teitl Völklinger Hütte. Fe gyfansoddodd Hayes y darn wedi iddo ymweld â hen ystâd ddiwydiannol yn Sarrbrücken, yr Almaen.

“Cafodd fraw gan yr hyn a welodd a chael ei ysbrydoli i gyfansoddi darn trawiadol ac atgofol sy’n disgrifio’r ffordd y mae ef yn dehongli’r adeiladau a thirlun llwm yr ystâd.

“Rydym ni wedi chwarae a recordio nifer o gyfansoddiadau Morgan Hayes ac mae o wedi ysgrifennu darn unawd i’r ffidil i mi.”

Ychwanegodd: “Rydym ni hefyd yn mynd i berfformio gweithiau gan Gavin Higgins dan y teitl The Ruins of Detroit a gafodd ei berfformio am y tro cyntaf yng Ngŵyl Cheltenham yn 2014. Mae’n waith hyderus ysgrifennwyd wedi i Gavin gael ei ysbrydoli gan ffotograffiaeth o Detroit gan Yves Marchand a Romain Meffre. 

“Hefyd bydd Mary yn perfformio darn piano, The Towers of Silence, gan Rolf Hind, ac rydym ni hefyd wedi ein rhaglennu i berfformio ychydig o gerddoriaeth gan y cyfansoddwr Groegaidd Iannis Xenakis.”

Mae Darragh yn ymarfer chwarae’r ffidil rhwng pedair a chwe awr y diwrnod ac yn aml gall sesiynau ymarfer fod yn hirach hefyd.

Dywedodd: “Rwy’n chwarae ffidil ragorol, Rocca Eidalaidd. Mae’n offeryn anhygoel a wnaethpwyd yn 1848 ac sy’n meddu ar sain cynnes a hardd iawn. Rwy’n berchen ar oddeutu chwarter o’r offeryn gyda’r Royal Academy of Musicians yn berchen ar y gweddill.

“Mae’n offeryn gwerthfawr iawn ac yn mynd gyda fi i bob man a dw’i byth yn ei adael allan o fy ngolwg.”

Dyweda Cyfarwyddwr Artistig yr ŵyl, Guto Pryderi Puw: “Mae’r Fidelio Trio yn ddehonglwyr penigamp o’r genre triawd piano ac mae ganddyn nhw repertoire trawiadol iawn o gerddoriaeth gyfoes.

“Maen nhw wedi perfformio ar rai o lwyfannau cyngerdd rhyngwladol enwocaf ac yn aml yn darlledu ar BBC Radio 3 a sianeli clasurol eraill ledled y byd.

“Mae ganddynt restr hir o gomisiynau newydd a pherfformiadau cyntaf gan rai o gyfansoddwyr pennaf a’r genhedlaeth ieuengaf o gyfansoddwyr. Mae ganddynt hefyd restr ddisgyddiaeth drawiadol iawn yn cynnwys recordiadau nodedig.”

Ychwanegodd: “Mae’n wych eu bod nhw wedi cytuno i chwarae yn ystod ein cyngerdd olaf ac rwy’n edrych ymlaen at fwynhau eu perfformiadau”.

“Rwy’n disgwyl, gyda cherddorion o’r ansawdd hyn, y bydd y cyngerdd yn mynd i werthu allan yn gyflym iawn a byddwn yn cynghori y sawl sy’n hoff o gerddoriaeth i archebu tocynnau yn gynnar.”


 

Gŵyl Gerdd Benigamp yn brolio nifer o gyfansoddiadau newydd

29/11/2016
The Fidelio Trio. Photo: Hugo Glendinning

The Fidelio Trio. Llun: Hugo Glendinning

Bydd gwaith newydd gan un o gyfansoddwyr mwyaf talentog Ewrop ymhlith y nifer o gyfansoddiadau newydd i gael eu perfformio am y tro cyntaf mewn gŵyl gerdd flaenllaw.

Dywed y cyfansoddwr sy’n enedigol o Gaerdydd, Gareth Olubunmi Hughes ei fod wrth ei fodd o fod wedi derbyn comisiwn i ysgrifennu darn ar gyfer Gŵyl Gerdd Bangor ar ddydd Sadwrn, Chwefror 18.

Yn gynharach y flwyddyn hon enillodd Gareth wobr fawreddog Tlws y Cerddor am yr ail dro yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yn un o gyfansoddwyr mwyaf disglair Cymru, yn barod mae gofyn mawr am ei gerddoriaeth a berfformiwyd gan artistiaid nodedig yn cynnwys Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, y cyn-delynores frenhinol Catrin Finch a’r ffliwtydd nodedig Fiona Slominska.

Thema’r ŵyl hon ydy Pensaernïaeth/Tirwedd Trefol sydd wedi ei ysbrydoli gan leoliad newydd yr Ŵyl, sef yr adeilad mawreddog newydd yng nghalon Bangor sef canolfan Pontio, sy’n brysur sefydlu ei hun fel sefydliad sy’n chwarae rôl bwysig ym mywyd celfyddydol Cymru.

Yn wahanol i’r blynyddoedd diwethaf, bydd holl gyngherddau a gweithdai’r Ŵyl yn cael eu cynnal ar un diwrnod yn hytrach na’u lledaenu dros gyfnod o wythnos. Mae tocynnau ar gyfer yr Ŵyl nawr ar werth.

Dywedodd Gareth, 37: “Mae fy nghyfansoddiad newydd, Amber on Black 3, yn rhan o gylch o ddarnau rwyf wedi ei ysgrifennu sydd wedi eu selio ar farddoniaeth gan Stephen Boon, yr oeddwn yn ei adnabod o Brifysgol Caerdydd. Mae’r darn cyntaf yn archwilio’r lliw ambr o wreichion o olwyn trên cyflym yn erbyn düwch y nos.

“Mae’r ail yn disgrifio’r golau ambr a deflir gan oleuadau stryd yn erbyn tywyllwch awyr y nos ac mae’r trydydd darn newydd hwn yn disgrifio’r golau ambr a welwyd drwy ffenestr awyren yn edrych yn ôl ar y ddaear wrth hedfan gyda’r nos.

“Mae Amber on Black 3 yn ddarn ar gyfer ffliwt unawdol a soprano. Ym Mangor y ffliwtydd fydd Richard Craig a’r soprano Juliet Fraser. Rwyf wedi gweithio gyda’r ddau o’r blaen ac mae gan Juliet lais anhygoel. Rwyf wedi gweithio gyda hi yn ystod gweithdai ym Mhrifysgol Caerdydd.”

Ymysg uchafbwyntiau eraill ceir gerddoriaeth sydd wedi ei ysbrydoli gan luniau a fideos pontydd, gyda’r ffilmiau hyn yn cael eu dangos yn sinema Pontio, wedi eu cyfeilio gan gerddoriaeth a grewyd gan fyfyrwyr cyfansoddi Prifysgol Bangor a’i berfformio gan Gerddorfa Sesiwn Bangor.

Tuag amser te, bydd yr adeilad yn cael ei lenwi â cherddoriaeth gan Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor mewn digwyddiad a fydd hefyd yn cynnwys premieres byd gan Claire Victoria Roberts a Jonathan Roberts, ymysg myfyrwyr cyfansoddi eraill.

Bydd y cyngerdd olaf yn serennu’r Fidelio Trio, a fydd yn perfformio detholiad o gyfansoddiadau a ysbrydolwyd gan adeiladau a phensaernïaeth. Bydd hefyd yn cynnwys premieres byd o weithiau newydd gan Sarah Lianne Lewis a Roger Marsh, y ddau wedi eu comisiynu gan yr ŵyl.

Dywedodd cyfarwyddwr artistig yr ŵyl, Guto Pryderi Puw: “Mae cynnal yr ŵyl mewn diwrnod ac ar benwythnos yn golygu fod mwy o botensial ar gyfer cynulleidfaoedd i edrych ar beth sydd ymlaen a chynllunio o flaen llaw. Hefyd, yn nhermau y cynnwys artistig, bydd cyngherddau yn fyrrach ac yn llawer fwy apelgar .

“Er enghraifft mae cyngerdd ElectroacwstigCYMRU, a gynhelir yn Stiwdio Pontio a fydd hefyd yn cynnwys gwaith newydd a gomisiynwyd gan Olubunmi Hughes, dim ond tua awr o hyd.

“Golyga hyn y gallwn ni wir ysbrydoli ein cynulleidfaoedd, mae’n fwy o ddiwrnod i flasu gwahanol gerddoriaeth gan adael ein gwrandawyr eisiau clywed mwy.

“Rydym ni’n rhoi’r cyfle i fynychwyr yr ŵyl i brofi’r digwyddiad mewn dwy ffordd wahanol, unai i fynychu pob cyngerdd a phrofi’r genres i gyd, neu i ddewis a dethol yr hyn byddent yn ei fwynhau heb orfod dod yn ôl ar ddiwrnod gwahanol.

Yn ôl Guto Pryderi Puw, bydd y cyngerdd nos, ‘The Towers of Silence’, yn cynnwys cyfansoddiadau sydd wedi eu selio ar adeiladau eiconig, gyda lluniau o ddetholiad o’r adeiladau hyn hefyd yn cael eu dangos i gyd-fynd â’r gerddoriaeth.

Ychwanegodd: “Bydd y gwaith gan y cyfansoddwr Gavin Higgins, dan y teitl ‘Ruins of Detroit’, yn archwilio pensaernïaeth sydd wedi syrthio i mewn i gyflwr adfail yn y ddinas Americanaidd tra bydd y prif ddarn, ‘Towers of Silence’ gan Rolf Hind, yn edrych ar fath penodol o angladdle yn y Dwyrain Pell.

“Bydd hefyd nifer o brosiectau yn cynnwys ysgolion lleol gan ein bod ni eisiau parhau gyda’n gwaith o ysbrydoli plant ysgol.

“Drwy gydol Ionawr a Chwefror, yn arwain at yr ŵyl, bydd amryw o gyfansoddwyr ag artistiaid yn cynnal cyfres o weithdai addysgol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.

“Bydd cyfansoddiadau gan ddisgyblion ysgol yn cael eu perfformio ym mhob un o brif gyngherddau ŵyl, ac yn gynharach ym mar Ffynnon Pontio bydd yna ddigwyddiad Lego ardderchog y gall y cyhoedd gymryd rhan ynddi.

“Bydd modd i ymwelwyr godi adeiladau allan o Lego tra mae Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor yn byrfyfyrio ar eu hofferynnau er mwyn gosod cynrychioli’n gerddorol yr hyn a wnaed allan o Lego. Bydd hyn yn ddigwyddiad llawn hwyl wedi ei anelu at bob oed, nid dim ond plant, felly dewch draw er mwyn adeiladu adeilad eiconig eich hun!

“Rwy’n gyffrous iawn ar gyfer yr ŵyl sydd i ddod ac wrth fy modd y byddwn ni’n defnyddio Canolfan Celfyddydau Pontio fel prif leoliad i’r Ŵyl am y tro cyntaf.

“Yr adeilad anhygoel a hardd hwn sbardunodd y syniad o gael ‘pensaernïaeth’ a ‘thirwedd trefol’ fel thema’r ŵyl yn y lle cyntaf!”


 

Argyfwng Ffoaduriaid Syria yn ysbrydoli disgyblion Gwynedd i gyfansoddi gwaith cerddorol newydd

19/02/2016

Mae’r trasiedi yn Syria wedi ysbrydoli  plant ysgol o Wynedd i  sgwennu darn  newydd o gerddoriaeth  i’w  berfformio  mewn  Gŵyl  Gerdd o fri.

Cafodd disgyblion  Ysgol Gynradd Talysarn ac Ysgol Gynradd Brynaerau, Pontllyfni  gefnogaeth  gan y delynores dalentog  a’r gyfansoddwraig  Mared Emlyn.

Mae’r prosiect  yn rhan o raglen  eang  o weithgareddau addysgiadol  yng Ngŵyl  Gerdd Bangor. Yr her  oedd  cyfansoddi  darn o gerddoriaeth ar gyfer grŵp,  yn  canolbwyntio ar y rhyfel cartref yn Syria a’r argyfwng ffoaduriaid  yn Ewrop. Gallwch glywed y plant yn perfformio’r gwaith newydd ar Stryd  Fawr Bangor ar ddydd Gwener, Mawrth 4 , a bydd cyfle i’r disgyblion fwynhau cyngerdd  Cerddorfa  Genedlaethol Gymreig y BBC ym Mhrifysgol  Bangor y noson honno. 

Mae’r  Ŵyl yn cynnwys cyfres o berfformiadau a chyngherddau  gan sêr Britain’s Got Talent,  Côr Glanaethwy a’r grŵp lleisiol  byd enwog ‘ The Swingles’.

Bydd cerddoriaeth gan gyfansoddwyr benywaidd yn cael  lle canolog  yn yr Ŵyl a bydd cyngerdd  gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC  a’r Soprano Ruby Hughes yn cynnwys  y perfformiad cyntaf erioed  o dri gwaith newydd sbon gan gyfansoddwyr  benywaidd o Gymru.

Ymhlith yr uchafbwyntiau, mae cyngerdd  yng nghwmni’r  Soprano adnabyddus Elin Manahan Thomas, cerddoriaeth arbrofol  gan Ensemble Cerddoriaeth  Newydd Bangor, cerddoriaeth byrfyfyr gyda blas y dwyrain gan Ensemble Fusion y  pianydd nodedig o Rwsia Xenia Pestova  yn ymuno gydag  Electroacwstig Cymru  a gig gan y Band Sŵnami.

‘ Roedd Mared Emlyn, 27 o Eglwys Bach yn Nyffryn Conwy wrth ei  bodd yn cael y cyfle i arwain prosiect  sy’n defnyddio offerynnau yn ogystal â lleisiau plant. Astudiodd Mared gyfansoddi a pherfformio ym Mhrifysgol  Bangor, lle cafodd  radd Phd.

Meddai, ‘ryda ni wedi edrych ar waith y gyfansoddwraig Hilary Tann, ‘The Open Field’,  darn a gafodd ei ysbrydoli  gan y digwyddiadau dramatig yn Sgwar Tinanmen yn Tseina fel sail i ddatblygu  syniadau    i ddisgrifio digwyddiadau argyfyngus a thrasiedi rhyfel carter Syria.’

‘Dwi’n gobeithio ein bod ni’n defnyddio cerddoriaeth  i ddisgrifio taith argyfyngus y ffoaduriaid i le gwell. Mae’n eithriadol o bwysig fod plant yn cael cyfle i  greu cerddoriaeth  wedi ‘i ysbrydoli gan ddigwyddiadau cyfoes  a gobeithio y gallwn eu sbarduno i ymddiddori yn yr hyn sy’n digwydd yn y byd heddiw  fel  bod y prosiect am rywbeth amgenach na dim ond cerddoriaeth.’

Mae hwn yn un o nifer o brosiectau addysgiadol  yng Ngŵyl  Gerdd Bangor  a dwi’n credu ei bod hi’n hollbwysig fod plant  a phobol  ifanc yn cael eu hysbrydoli  i greu cerddoriaeth newydd , i ddysgu offerynnau  a dysgu sut i ddefnyddio eu lleisiau eu hunain.’

‘Thema’r Ŵyl eleni ydi’r llais ac mae’n  bleser cael y plant i weithio gyda’u lleisiau i greu swn a cherddoriaeth newydd. Profiad cyffrous iawn i mi, a dwi’n siŵr y bydd y plant yn cyfansoddi gwaith gwirioneddol  hyfryd fydd yn rhoi pleser  i lu o bobol.’

Yn ôl Glenda Evans,  Prifathrawes  Ysgol  Brynaerau ac Ysgol Talysarn, dyma’r pumed tro i’r ysgolion gael  cyfle i fod yn rhan o brosiectau addysgiadol Gŵyl Gerdd Bangor.

Meddai, ‘mae’n gyfle gwych i’r plant gydweithio gyda cherddorion proffesiynol  i berfformio yr hyn mae nhw’ di gyfansoddi a’i ddysgu. Dwi ‘di gweld mor bwysig ydi i’r  plant gael cyfle i berfformio eu gwaith  hwy hunain. Mae’n hwb enfawr i  hyder  a hunan barch y disgyblion a ‘da ni’n annog y plant a’u rhieni i fynd draw i Fangor i fwynhau cyngherddau’r Ŵyl.

‘Roedd disgyblion Ysgol Gynradd Talysarn, Osian Williams, 9 oed ac Elan Williams, 10, yn edrych ymlaen i gwblhau’r gwaith ac i’w berfformio ym Mangor. Dywedodd Osian, mae’n wych gallu dysgu am offerynnau newydd a dwi wrth fy modd yn canu. Mae’n brofiad anhygoel i gael gweithio gyda’n gilydd i sgwennu cerddoriaeth . Dwi wedi joio’n arw!’ 

Meddai Elan, ‘mae’n mynd i fod yn wych ac yn  brofiad fydd yn aros efo ni am amser hir. Dwi ‘n mwynhau’r profiad o weithio gyda’r cyfansoddwr i greu seiniau newydd , gwahanol.’

‘Roedd Grisial Morus a Dafydd Jones, 9 oed   o Ysgol Gynradd Brynaerau yr un mor frwd.

Meddai Grisial, ‘Dwi’n dysgu chwarae’r  Corn Tenor ers dwy flynedd felly dwi’n gobeithio y caf chwarae’r offeryn  wrth berfformio’r gwaith newydd  da ni  ‘di gyfansoddi. Mae’n wych cael bod yn rhan o’r prosiect yma a dwi’n edrych ymlaen i berfformio ym Mangor a chael gweld cerddorfa  broffesiynol mewn cyngerdd.’

Meddai Dafydd,’ mae hwn wedi bod yn brofiad hwyliog  i mi a dwi’n edrych ymlaen rwan i gael mynd i Fangor  i berfformio gyda’r plant i gyd. Mi fydd o’n wych! ‘


 

Cyfres o Berfformiadau Gwych yng Ngŵyl Gerdd Bangor

29/01/2016

Fe fydd un o brif wyliau cerddorol Cymru yn agor eleni ar Fawrth 1af gyda chyngerdd arbennig gan Gôr Glanaethwy, sêr y gyfres deledu ‘Britain’s Got Talent.’ Ac am y tro cyntaf erioed, bydd cantorion y  ‘Swingles’ yn serennu mewn cyngerdd unigryw.

The Swingles - Photo by Nedim Nazerali

The Swingles – Photo by Nedim Nazerali

Yn ganolog i’r Ŵyl, bydd gweithiau gan gyfansoddwyr benywaidd. Bydd cyngerdd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn cynnwys  datganiad gan y Soprano, Ruby Hughes a’r perfformiadau cyntaf erioed o sawl gwaith newydd gan ferched o Gymru. Ceir hefyd yn yr Ŵyl y perfformiad cyntaf erioed yn Ewrop o ‘The Open Field’, gwaith gan y gyfansoddwraig Hilary Tann, sydd hefyd yn  enedigol o Gymru. Cafodd y gwaith ei ysbrydoli gan ddigwyddiadau dramatig Sgwar Tiananmen yn Tseina, dros chwarter canrif yn ôl.

Cynhelir yr Ŵyl eleni dros chwe niwrnod, rhwng Mawth 1af a Mawrth 6ed ar y thema ‘Llais/Lleisiau’. Mae yma rywbeth at ddant pawb gan gynnwys cyngherddau, dosbarthiadau meistr a phrosiectau addysgiadol i ysbrydoli disgyblion ysgolion a cherddorion y Gogledd.

Yn y cyngerdd agoriadol, bydd Côr Glanaethwy yn perfformio darnau fwy heriol o’u repertoire, gan gynnwys ‘Cariad’, un o weithiau’r cyfansoddwr ifanc Ieuan Wyn.

Ceir gwledd o gerddoriaeth arbrofol ar yr ail noson, gydag Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor a byr fyfyr dwyreiniol gyda Ensemble Fusion, datganiad ar y nos Iau gan Elin Manahan Thomas a gig yng nghwmni’r band Sŵnami i ddilyn.

Bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn perfformio ar y nos Wener, a’r Swingles i’w gweld ar y nos Sadwrn. I gloi’r Ŵyl, ar ddydd Sul, Mawrth 6ed, mae cyngerdd gan y pianydd nodedig o Rwsia, Xenia Pestova ag Electroacwstig Cymru. 

Meddai Cyfarwyddwr Artistig yr Ŵyl, Dr Guto Pryderi Puw, Uwch Ddarlithydd a Phennaeth Cyfansoddi yr Ysgol Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, ‘Dwi’n falch eithriadol o weld yr Ŵyl yn mynd o nerth i nerth ac yn parhau i dyfu. Mae gyda ni fwy o ddyddiau o gerddoriaeth, gweithdai a dosbarthiadau meistr nag erioed o’r blaen.’

‘Mae’r prosiectau addysgol, sy’n arwain at gyfnod yr Ŵyl ac yn ystod yr wythnos ei hun, yn gwbl ysbrydoledig ac fe fydd plant a phobol ifanc ar draws y rhanbarth yn elwa ohonyn nhw.’

‘Yn ychwanegol at Gôr Glanaethwy a’r Swingles, mae gyda ni ein hartist preswyl, y soprano adnabyddus Elin Manahan Thomas. Fe fydd hi’n perfformio gwaith comisiwn gan enillydd Tlws y Cerddor yr Eisteddfod Genedlaethol, Meirion Wynn Jones, heb anghofio’r soprano Ruby Hughes a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.’

‘Dwi’n edrych ymlaen yn eiddgar i glywed y Swingles yn perfformio’ ychwanegodd Dr Puw, ‘mae nhw wedi bod yn symud i gyfeiriad newydd yn ddiweddar, yn cyfansoddi cerddoriaeth wreiddiol eu hunain ac yn gwneud effeithiau diddorol gyda’r llais yn gyfeiliant i’w harmonïau agos arferol.’

‘Eleni, ar ddydd Gwener, Mawrth 4 mae ganddo ni ddigwyddiad arbennig sy’n ein paratoi at ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, ac fe gawn glywed perfformiadau cyntaf tri gwaith newydd, sef ‘Porthor (Whistling Sands)’ gan Mared Emlyn, ‘Is There No Seeker of Dreams That Were’ gan Sarah Lianne Lewis a ‘Catching Shadows ‘ gan Lynne Plowman, a’r cyfan o fewn un cyngerdd.

‘Ac ryde ni’n ffodus iawn i gael perfformiad o ‘The Open Field’ gan Hilary Tann. Cafodd y darn ei ysbrydoli gan wrthryfel myfyrwr yn Sgwar Tiananmen yn Tseina, a dyma’r tro cyntaf erioed iddo gael ei berfformio yn un o wledydd Ewrop. Mae’n waith hyfryd a sensitif a berfformiwyd dros 20 o weithiau yn yr Unol Daleithiau ond dyw e rioed o’r blaen wedi cael ei glywed yn Ewrop.’

‘Mewn un o’n prosiectau addysgiadol, bydd plant yn defnyddio ‘The Open Field’ i’w hysbrydoli i gyfansoddi eu  darnau eu hunain i adlewyrchu themâu tebyg , er enghraifft, argyfwng y ffoaduriaid yn dianc rhag y gwrthdaro yn Syria a’r Dwyrain Canol.’

‘Daeth y syniad am dri gwaith newydd yn dilyn trafodaethau ges i gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. ‘Roeddwn yn awyddus i gynnwys  gwaith gan gyfansoddwyr benywaidd cyfoes ac fe wahoddwyd Mared Emlyn i gyfansoddi darn ar gyfer cerddorfa. Mae Mared yn gyn fyfyriwr PhD a fu’n astudio cyfansoddi a pherfformio ym Mhrifysgol Bangor. Mae bellach yn byw yn Eglwys Bach yn Nyffryn Conwy ac er ei bod wedi cyfansoddi nifer o ddarnau ar gyfer perfformwyr unigol ag ensemblau, ‘Porthor’ yw ei gwaith sylweddol cyntaf ar gyfer cerddorfa lawn, sy’n dangos ymrwymiad yr Ŵyl i gefnogi ein cyfansoddwyr ifanc a thalentog. Ysbrydolwyd y darn gan draeth Porthor ym Mhenrhyn Llŷn, lle ceir sain unigryw yn y tywod wrth gerdded drosto.’

Mared Emlyn

Mared Emlyn

Mae Mared yn delynores wych ac mae hi’n gweithio’n rhan amser yn dysgu telyn yn y Brifysgol ond mae’r gwaith yma, ar gyfer cerddorfa lawn, yn ddarn hyfryd sy’n deffro’r synhwyrau i gyd.’

Ychwanegodd : ‘Roedd darnau Sarah Lianne Lewis a Lynne Plowman eisoes yn cael eu hystyried  gan y Gerddorfa Genedlaethol Gymreig ond dydy nhw rioed wedi cael eu perfformio yn gyhoeddus o’r blaen.’

‘Mae Sarah yn gyfansoddwraig dalentog sydd bellach yn byw yn Nê Cymru, tra bo Lynne Plowman yn gyfansoddwraig fwy profiadol gyda nifer o weithiau amlwg erbyn hyn.

‘Da ni’n hynod o ffodus o gael y cyfle hwn i glywed perfformiadau cyntaf tri o weithiau cyfoes gan gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yma yng Ngŵyl Gerdd Bangor. Dewch yn llu!’


 

Disgyblion yn rhoi sglein ar eu sbwriel ar gyfer prif ŵyl gerddoriaeth

24/02/2015

Recycling Project
Mae disgyblion ysgol o Sir Fôn am ddefnyddio deunyddiau megis poteli plastig a chaniau wedi eu ailgylchu i gyfansoddi symffoni dra wahanol ar gyfer un o brif wyliau cerddoriaeth Cymru.

Mae’r prosiect, sydd wedi ei drefnu gan Ŵyl Gerdd Bangor sy’n dechrau ar Fawrth 4, am weld plant o Ysgol Gyfun Llangefni ac Ysgol y Graig yn creu gwaith gan ganolbwyntio ar y thema o ailgylchu.

Dr Ed Wright, sy’n ddarlithydd mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, sydd yn rhedeg y gweithdai, a’r syniad yw i gyfansoddi darn o gerddoriaeth o synau deunyddiau megis poteli plastig, hen duniau a seloffen wedi eu recordio.
Wedi iddyn nhw roi sglein ar eu sbwriel, bydd y clarinetydd enwog Heather Roche yn ymuno â’r prosiect i gwblhau’r darn gorffenedig.

Meddai Dr Wright: “Mae’r gweithdai yma yn pontio’r gwaith gafodd ei greu yng Ngŵyl Gerdd Bangor yn 2014.

Dywedodd: “Nid yn unig ‘rydym yn chwilio am ffyrdd i greu synau newydd o ddeunydd ailgylchadwy ond i ailgylchu rhai o synau o’r prosiect yn 2014 a’u haltro i greu synau newydd i’w defnyddio yn y cyfansoddiad.

“Mae’r plant yn dysgu sut mae ymestyn sain neu altro traw a thôn a’u cyfuno i greu alaw. ‘Rydym yn recordio synau megis tapio ar focs tun neu chwythu ar dop botel plastig cyn eu rhoi at eu gilydd i greu darn o gerddoriaeth.”

“Mae’n hwyl ac yn diddorol ac yn cyflwyno elfen newydd o gerddoriaeth a’r hyn sy’n bosib. Os ‘da ni’n medru gwneud hyn tra’n codi ymwybyddiaeth am yr amgylchedd a’r angen i ailgylchu ar yr un pryd, mae mwy nag un budd i’r prosiect.”

Mae Gavin Saynor, pennaeth cerddoriaeth a dirprwy bennaeth Ysgol Gyfun Llangefni, o’r farn fod y bartneriaeth â’r ŵyl yn hynod werthfawr.

Meddai: “Mae’r disgyblion yn amlwg yn mwynhau gweithio ymysg eu gilydd ag â Dr Ed Wright i greu a recordio’r synau cyn cyfansoddi darn o gerddoriaeth disgrifiadol ar y thema o ailgylchu.”

Mae Elen Hughes, athrawes yn Ysgol y Graig, yn cytuno.

Dywedodd hi: “Mae’n ffordd wych o ddysgu syniadau newydd i’r plant ac i roi’r cyfle iddynt fod yn rhan o brosiect da iawn.

“Gan recordio hen ddarnau o ddeunyddiau ailgylchadwy a’u trawsnewid i gerddoriaeth, mae’n ffordd wych o ddangos rhywbeth gwahanol iddynt ac i’w dysgu am sgiliau angenrheidiol megis gweithio fel tîm.

Bu i Nadine Conway, disgybl blwyddyn 7 yn Ysgol Gyfun Llangefni, fwynhau casglu a recordio synau gwahanol.
Meddai: “Mae creu cerddoriaeth gan ddefnyddio synau o hen boteli a phethau arall yn glyfar. ‘Dwi’n credu bod ailgylchu yn bwysig, ‘dwi’n gwybod bod fy mam yn ailgylchu adref a ‘rwyf yn gyffrous iawn i greu cerddoriaeth o sbwriel.”

‘Roedd disgyblion Ysgol y Graig Jac Davies, 11, a Nathan MacDonald, 10, wedi eu cyffroi i fod yn rhan o’r prosiect am y tro cyntaf.

Esboniodd Jac: “Mae’n dda iawn a ‘dwi’n hoff o’r ffaith ein bod yn medru recordio synau cyn eu newid ar gyfrifiadur i fod yn hollol wahanol. ‘Dwi’n edrych ymlaen yn fawr i glywed y gerddoriaeth orffennedig.

Ychwanegodd Nathan: “‘Dwi’n gyffrous ac yn edrych ymlaen i glywed y gerddoriaeth. ‘Roeddwn i erioed wedi meddwl am greu cerddoriaeth allan o sbwriel!”

Dywedodd Dr Guto Pryderi Puw, cyfarwyddwr artistig yr ŵyl: “Mae ein gwaith addysgol allanol fel y prosiect hwn yn hynod bwysig ac yn rhan o’n nod i frwdfrydu cenhedlaeth newydd o gerddorion a chyfansoddwyr. ‘Rwyf mor falch ein bod yn perfformio’r darn yn ystod cyngerdd Roche/Rees/Pestova ar nos Sul Mawrth 8 fel rhan o’r ŵyl, ochr yn ochr â cherddoriaeth gan ddau o gyfansoddwyr electroacwstig mwyaf blaengar y byd Pierre Alexandre Tremblay a Simon Emmerson. Mae am fod yn ddigwyddiad bythgofiadwy.”

Bydd gwaith a bywyd y cerddor chwedlonol Frank Zappa yn cael ei ddathlu yn yr ŵyl, gan roi’r cyfle i bobl i siarad â’i weddw, Gail, mewn sesiwn cwestiwn ac ateb dros y wê.

Bydd yr eicon Americanaidd oedd yn enwog am arwain bandiau, ysgrifennu caneuon, cyfansoddi a chyfarwyddo ffilmiau yn cael ei goffau mewn cyfres o ddigwyddiadau.

Y thema eleni yw ‘Croesi-Ffin ac Aml-Gyfrwng’, gyda phob cyngerdd yn gysylltiedig â phrosiect addysg arbennig, gan gyd-weithio â nifer o ysgolion lleol yn ogystal â myfyrwyr prifysgol y ddinas.

Y pedwarawd enwog Apollo Saxophone Quartet fydd yn agor yr Ŵyl gyda cherddoriaeth sy’n croesi ffiniau gan gyfansoddwyr megis Graham Fitkin, Django Bates a Keith Tippet yn ogystal â chyfansoddiadau gwreiddiol y pedwarawd ar gyfer ffilmiau byrion mud. Cynhelir y cyngerdd yn Neuadd Reichel, Ffordd Ffriddoedd, Bangor.

Daw’r Ŵyl i ben ar nos Sul, Mawrth 8, gyda chyngerdd Rees/Roche/Pestova, ble cyflwynir Gwobr Gyfansoddi William Mathias am ddarn ar gyfer y ffliwt, clarinét, piano ac electroneg.


 

Premiere o waith newydd gan un o gyfansoddwyr ffilm a theledu mwyaf talentog Cymru

17/02/2015

NW Camerata
Bydd gwaith newydd gan gyfansoddwr talentog a drefnodd y gerddoriaeth ar gyfer rhaglun newydd yr Hobbit yn cael ei berfformio yn un o brif wyliau cerddoriaeth Cymru.

Mae Owain Llwyd, 30, sydd hefyd wedi cyfansoddi ar gyfer yr X-Factor, Top Gear a Big Brother, yn edrych ymlaen yn arw at y premiere fel rhan o Ŵyl Gerdd Bangor, sy’n dechrau ar Fawrth 4.

Mae “wedi cyffroi’n lân” ynglŷn â’r comisiwn sydd wedi ei ysgrifennu yn arbennig ar gyfer Camerata Gogledd Cymru – ensemble o dros 20 o gerddorion ifanc, o dan arweiniad Patrick Rimes.

Bydd y cyngerdd yn cael ei gynnal yng Nghapel Penrallt, Bangor ar Sadwrn, Mawrth 7, am 7.30pm.

Dywedodd Owain, sy’n darlithio ym Mhrifysgol Bangor fel rhan o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Mae’n dra wahanol i’r hyn ‘rwyf yn cyfansoddi fel arfer. Mae wedi ei seilio ar alaw draddodiadol Gymreig o’r enw Y Deryn Pur ond mae rhaid aros tan ddiwedd y darn cyn clywed yr alaw yn ei chyfanrwydd am y tro cyntaf. Cyn hyn, mae’r alaw yn cael ei hymestyn.

“Mae’r holl ddarn, sydd mewn tri symudiad, yn wahanol i’r hyn ‘rwyf fel arfer yn ei gyfansoddi.

“Ysgrifennais y symudiad cyntaf a’r olaf dros y Nadolig. Fe gollais bedwar neu bump o’m ffrindiau – oll â chysylltiadau cryf gyda Gogledd Cymru – yn ystod y cyfnod ac er, fwy na thebyg, fel rhan o fy isymwybod, mae’r gwaith yn reit ysbrydol.

“Y canlyniad yw darn o’r enw Gentle Dove ar gyfer llinynnau a’r trwmped. Mae’r symudiadau cyntaf ac olaf bron mewn arddull goffa tra bod yr ail symudiad yn fwy llon ac i fod i ddathlu bywyd.

Dywedodd Owain, sydd â swydd ym Mhrifysgol Bangor wedi ei hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sy’n gweithio â phrifysgolion ledled Cymru i ddatblygu cyfleon i fyfyrwyr sy’n medru’r Gymraeg, ei fod wedi bod eisiau ysgrifennu rhywbeth yn arbennig ar gyfer Camerata Gogledd Cymru wedi iddo glywed yr ensemble yn perfformio am y tro cyntaf.

“Dyna pam ‘roeddwn mor falch o gael y comisiwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn cydweithrediad ag Ysgol Tryfan. Yn syth wedi i mi weld y Camerata yn chwarae ‘roeddwn yn gyffrous am y cyfle.
“Mae Gentle Dove yn ddarn ar gyfer llinynnau a’r trwmped. Gwyn Owen fydd yn chwarae’r trwmped ond mae’r cerddorion i gyd â chysylltiadau gyda Gogledd Cymru ac maent i gyd yn astudio mewn colegau cerddoriaeth ledled Prydain.”

Aeth Owain, sy’n wreiddiol o Lyndyfrdwy, rhwng Llangollen a Chorwen, i Ysgol Dinas Bran yn Llangollen cyn symud i Ysgol y Berwyn yn y Bala ar gyfer y chweched dosbarth. Astudiodd gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor.

Yn ystod ei dair blynedd fel myfyriwr israddedig enillodd holl wobrau cyfansoddi Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol – yr unig gyfansoddwr i gwblhau’r gamp.

Aeth ymlaen i gwblhau ei ddoethuriaeth mewn cyfansoddi ar gyfer ffilm a theledu ym Mangor cyn ei benodi’n ddarlithydd cerddoriaeth drwy gyfrwng y Gymraeg fel rhan o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Yn ogystal â darlithio mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor a chyfansoddi ei gerddoriaeth ei hun, mae Owain yn brysur yn trefnu gwaith cyfansoddwyr eraill.

Dywedodd: “‘Dwi’n trefnu llawer o waith y cyfansoddwr Prydeinig Tom Player gan nodiannu’r sgôr ar gyfer ei gerddoriaeth. Mae Tom yn arbenigo mewn ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer rhagluniau ffilm a hysbysebion theledu.

“Yn aml iawn bydd o’n ysgrifennu’r gerddoriaeth a mi fydda’ i’n ei sgorio ar gyfer cerddorfa. Mae’r gwaith trefnu yma’n rhan bwysig iawn o’r broses. ‘Dwi wedi cael y cyfle i weithio ar brosiectau arbennig megis y ffilm Hobbit ddiweddaraf ac hysbysebion teledu ar gyfer cwmnïau megis Ikea.

“‘Rwyf hefyd wedi cyfansoddi gwaith gwreiddiol sydd wedi ei gynnwys ar raglenni fel X-Factor, Top Gear, yr Open yn yr Unol Daleithau, Masterchef a Big Brother.”

Mae Dr Guto Pryderi Puw, cyfarwyddwr artistig yr Ŵyl, sy’n ddarlithydd prifysgol ac yn gyfansoddwr adnabyddus ei hun, wrth ei fodd bod gwaith newydd gan Owain Llwyd yn cael ei berfformio fel rhan o’r ŵyl, sy’n 5 diwrnod o hyd.

Meddai ef: “Mae enw da Owain fel cyfansoddwr o fri yn parhau i gynyddu, nid yn unig ym myd ffilm a theledu ond hefyd mewn neuaddau cyngerdd. Mae ei gerddoriaeth yn uniongyrchol ac yn llawn rhythmau egniol sy’n argoeli’n dda ar gyfer rhaglen hynod gyffrous y cyngerdd nos Sadwrn.”

Bydd gwaith a bywyd y cerddor chwedlonol Frank Zappa yn cael ei ddathlu yn yr ŵyl, gan roi’r cyfle i bobl i siarad â’i weddw, Gail, mewn sesiwn cwestiwn ac ateb dros y we.

Bydd yr eicon Americanaidd oedd yn enwog am arwain bandiau, ysgrifennu caneuon, cyfansoddi a chyfarwyddo ffilmiau yn cael ei goffau mewn cyfres o ddigwyddiadau.

Y thema eleni yw ‘Croesi-Ffin ac Aml-Gyfrwng’, gyda phob cyngerdd yn gysylltiedig â phrosiect addysg arbennig, gan gyd-weithio â nifer o ysgolion lleol yn ogystal â myfyrwyr prifysgol y ddinas.

Y pedwarawd enwog Apollo Saxophone Quartet fydd yn agor yr Ŵyl gyda cherddoriaeth sy’n croesi ffiniau gan gyfansoddwyr megis Graham Fitkin, Django Bates a Keith Tippet yn ogystal â chyfansoddiadau gwreiddiol y pedwarawd ar gyfer ffilmiau byrion mud. Cynhelir y cyngerdd yn Neuadd Reichel, Ffordd Ffriddoedd, Bangor.

Daw’r Ŵyl i ben ar nos Sul, Mawrth 8, gyda chyngerdd Rees/Roche/Pestova, ble cyflwynir Gwobr Gyfansoddi William Mathias am ddarn ar gyfer y ffliwt, clarinét, piano ac electroneg.


 

Synau swynol tenis fwrdd mewn gŵyl gerdd

10/02/2015

Receive and Return
Bydd siopwyr yn medru creu synau gan chwarae gem o denis bwrdd fel rhan o un o brif wyliau cerddorol Cymru – diolch i osodiad celf sy’n defnyddio bwrdd tenis fwrdd.

Mae’r gosodiad rhyngweithiol sy’n codi ymwybyddiaeth am yr amgylchedd wedi ei greu gan yr artistiaid Christine Mills a Carlos Pinatti, a bydd yn cael ei ddangos yng Nghanolfan Siopa Deiniol ym Mangor.

Fel rhan o’r prosiect sydd wedi ei drefnu gan Ŵyl Gerdd Bangor, bydd disgyblion o Ysgol Talysarn, Dyffryn Nantlle, yn cyfansoddi darn o gerddoriaeth sy’n amlygu materion amgylcheddol.

Bydd y gwaith celf ‘Derbyn a Dychwelyd’ yn cael ei ddangos yn y ganolfan siopa am fis cyn yr Ŵyl, sy’n cychwyn ar Mawrth 4.

Canolbwynt y gwaith yw map o’r byd sydd wedi ei brintio ar fwrdd tenis bwrdd.
Bydd perfformiadau, yn cynnwys premiere o waith disgyblion Ysgol Talysarn, yn cloi’r prosiect ar ddydd Sadwrn Mawrth 7.

Dywedodd Dr Guto Pryderi Puw, cyfarwyddwr artistig yr Ŵyl: “Bydd premieres o waith gan Katherine Betteridge, Ellie Davis, enillydd Tlws y Cerddor Sioned Eleri Roberts, Hedd Thomas a un o’n myfyrwyr o Tseina Dan Song hefyd yn cael eu perfformio.

“Mae’r cyngerdd yn rhan o’r prosiect addysgol Byd Bregus, lle bydd Katherine Betteridge, sy’n cwblhau ei doethuriaeth mewn cyfansoddi, ag Eleanor Lighton, sy’n astudio ei doethuriaeth mewn perfformio, yn ymweld ag Ysgol Talysarn i gydweithio â’r plant dros nifer o sesiynau cyfansoddi a pherfformio.

“Y bwriad yw fod y plant yn cyfansoddi darn o gerddoriaeth wedi ei ysbrydoli gan Derbyn a Dychwelyd, a’u gwaith nhw, wedi ei selio ar nodweddion bregus y byd, megis rhew yn toddi, datgoedwigo ac yn y blaen.”

Bu Christine Mills, o Lanerfyl yn Sir Drefaldwyn, yn cydweithio a Carlos Pinatti, artist sy’n byw yng Nghaerdydd, i greu y gwaith.

“Mae Derbyn a Dychwelyd yn ymwneud â croesi ffiniau ac yn ceisio sicrhau bod y neges yn cael ei chlywed o bob ochr. ‘Rydym yn ceisio dangos ei bod hi’n bwysig i drin yr amgylchedd â pharch er mwyn cryfhau’r berthynas rhwng y ni a’n byd.
Mae delwedd ddigidol o’r byd wedi ei phrintio ar y bwrdd, sy’n cael ei bortreadu fel ein llwyfan ni ar y ddaear. Nid oes gwledydd, ffiniau na chyfandiroedd ar y map, sydd yn cyfleu ein bod i gyd yn gyfrifol am y tir.

“Ac mae mowldiau o deils unigol wedi eu creu o glai a chastiau plaster yn awgrymu ein bod angen cydweithio i greu un darlun mawr.

“Rydym wrth ein boddau bod cyfansoddwyr o’r brifysgol a’r disgyblion lleol yn cyfansoddi darnau wedi eu hysbrydoli gan y gosodiad ac yn edrych ymlaen yn fawr i glywed y gwaith gorffenedig.

“Bydd y cyhoedd yn medru mwynhau Derbyn a Dychwelyd yn ystod yr wythnosau cyn yr Ŵyl gan wylio o’r ffenest tra bod sain y bêl yn cael ei chwarae drwy uchelseinydd y tu allan i’r uned.

“Yn ystod wythnos yr ŵyl, bydd mynychwyr yn medru mynd i mewn i’r uned a chwarae’r gem o Dderbyn a Dychwelyd.”

Bydd gwaith a bywyd y cerddor chwedlonol Frank Zappa yn cael ei ddathlu yn yr ŵyl, gan roi’r cyfle i bobl i siarad â’i weddw, Gail, mewn sesiwn cwestiwn ac ateb dros y we.

Bydd yr eicon Americanaidd oedd yn enwog am arwain bandiau, ysgrifennu caneuon, cyfansoddi a chyfarwyddo ffilmiau yn cael ei goffau mewn cyfres o ddigwyddiadau.

Bydd yr Ŵyl, sydd erbyn hyn yn ei 15fed flwyddyn, hefyd yn cynnwys darnau newydd gan Pwyll ap Siôn ac Owain Llwyd.

Y thema eleni yw ‘Croesi-Ffin ac Aml-Gyfrwng’, gyda phob cyngerdd yn gysylltiedig â phrosiect addysg arbennig, gan gyd-weithio â nifer o ysgolion lleol yn ogystal â myfyrwyr prifysgol y ddinas.

Y pedwarawd enwog Apollo Saxophone Quartet fydd yn agor yr Ŵyl gyda pherfformiad o waith gan gyfansoddwyr megis Graham Fitkin, Django Bates a Keith Tippet yn ogystal â chyfansoddiadau gwreiddiol y pedwarawd ar gyfer ffilmiau mud. Cynhelir y cyngerdd yn Neuadd Reichel, Ffordd Ffriddoedd, Bangor.

Ond yr arlwy addysgol sy’n unigryw i Ŵyl Gerdd Bangor, yn ôl Dr Puw.

“Bydd disgyblion cynradd Ysgol y Graig, Llangefni ac Ysgol Talysarn, Dyffryn Nantlle, a disgyblion uwchradd Ysgol David Hughes, Porthaethwy, Ysgol Tryfan, Bangor ac Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda oll yn cyfrannu i’r Ŵyl.

“Cyflwynir perfformiad gan Camerata Gogledd Cymru, sy’n cynnwys myfyrwyr o nifer o brifysgolion, yng Nghapel Penrallt, Bangor ar ddydd Sadwrn, Mawrth 7.

“Daw’r Ŵyl i ben ar nos Sul, Mawrth 8, gyda chyngerdd Rees/Roche/Pestova, ble cyflwynir Gwobr Gyfansoddi William Mathias am ddarn ar gyfer y ffliwt, clarinét, piano ac electroneg.


 

Cyflwyno Zappa i genhedlaeth newydd

20/01/2015

jazz-from-hell-lrBydd gwaith a bywyd y cerddor chwedlonol Frank Zappa yn cael ei ddathlu mewn gŵyl gerddoriaeth yng Ngogledd Cymru, gŵyl fydd hefyd yn arddangos gwaith gan gyfansoddwyr ifanc.

Bydd yr eicon Americanaidd oedd yn enwog am arwain bandiau, ysgrifennu caneuon, cyfansoddi a chyfarwyddo ffilmiau yn cael ei goffau mewn cyfres o ddigwyddiadau yng Ngŵyl Gerdd Bangor, sy’n dechrau ar Fawrth 4.

Yn ôl trefnwyr yr Ŵyl gerdd gyfoes, maent am roi blas o waith gwych yr athrylith “gwallgof”, Zappa i gynulleidfaoedd heddiw.

Bydd yr Ŵyl, sydd erbyn hyn yn ei 15fed flwyddyn, hefyd yn cynnwys cerddoriaeth newydd sbon gan bum cyfansoddwr ifanc, Katherine Betteridge, Ellie Davies, Sioned Eleri Roberts, Dan Song a Hedd Thomas, yn ogystal â darnau newydd gan y cyfansoddwyr adnabyddus, Pwyll ap Siôn ac Owain Llwyd.

Y thema eleni yw ‘Croesi-Ffin ac Aml-Gyfrwng’, gyda phob cyngerdd yn gysylltiedig â phrosiect addysg arbennig, gan gyd-weithio â nifer o ysgolion lleol yn ogystal â myfyrwyr prifysgol y ddinas.

Yn ôl Guto Pryderi Puw, Cyfarwyddwr Artistig yr Ŵyl, sy’n ddarlithydd prifysgol ac yn gyfansoddwr adnabyddus ei hun, y bwriad yw rhoi’r cyfle i’r cyhoedd fwynhau a dysgu am gerddoriaeth gyfoes.

Meddai ef: “Mae’n bwysig rhoi cyfle i ddisgyblion ysgol, myfyrwyr a’r cyhoedd gael blas ar y gerddoriaeth gyfoes fwyaf cyffrous sy’n cael ei gyfansoddi heddiw.

“Bob blwyddyn, ymdrecha’r Ŵyl i gyflwyno’r datblygiadau a’r tueddiadau diweddaraf o fyd cerddoriaeth gyfoes, gan roi lle blaenllaw i gerddoriaeth siambr, digwyddiadau aml-gyfrwng, cerddoriaeth electroacwstig a cherddoriaeth arbrofol.

“‘Rydym hefyd yn comisiynu nifer o ddarnau newydd gan gyfansoddwyr o wahanol wledydd.

“Bydd yr enwog Apollo Saxophone Quartet yn agor yr Ŵyl gyda detholiad o waith gan Graham Fitkin, Django Bates, Keith Tippett, Kenny Wheller ac aelodau’r pedwarawd yn Neuadd Reichel, Ffordd Ffriddoedd, Bangor.

“Dydd Iau 5ed Mawrth, byddwn yn dathlu gwaith Zappa, pan fydd Theatr Bara Caws yn cyfarwyddo perfformiad o drawsgrifiad achos llys Zappa yn 1975, cyn bydd ffilm ddogfen o’r enw ‘Summer ’82’ yn cael ei dangos ar fywyd a gwaith Frank Zappa.

“Wedyn, byddwn yn cyflwyno cyngerdd gan Decibel, sy’n cynnwys tri trefniant o ddarnau Zappa, darnau gan Ed Bennett, Joe Cutler a Graham Fitkin, yn ogystal â gwaith newydd gan Pwyll ap Siôn, a ysbrydolwyd gan gerddoriaeth Zappa, ac a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer yr Ŵyl.”

Bydd gosodiad o waith celf gan Christine Mills a Carlos Pinatti, o’r enw ‘Derbyn a Dychwelyd, yn cael ei arddangos yng Nghanolfan Siopa Deiniol, Bangor, am fis cyn dechrau’r Ŵyl.

Ychwanegodd Dr Puw: “I gyd-fynd â’r gosodiad celf, bydd pum cyfansoddiad newydd gan gyfansoddwyr ifanc yn cael eu cyflwyno.  Bydd gwaith Katherine Betteridge, Ellie Davies, Hedd Thomas, Dan Song ac enillydd Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol 2014, Sioned Eleri Roberts, yn cael eu cyflwyno mewn cyngerdd amser cinio ar ddydd Gwener, Mawrth 6, sy’n cyd-fynd yn berffaith â thema ‘Aml-Gyfrwng’ yr Ŵyl.

“Daw’r noson i ben gyda pherfformiad jazz gan y Bourne Davis Duo yn Nhŷ Bwyta’r Blue Sky, Bangor.”
Ond yr arlwy addysgol sy’n unigryw i Ŵyl Gerdd Bangor, yn ôl Dr Puw.

“Bydd disgyblion cynradd Ysgol y Graig, Llangefni ac Ysgol Talysarn, Dyffryn Nantlle, a disgyblion uwchradd Ysgol David Hughes, Porthaethwy, Ysgol Tryfan, Bangor ac Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda oll yn cyfrannu i’r Ŵyl.

“Cyflwynir perfformiad gan Camerata Gogledd Cymru, sy’n cynnwys myfyrwyr o nifer o brifysgolion, yng Nghapel Penrallt, Bangor ar ddydd Sadwrn, Mawrth 7.

“Byddant yn gweithio gyda Gareth Jones a’r cerddor a’r arweinydd ifanc lleol Patrick Rimes, i greu perfformiad o gerddoriaeth sy’n croesi ffiniau fydd yn cynnwys concerto newydd ar gyfer y trwmped gan Owain Llwyd, unwaith eto a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer yr Ŵyl.

“Daw’r Ŵyl i ben ar nos Sul, Mawrth 8, gyda chyngerdd Rees/Roche/Pestova, ble cyflwynir Gwobr Gyfansoddi William Mathias am ddarn ar gyfer y ffliwt, clarinét, piano ac electroneg.

“Mae rhaglen Gŵyl Gerdd Bangor 2015 yn un hynod gyffrous, yn cyfuno egni cerddoriaeth Frank Zappa, cerddoriaeth jas hamddenol, ag ystod eang o gerddoriaeth sy’n ‘Croesi-Ffiniau’.

“Unwaith eto eleni, ‘rwy’n falch iawn bod yr Ŵyl yn cydweithio ac yn ysgogi disgyblion ysgol a’r cyhoedd. Mae’r Ŵyl yn datblygu’n flynyddol, a gobeithio’n fawr y gallwn gyrraedd gymaint o’r cyhoedd â phosib er mwyn eu cyflwyno i wahanol fathau o gerddoriaeth newydd. Dewch i fwynhau!”


 

Wales Arts Review: Adolygiad o Pestova/Meyer yn perfformio Mantra gan Stockhausen yn GGNB

01/05/2014

Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, 15 Mawrth 2014

Xenia Pestova, Pascal Meyer – piano, offerynnau taro, offerynnau electroneg
Jan Panis – offerynnau electroneg

Cyngerdd ar y cyd rhwng Gŵyl Gerdd Newydd Bangor a gŵyl gerddoriaeth electroacwsteg INTER/actions. Mae’r adolygiad isod yn Saesneg, fel y gwreiddiol ar www.walesartsreview.org/stockhausens-mantra-bangor-new-music-festival-interactions/

Karlheinz Stockhausen was – and has remained since his death in 2007 – a hugely influential figure in postwar European music. Brilliant, charismatic and controversial to the point of divisiveness, he and the arch polemicist, Pierre Boulez, more or less dominated a generation of composers who, together, formed what Luigi Nono described in 1958 as the ‘Darmstadt School’: a reference to the Darmstadt International Summer Courses for New Music at which many composers from all over the world continue to gather each year. However, it is the period between the early ‘50s and early ‘60s to which Darmstadt’s reputation as a cauldron of musical revolution largely pertains, with Stockhausen as primary magus.

At this time in Darmstadt – in a Germany struggling to come to terms with the reality of the horrific war machine it had so recently unleashed – a diverse collection of young and understandably angry avant-gardists determined to sweep away the past. With Stockhausen and Boulez at the helm, they explored new techniques and electronic technology (Stockhausen was also based at the public broadcasting studio NWDR in Cologne from 1953), adopting radical new stylistic and ideological approaches to composition. Counter-intuitively perhaps, the more strictly controlled the compositional processes they devised,* the wilder and more exhilaratingly free their music seemed to sound. But personal clashes between the composers could be fierce; especially with those who dared to espouse an (apparently) opposing aesthetic to the Stockhausen/Boulez paradigm, such as John Cage and Morton Feldman, who visited Darmstadt from the USA.

Eventually, musical differences pulled the Darmstadt School apart. But Stockhausen continued to explore new worlds of technique and expression, and he remained in the vanguard of the younger generation of central European composers; not only one of the most talented, but perhaps the most uncompromising, not to mention – either wondrously or infuriatingly depending on your point of view – one of the most egocentric and, frankly, one of the most bonkers (for example, he later insisted that he originated from Sirius). Many have hailed Stockhausen as a genius but others, far from seeing him as having broken with pre-war modernist traditions, have blamed him and others of the Darmstadt School for taking European ‘art’ music (for want of a better term) further down an already esoteric and intellectual path in defiance of public understanding. Today, composers of all stylistic stripes still have to overcome enormous scepticism, and often antipathy, from the mainstream in order to get their music performed in anything other than tiny, niche settings – if it gets performed at all. This applies especially, of course, to composers who write in more dissonant or experimental idioms.

However, fashions come and go – and one would think that audiences would be used to dissonant music by now in our ‘post-postmodern’, movie-loving age. But, whilst Stockhausen’s precursor, Arnold Schoenberg (via Schoenberg’s pupil Anton Webern), currently seems in some circles to be blamed for everything that’s wrong in life bar the price of milk, performances of Stockhausen’s opera Mittwoch aus Licht by the Birmingham Opera Company attracted huge interest in 2012. Cynics might say with some justification that that interest was more to do with Stockhausen’s expensive ‘stunt’ of incorporating a Helikopter-Streichquartett; one helicopter for each member of a string quartet performing and transmitting live midair to the audience in the auditorium below. But, whatever his faults and eccentricities, like Schoenberg, Stockhausen was a fantastically innovative and – yes – highly musical composer, who wrote many iconic works, of which Mantra is a prime example. Indeed, those of us present at Powis Hall in Bangor on March 15th were doubly lucky for, not only is this amazing piece very rarely programmed, but the piano duo of Xenia Pestova and Pascal Meyer, together with Jan Panis (Stockhausen’s former assistant), who realised the electronics, performed it outstandingly well.

Stockhausen wrote Mantra in 1970. It was his first piece to utilise full, conventional music notation since Mikrophonie I and Mixtur of 1964, after a period exploring chance procedures and graphic scores. Indeed, Mantra opened the door to what turned out to be a crucial phase in Stockhausen’s compositional development, based on what became dubbed his ‘Formula’ technique, and leading ultimately to that gargantuan seven-opera cycle, Licht, of which the aforementioned Mittwoch is a part. Lasting around seventy minutes, Mantra is altogether more modest in resources, yet is hugely demanding to play in terms of instrumental virtuosity, intensity of concentration and sheer physical stamina. All three aspects were impressively evident in the Bangor performance.

Mantra was conceived on a journey by car from Madison, Connecticut to Boston during which Stockhausen ‘heard this melody … I had the idea of one single musical figure or formula that would be expanded over a very long period of time … I wrote this idea down on an envelope.’ Structurally, the piece is fairly simple at root, although its unwinding is immensely rich and imaginative. Without ‘blinding with science’ in describing Stockhausen’s pitch techniques, it is cast in thirteen sections, each of which repeats and stretches in various extraordinary ways a 13-note melody, which comprises the ‘Mantra’ of the title. To quote from Andrew Lewis’ excellent programme note: ‘Each note of the mantra has its own duration, dynamic and – crucially – it’s own musical characteristic. It is these thirteen characteristics which grow to become the defining materials of the work.’**

In addition to an enormous number of notes – which, as Pestova and Meyer demonstrated so beautifully in Bangor, have to be performed with absolute precision in order to realise the multi-layered temporal processes at work – the two pianists each play a woodblock and crotales, and vocalise a variety of sounds at points in the work. Moreover, each pianist controls a ring modulator, which alters their piano’s sound to create a dense palette of colours and sonic possibilities. The acoustic sounds intertwine with these treated sounds, which are diffused through loudspeakers via a mixing desk. Of course, with changing technology, the analogue equipment Stockhausen originally specified has been difficult to source for some time, so, with the composer’s permission, Panis devised a digital means of realising the electronic element. It is thanks to Panis, therefore, that modern-day performances of Mantra such as that here in Bangor are possible.

Not only did the electronics work superbly well, but the piano duo did clear justice to Stockhausen’s athletic piano writing and creative daring; including, I would argue, the composer’s desire to capture the correct ‘vibration beyond the idea’ so to speak, in a piece which reflects his 1960′s exploration of the relationship between sound and the mystical or spiritual. Mantra also contains an important and highly visual theatrical element, as the pianists literally face each other down at various points, with challenges and counter challenges which range from the profound to the genuinely funny. Pestova and Meyer’s performance radiated excitement, a taut dramatic sense and good humour in equal measure. Their understanding of the score has clearly deepened over years of performing and recording it together, and they held the audience spellbound from start to finish in one of my concert highlights of 2014 so far.

In 1972, Roger Smalley wrote that, ‘with its rich textures and formal power I believe that in Mantra Stockhausen has produced the finest chamber work since Schoenberg’s String Trio of 1946’ – itself one of the finest works of the twentieth century. Based on this stunning performance of Mantra, I find it hard to disagree with him.

*  through so-called ‘total serialism’, for example, in which all musical parameters – not just pitch but dynamics, timbre, rhythm etc. – are composed according to systematic procedures.

**  published as a CD liner-note to Pestova and Meyer’s recording of Mantra, available on Naxos records.

by Steph Power


 

Perfformiad prin o gampwaith Stockhausen yng Ngwyl Gerdd Bangor

01/03/2014

Fe fydd y ddeuawd piano enwog Pestova/Meyer yn perfformio campwaith un o arloeswyr mwyaf yr Ugeinfed Ganrif, Karlheinz Stockhausen yng Ngŵyl Gerdd Newydd Bangor eleni. Bydd cyfle i glywed MANTRA (1970) yn Neuadd Powis, Bangor ar nos Sadwrn, Mawrth 15, 2014 – diweddglo teilwng i’r Ŵyl a rhan o Gynhadledd ddeuddydd INTER/action.

Yn ôl Xenia Pestova , pennaeth Perfformio Prifysgol Bangor, ” rhaid i ni fod bron yn “super-pianyddion” i ganolbwyntio am 65 munud, yn ogystal â chwarae offerynnau taro – a defnyddio ein lleisiau!”

Mae MANTRA yn gofyn i’r pianyddion chwarae mathau o symbalau hynafol, blociau pren a defnyddio eu lleisiau i gynhyrchu alawon ‘mantra’. Yn ogystal, bydd radios tonfeddi- byrion yn creu signalau cod Morse i ychwanegu at yr awyrgylch ac i greu cyngerdd bythgofiadwy.

Ysgrifennwyd y darn meistrolgar ar gyfer dau biano a phrosesydd electronig. Mae’r pianos yn cael eu prosesu’n electronig ar y pryd i greu ‘arch-offerynnau’ sy’n arbrofi â’r cysyniad o berfformiad y piano, a sain y math o arddull sy’n nodweddu gwaith John Cage.

Yn ôl Andrew Clements yn y ‘ Guardian’, “Mae hwn yn ddatganiad hynod fedrus o un ddarnau disgleiriaf ail hanner yr 20fed ganrif. ”

Mae cyflwyniad Pestova/Meyer yn wreiddiol iawn hefyd, gan eu bod yn defnyddio technoleg ddigidol ar gyfer y prosesu electronig i greu sain mwy safonol. Dehongliad newydd a chyfoes o ddarn clasurol oedd yn gwthio’r ffiniau technolegol ar y pryd.

Meddai Pestova ” gall pobl ddisgwyl profiad gwahanol iawn , gan fod hwn yn ddarn na fyddwn byth bron yn ei glywed yn fyw .”

Ychwanegodd y pianydd Pascal Meyer, “mi fydd hon yn dipyn o daith i ni ag i’r gynulleidfa, ac yn ddigwyddiad arbennig iawn i Fangor!”

Yn ôl Paul Driver, newyddiadurwr gyda’r ‘Sunday Times’, mae’r gwaith yn un ” …lliwgar, theatrig, llawn hiwmor … a doeth. Hudolus!”

ⓒ Sanja Harris

Rhyddhawyd CD o’r ddeuawd biano yn perfformio MANTRA yn 2010, gan Gwmni Naxos a chafodd dderbyniad gwresog. Diolch i nawdd gan Adran Ddiwylliant Llywodraeth Lwcsembwrg ac Adran Greadigol Cyngor Celfyddydau Seland Newydd, cafodd perfformiadau Pestova/Meyers o MANTRA eu cynnwys ar hyd a lled y byd, yn y Philharmonie Lwcsembwrg , Gŵyl Archipel Genefa (Y Swistir), cyfres o gyngherddau Live@CIRMMT ym Montreal (Canada) , Gŵyl Musikhost (Denmarc) , Voix Nouvelles yn Royaumont (Ffrainc), Iwerddon a Seland Newydd.

Ymhlith uchafbwyntiau eraill Gŵyl Gerdd Newydd Bangor, fe fydd perfformiadau gan y fiolinydd virtuoso Madeleine Mitchell , y cyfansoddwr electroacwstig Natasha Barrett , Asaf Sirkis , y cerddor jazz ag Orchestra of the Swan.

Mae tocynnau ar gyfer MANTRA ar werth am £20 (£15 i fyfyrwyr a phensiynwyr) drwy wefan yr Ŵyl neu Palas Print, Stryd Fawr, Bangor.


 

Feiolinydd Byd-enwog i Berfformio yn yr Ŵyl

16/02/2014

Bydd feiolinydd byd-enwog yn  rhoi’r  perfformiad  cyntaf  erioed o ddau ddarn  comisiwn newydd sbon ar gyfer Gŵyl Gerdd Bangor.

Mae Madeleine Mitchell yn un o brif atyniadau Gŵyl Gerdd Newydd Bangor, sy’n agor ar ddydd Mercher, Mawrth 12.
Bydd yn perfformio  mewn dau o brif gyngherddau’r Ŵyl ac fel  yr artist preswyl eleni, bydd  yn cynnal dosbarth meistr gyda myfyrwyr.

Mae’r cerddor o fri  rhyngwladol wedi diddanu  cynulleidfaoedd mewn 40 o wledydd gwahanol dros y  byd i gyd.

Meddai: ‘Dwi’n edrych ymlaen yn arw at yr achlysur  ac mae’n bleser o’r mwyaf cael bod yn artist preswyl i’r Ŵyl. Byddaf wrth fy modd yn cynnal dosbarthiadau meistr  a chyfarfod a gweithio gyda’r myfyrwyr.’

Gyda’r Ŵyl yn mynd o nerth i nerth dros y 14 blynedd diwethaf, mae wedi hen sefydlu ei hun fel un o’r  digwyddiadau mwyaf cyffrous yng nghalendr cerddoriaeth glasurol gwledydd Prydain.

Dywed y trefnwyr y bydd yr Ŵyl eleni  yn un o’r goreuon eto. Fe fydd yn sicr o fod yn ddigwyddiad bythgofiadwy i’r myfyriwr Phd, Mared Emlyn, 25 gan  fod cyfansoddiad newydd o’i heiddo yn  cael ei berfformio am y tro cyntaf erioed.

Un o’r uchafbwyntiau, heb os, fydd y gweithdy jazz dan arweiniad y drymiwr o Israel, Asaf Sirkis, gyda chyngerdd  hwyr nos ei bedwarawd jazz i ddilyn, yn y Bwyty Groegaidd ym Mangor Uchaf.

Bydd cyngerdd awr ginio hefyd gydag Ensemble Cerdd Newydd Bangor, yng Nghanolfan Siopa Deiniol.

Mae’r  Ŵyl  yn agor gyda chyngerdd ar thema Nos a Dydd lle bydd Madeleine Mitchell yn perfformio rhaglen ddychmygus o gerddoriaeth newydd a darnau o gerddoriaeth wedi eu recordio eisoes. O’i chartref yn Llundain, dywed Madeleine ei bod yn ymfalchïo yn ei gwreiddiau Cymreig  ac ychwanegodd: Dwi wrth fy modd yn cael dychwelyd i Fangor i berfformio yn yr Ŵyl Gerdd Newydd . Dyma fy ymddangosiad cyntaf yn yr Ŵyl er mod i wedi perfformio ym Mhrifysgol Bangor o’r blaen.

‘Mae’r cyngerdd agoriadol ‘Nos a Dydd’ yn gyfuniad o’r piano a’r ffidil . Byddaf yn chwarae’r perfformiad cyntaf erioed yn y byd o ddarn newydd gan y cyfansoddwr ifanc o Gymru, Mared Emlyn a dwi’n edrych ymlaen yn eiddgar at hynny.’

Mae’r cyfarwyddwr Artistig, Guto Puw yn cael ei ystyried yn un o brif gyfansoddwyr Cymru ac mae hefyd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor.

Cyfansoddodd gonsierto i’r ffidil yn arbennig i Madeleine, o dan y teitl ‘ Llonyddwch Tyner.’ Bydd  yn cael ei berfformio fel rhan o gyngerdd y Nos Iau i ddathlu 450 mlwyddiant geni William Shakespeare.

Dywedodd Guto: ‘Dwi’n teimlo’n gyffrous iawn  fod ganddo ni gymaint o gerddoriaeth newydd sydd heb erioed o’r blaen wedi cael ei berfformio’n gyhoeddus.’

‘Da ni’n trio cyflwyno cerddoriaeth newydd i gynulleidfa llawer ehangach , cerddoriaeth na fyddai pobol o reidrwydd yn ei glywed fel arfer o bosib.’

Byddwn yn cynyddu ein gweithgareddau addysgol  gydag un o’r cyngherddau, teyrnged i Shakespeare yn digwydd yng Nghanolfan Siopa Deiniol ym Mangor ar y prynhawn Gwener.

“Mae Madeleine Mitchell yn fiolinydd o fri a bydd ei chyngerdd ‘Nos a Dydd’ yn cynnwys cyfres o ddarnau byr o gerddoriaeth gwrthgyferbyniol  sy’n deffro’r synhwyrau ac arwain y gwrandawyr ar y daith o’r  tywyllwch i’r goleuni.’

“Bydd darnau cyfoes hefyd gan nifer o gyfansoddwyr ifanc a disglair gwledydd Prydain, yn ychwanegol i waith newydd  a gomisiynwyd yn arbennig i’r Ŵyl gan Tŷ Cerdd gan y cyfansoddwr ifanc addawol, Mared Emlyn. Daw’r  dydd Gwener Shakesperaidd i ben gyda chyngerdd  teyrnged yn Neuadd Pritchard Jones, Bangor i goffau 450 mlwyddiant geni’r Bardd a’r Dramodydd.

Meddai Guto : “Bydd cerddorfa’r Swan yn perfformio dan arweiniad David Curtis, gyda cherddorion megis Madeleine Mitchell a’r trwmpedwr, Simon Desbruslais.

Bydd y cyngerdd yn cynnwys dau ddarn o gerddoriaeth a gomisiynwyd  yn benodol  ar gyfer yr achlysur, yn cynnwys ‘Antic Rounds, gwaith newydd gan  enillydd Gwobr Cystadleuaeth Cyfansoddi William Mathias 2013, Tom Coult , a chonsierto  i’r ffidil gen i  wedi ei chyfansoddi  yn arbennig ar gyfer Madeleine, dan y teitl,Llonydddwch Tawel.’

‘Ysbydolwyd Antic Rounds’ gan ddyfyniad o olygfa gwrachod  Macbeth tra bo’r consierto i’r ffidil  i yn ymateb uniongyrchol i linellau allan o’r ‘Merchant of Venice gan Shakespeare.

“Mae’r cyfansoddwr Robert Saxon wedi cyfansoddi cyfres o bump o ddarnau cerddorol  yn portreadu golygfeydd  o wahanol ddramâu Shakespeare. Mae’r darnau eraill yn y rhaglen yn adlewyrchu ymrwymiad y gerddorfa i gomisiynu gweithiau newydd , gan gynnwys darnau diweddar gan Tansy Davies a Huw Watkins.’

Ychwanegodd:  “Mae diwrnod olaf yr Ŵyl yn argoeli i fod yn hynod gyffrous  gan  fod ganddo ni berfformiad prin o gampwaith Karlheinz Stockhausen, Mantra,gwaith cynhyrfus  sy’n galw am arddull chwarae piano anghonfensiynol a dweud y lleiaf.’ Bydd y ddeuawd nodedig, Xenia Pestova a Pascal Meyer yn perfformio’r darn mewn cydweithrediad â chynhadledd INTER/actions ar y dydd Sadwrn.

Un o’r rheiny sy’n edrych ymlaen yn frwd  at yr Ŵyl yw Mared Emlyn o Langernyw, ger Abergele. Mae hi newydd gwblhau ei doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor ar  berfformio’r Delyn a chyfansoddi. Fe’i comisiynwyd i sgwennu darn newydd o gerddoriaeth i’w berfformio am y tro cyntaf, fel rhan o gyngerdd Madeleine Mitchell ar y thema Nos a Dydd.

Meddai Mared: “Mae’n wych ond mae’n rhaid i mi gyfaddef mod i ychydig yn nerfus . Mae’r Ŵyl yn ddigwyddiad  ffantastig  ond ‘nes i rioed ddychmygu  y byddwn yn cael y cyfle i wrando ar berfformwyr  cydnabyddedig fel Madeleine Mitchell, yn dehongli  fy ngherddoriaeth i.

“’Does dim teitl i’r darn eto ond mae’r gwaith, ar thema Nos a Dydd, yn ystyried sut y bydd goleuni yn dod â lliw ag ystyr i’r byd. Mi fyddai’n sicr yn teimlo’n falch eithriadol ar y diwrnod a’m rhieni yn eistedd yn y gynulleidfa.”

Ychwanegodd Mared, “Mae Gŵyl Gerdd Newydd Bangor yn gyfle arbennig  i gyfansoddwyr ifanc  arddangos eu gwaith. Mae’r rhaglen yn un amrywiol gyda phopeth o’r clasurol i’r jazz a cherddoriaeth newydd electroacwstig.Rhywbeth at ddant pawb.”


 

Mae’r Haul yn Tywynnu ar GGNB yng Nghastell Caernarfon

05/03/2013

Trwy gydol Ionawr a Chwefror, bu Bardd Plant Cymru, Eurig Salisbury, a’r offerynnwr taro Dewi Ellis Jones wrthi’n gweithio ochr yn ochr â disgyblion Cynradd Llanberis ac Ysgol Gynradd Hendre, Caernarfon i greu barddoniaeth a cherddoriaeth a ysbrydolwyd gan gestyll fel rhan o Ŵyl Gerdd Newydd Bangor, 2013.

Ddydd Sul 3 Mawrth, daeth y gyfres o weithdai i ben gyda pherfformiad dramatig cyn yr ŵyl o weithiau’r plant yng Nghastell Caernarfon. Bu’r gyngerdd yn llwyddiant mawr, wrth i’r plant fwynhau’n arbennig y cyfle i berfformio eu gweithiau celfyddydol mewn adeilad a fu’n ysbrydoliaeth i’w cyfansoddiadau. Roedd ceidwaid treftadaeth Cymru, Cadw, wrth eu bodd wrth i blant ysgolion lleol ymweld â’u hadeilad, a rhoesant sylwadau ar yr awyrgylch gwych.

Ddydd Llun 11 Mawrth, caiff gweithiau’r plant sylw unwaith eto, mewn consortiwm o hanes, diwylliant a llenyddiaeth Cymru yng Nghapel Penrallt, Bangor. Gan ddechrau am 7.30pm, bydd y gyngerdd hefyd yn cynnwys barddoniaeth a cherddoriaeth newydd gan Eurig Salisbury, Dewi Ellis Jones a Hao Dai.

Medd Bardd Plant Cymru, Eurig Salisbury, “Roedd y gweithdai’n gyfle gwych imi gydweithio gyda’r plant dros gyfnod estynedig er mwyn datblygu syniadau a llunio cerddi newydd sbon. Roedd canolbwyntio ar gestyll Caernarfon a Dolbadarn yn galluogi imi fynd i’r afael ag amrywiaeth o themâu, yn fwyaf penodol y berthynas rhwng Cymry a’u hanes. Yn sgil archwilio’r gwahaniaeth rhwng hanes y ddau gastell fe drafodwyd pwysigrwydd y proses o ailgipio’r mannau hynny ar gyfer pobl Cymru heddiw.”


 

Mae Gŵyl Gerdd Newydd Bangor yn tynnu sylw at alawon gwerin, barddoniaeth a phlant

13/02/2013

Trwy gydol Ionawr a Chwefror, mae Bardd Plant Cymru, Eurig Salisbury, a’r offerynnwr taro Dewi Ellis Jones wrthi’n gweithio ochr yn ochr â disgyblion Gynradd, Llanberis ac Ysgol Gynradd Hendre, Caernarfon i greu barddoniaeth a cherddoriaeth fel rhan o Ŵyl Gerdd Newydd Bangor, 2013.

Gan anelu at annog creadigrwydd ymysg plant ysgol, mae gweithdai dan arweiniad Salisbury yn cyflwyno hanes y cestyll yng Ngogledd Cymru fel symbyliad ar gyfer ysgrifennu barddoniaeth. Cyfeilir y gweithiau hyn â cherddoriaeth a gyfansoddir gan y plant mewn gweithdai gyda’r offerynnwr taro, Dewi Ellis Jones.

Ddydd Sul 3 Mawrth, daw’r gyfres o weithdai i ben gyda pherfformiad dramatig o weithiau’r plant am 2pm yng Nghastell Caernarfon. Bydd y lleoliad unigryw yn gefndir gwych i’r darnau a fydd wedi’u hysbrydoli gan gestyll. Ddydd Llun 11 Mawrth, caiff gweithiau’r plant sylw unwaith eto, mewn consortiwm o hanes, diwylliant a llenyddiaeth Cymru yng Nghapel Penrallt, Bangor. Gan ddechrau am 7.30pm, bydd y gyngerdd hefyd yn cynnwys barddoniaeth a cherddoriaeth newydd gan Eurig Salisbury, Dewi Ellis Jones a Hao Dai.

Medd Cyfarwyddwr yr Ŵyl, Guto Puw, “Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod cyffrous, wrth inni baratoi ar gyfer y gweithdai hyn. Mae Gŵyl Gerdd Newydd Bangor bob amser yn anelu at ddod â phlant ysgol yn nes at gerddoriaeth glasurol a chyfoes, ond mae project y cestyll yn wirioneddol arbennig. Mae’n addo bod yn ddathliad o ddiwylliant Cymru ac o waith celfyddydol gan bobl ifanc.”


 

Croesawu’r Delynores Ryngwladol Catrin Finch

02/02/2013

Mae’r delynores fyd-enwog Catrin Finch a’r cyfansoddwyr arobryn o Gymru, Owain Llwyd, wedi bod yn gweithio gyda myfyrwyr lefel-AS a lefel-A i greu trefniadau gwerin a chyfansoddiadau gwreiddiol ar sail cyfuniad o alawon gwerin a Jazz. Mewn cyfres o weithdai a gynhaliwyd yn Ysgol David Hughes ym Môn ac ym Mhrifysgol Bangor yn ystod Ionawr a Chwefror, mae’r cyfansoddwyr ifainc hyn wedi dysgu meddwl am y delyn mewn cyd-destun newydd, wrth wrando ar gerddoriaeth draddodiadol o Gymru a’r Alban ar gyfer y delyn. Mae’r broses wedi symbylu disgyblion i feddwl yn agored am eu cyfansoddiadau, a hynny’n arwain, er enghraifft, at un gwaith a oedd wedi’i ysbrydoli gan alawon gwerin o  Wlad y Thai.

Dan arweiniad Finch, roedd disgyblion o Consortiwm Cerdd Môn yn gallu dysgu yn y gweithdai am dechneg y delyn. Cawsant eu cyflwyniad cyntaf i’r delyn drydanol ac i’r posibiliadau y mae’n eu cynnig o ddolennu alawon mewn cerddoriaeth finimalaidd. Mae technegau a astudiwyd gan y disgyblion eisoes wedi gwella eu cyfansoddiadau eu hunain.

Mae Gŵyl Gerdd Newydd Bangor yn rhoi cyfle gwych i ddisgyblion glywed eu cyfansoddiadau eu hunain yn cael eu perfformio gan Catrin Finch a’r Band ddydd Sadwrn 9 Mawrth yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, a hynny’n uchafbwynt i’r gyfres arloesol hon o weithdai. Caiff dau gerddor dawnus o Ysgol David Hughes, sielydd a feiolinydd, hefyd gyfle i berfformio ochr yn ochr â Finch ar y nos Sadwrn honno. Bydd y cyngerdd yn agor Gŵyl Gerdd Newydd Bangor yn swyddogol, ac mae’n cynnwys gweithiau o albwm Finch, Annwn, a ysbrydolwyd gan chwedloniaeth hynafol o Gymru, a hynny mewn gosodiad yn arddull cabaret.

Ddydd Sul 10 Mawrth am 2pm, bydd Catrin Finch yn arwain dosbarth meistr yn Neuadd Powis, gan roi cyfle gwych i gyfansoddwyr a cherddorion eraill ddysgu am dechneg y delyn. Yna, cynhelir cyngerdd gyda’r nos gyda Finch a disgyblion o Ganolfan Gerdd William Mathias am 7pm, yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor.

Medd Owain Llwyd, “Buaswn wrth fy modd yn cael y gweithdai hyn pan oeddwn i’n astudio. Mae’n gyfle anhygoel i fyfyrwyr lefel-A gael recordiad o’u gwaith ac edrych ar dechnegau newydd ochr yn ochr â pherfformwraig broffesiynol o fri rhyngwladol.  Mae’r myfyrwyr wedi cymryd at y gweithdai’n wirioneddol, ac wedi bod yn creu gwaith gwych a gwreiddiol.”


 

Mae GGNB yn cyhoeddi’r rhaglen gyngherddau

28/01/2013

Yn ei 13eg flwyddyn o hyrwyddo artistiaid o’r safon gerddorol uchaf, mae Gŵyl Gerdd Newydd Bangor, unwaith eto, yn addo bywiogi a swyno cynulleidfaoedd wrth iddi ddathlu cerddoriaeth werin gyfoes yn ogystal â gweithiau sydd wedi’u hysbrydoli gan gêmau plentyndod.

Bydd y Delynores fyd-enwog Catrin Finch a’r band yn agor yr Ŵyl ddydd Sadwrn 9 Mawrth gyda noson Cabaret, gan chwarae darnau yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, i greu delweddau o fytholeg hynafol. Yna, ar y dydd Sul, cynhelir dosbarth meistr a chyngerdd gyda’r nos dan arweiniad Finch, yn cynnwys gweithiau a gyfansoddwyd gan ddisgyblion Canolfan Gerdd William Mathias.

Alawon gwerin, barddoniaeth a chestyll fydd yn cael y flaenoriaeth ddydd Llun 11 Mawrth, wrth i’r Ŵyl anrhydeddu ei threftadaeth Gymreig mewn cydweithrediad rhwng disgyblion ysgol, yr offerynnwr taro cyfoes Dewi Ellis Jones ac Eurig Salisbury, Bardd Plant Cymru, yng Nghapel Penrallt Chapel ym Mangor uchaf. Bydd y gyngerdd yn uchafbwynt dramatig i gyfres o weithdai a arweinir gan yr artistiaid.

Cyflwynir thema’r Ŵyl, sef gêmau plentyndod, ddydd Mawrth 12 Mawrth, pryd y bydd Ensemble Gŵyl Gerdd Newydd Bangor yn cynnig perfformiad awr ginio ysgafnfryd unigryw, yn cynnwys bwrdd gwyddbwyll anferth a chyfranogiad gan y gynulleidfa yng Nghanolfan Siopa Deiniol ar Stryd Fawr Bangor. Wedyn, cynhelir cyngerdd chwareus gyda’r nos, yn cyfuno cerddoriaeth newydd, gêmau bytholwyrdd a chreadigrwydd yn Neuadd Powis.

Ddydd Mercher 13 Mawrth, bydd gwahoddiad i gynulleidfaoedd i brofi celfyddyd sonig mewn sain lwyr amgylchynol, wrth i Electroacwstig Cymru groesawu Peiman Khosravi a chyfansoddwyr ôl-raddedig Prifysgol Bangor.

Yn olaf, daw’r ensemble cerddoriaeth gyfoes Psappha â’r Ŵyl i ben gydag uchafbwynt ddydd Iau 14 Mawrth. Bydd y gyngerdd yn cynnwys cerddoriaeth gan gyfansoddwyr preswyl Prifysgol Bangor a phlant ysgol lleol mewn teyrnged i’r cyfansoddwr o’r Eidal, Luciano Berio.

Medd Cyfarwyddwr yr Ŵyl, Guto Puw, “Rwyf wedi cynhyrfu’n lân wrth feddwl am y gyfres arloesol o gyngherddau sydd i’w cynnal eleni. rwy’n teimlo mai braint yw bod yn gysylltiedig â gŵyl sy’n cynnig cymaint o amrywiaeth o berfformiadau ac artistiaid uchel eu parch, ac eleni, mae rhychwant yr Ŵyl wedi’i ehangu’n fawr trwy gynnydd sylweddol yn y cymorth a gawn gan y Cyngor Celfyddydau. Mae’r Ŵyl yn anelu at hyrwyddo cerddoriaeth gyfoes ymysg plant ysgol, ond eleni’n benodol, rwy’n credu ein bod wedi rhagori’n wirioneddol, gyda mwy nag 20 o weithdai i ddisgyblion ar draws Gogledd Cymru, a bydd llawer o’r cyngherddau eleni’n cynnwys gweithiau gan artistiaid ifainc.”


 

Pen-blwydd Hapus i Ŵyl Cerddoriaeth Newydd Bangor yn 10 oed

21/04/2010

Ym mis Mawrth 2010, dathlodd Gŵyl Cerddoriaeth Newydd Bangor ei benblwydd yn ddeg oed. Gan adeiladu ar lwyddiant y blynyddoedd blaenorol, eleni cynhaliwyd yr ŵyl dros gyfnod o bythefnos, gyda chyngerdd gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC oedd yn cynnwys tri premiere gan dri chyfansoddwr o Gymru. Cafodd adolygiad da iawn yn y Guardian, lle nodwyd “no concert signalled the event’s energy and range better than the one given by the BBC National Orchestra of Wales and featuring three firsts.”

Cynhaliodd yr ŵyl hefyd ddigwyddiad cymunedol llwyddiannus a gwahanol iawn eleni… Cyfres o weithdai oedd “Cerddoriaeth i Fabanod” wedi eu hanelu at blant bach. Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys gwaith newydd sbon a gyfansoddwyd yn arbennig gan Guto Puw, y Cyfarwyddwr Artistig, sef “Cerddoriaeth i Bramiau” lle archwiliwyd posibiliadau acwstig pramiau.

Mae cynlluniau eisoes ar y gweill ar gyfer Gŵyl Cerddoriaeth Newydd Bangor yn 2011, a byddwn yn cyhoeddi enwau’r artistiaid yma cyn bo hir…